Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

ADY Trafnidiaeth

Mae penderfyniadau a wneir ynghylch cludiant i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn rhan o'r trefniadau gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

Nodwch na fydd cludiant fel arfer yn cael ei gofnodi yn y Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ac felly wrth wneud cais am gludiant, dylai rhieni / gofalwyr gyfeirio at Bolisi Teithio y Cyngor sef o'r Cartref i'r Ysgol. 

Mae'r prosesau asesu statudol ac adolygu blynyddol yn gofyn am gasglu amrywiaeth o wybodaeth ysgrifenedig ynghylch anghenion addysgol arbennig plentyn. Mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i benderfyniad ynghylch hawl i gludiant ar sail anghenion addysgol arbennig.

Darperir Cludiant Anghenion Addysgol am ddim dim ond lle bo'r cyngor wedi rhoi'r plentyn mewn ysgol, uned neu ysgol brif ffrwd addas ac:

  • mae'r plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gynradd ac yn byw mwy na dwy filltir o'r ysgol
  • mae'r plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol uwchradd ac yn byw mwy na thair milltir o'r ysgol
  • os bernir bod anableddau'r plentyn yn ddigon difrifol fel nad oes modd i rywun gerdded ag ef/hi i'r ysgol yn ôl yr angen, ystyrir darparu cludiant ar gyfer taith fyrrach.

Os credwch fod eich plenty yn gymwys I gael cludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol, gallwch wneud cais ar-lein:

Gwneud cais