Dogfen
Hysbysiad Preifatrwydd - Strategaeth Treftadaeth
Fersiwn rhif 1
Dyddiad cyflwyno 27/09/2023
- Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych gyda hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw Rheolydd Data yr holl wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).
- Fel rhan o’n hymrwymiad i gadw, diogelu a chynnal ein diwylliant, ein treftadaeth, ein hamgylchedd hanesyddol a’n hiaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu Strategaeth Treftadaeth – Adfer, Adfywio, Addasu. Bydd y data personol a gasglwn oddi wrthych yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (wrth iddo gyflawni ei amrywiol swyddogaethau statudol a busnes) at y dibenion canlynol:
I asesu’r Strategaeth Treftadaeth bresennol a nodi meysydd lle mae modd rheoli a monitro’r strategaeth yn fwy effeithiol, a’i diogelu i’r dyfodol. - Fel Rheolydd Data, mae gofyn bod y Cyngor, o dan GDPR y Deyrnas Unedig, yn eich hysbysu ar ba un o “Amodau Prosesu Data” Erthygl 6 GDPR y mae’n dibynnu er mwyn prosesu eich data personol yn gyfreithlon.
Yn hyn o beth, mae eich cyfranogiad yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol – nid ydych o dan unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan, ond yn aml, os dewiswch beidio â gwneud, ni all y cyngor ymgorffori eich barn a’ch safbwyntiau chi neu eich sefydliad wrth lunio’r strategaeth. O ganlyniad, carem eich hysbysu ein bod yn dibynnu ar yr amodau canlynol yn Erthygl 6 yng nghyswllt y data a ddarperir gennych:
“Mae testun y data wedi cydsynio i brosesu eu data personol at un neu fwy o ddibenion penodol”. (Erthygl 6(1)(a) UK GDPR).
- Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd partïon (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i’r Cyngor) oni bai bod hynny’n ofynnol o dan y gyfraith.
- Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am y cyfnod canlynol:
Cedwir y data tan 31 Mawrth 2024, pryd y daw’r prosiect ymgynghori i ben. - Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o’ch data personol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop na gwlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd yr holl waith prosesu a wnawn ar eich data personol yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, Ardal Economaidd Ewrop neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.
- Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
- Sylwch, os gwelwch yn dda, o dan UK GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â’u data personol:
i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolydd data.
ii. Yr hawl i gael data gwallus wedi’i gywiro gan reolydd data.
iii. Yr hawl i gael eu data wedi’i ddileu (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolydd data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
v. Yr hawl i wrthwynebu bod eu data’n cael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi. Yr hawl i gael data sy’n gludadwy (h.y. trosglwyddo data’n electronig i reolydd data arall).
Cewch ragor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth. - Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein defnydd o’ch data personol, os ydych am gael mynediad i’r data dan sylw, neu os ydych am gyflwyno cwyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
- Sylwch, os gwelwch yn dda, os byddwch yn gwneud cais neu’n cyflwyno cwyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (gweler 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y Cyngor, bod gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael o wefan y Comisiynydd.