Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Teithio i Gastell-nedd Port Talbot

Canolfannau Dinesig Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae gennym ddwy brif Ganolfan Ddinesig, sydd wedi'u lleoli yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot.  Maent o fewn pellter cerdded hawdd i'r meysydd parcio yng nghanol y trefi a'r gorsafoedd trenau a bysiau.  Cyfeiriadau'r Canolfannau Dinesig yw: -

Mae lleoedd parcio beiciau a chyfleusterau newid a chawodydd ar gael i ymwelwyr â'n Canolfannau Dinesig.

Mae teithio i Gastell-nedd Port Talbot yn hawdd ac yn cymryd tua thair awr o Lundain ar drên neu mewn car

Y ffordd hawsaf o gael gwybod sut i gyrraedd Castell-nedd Port Talbot yw cysylltu â Traveline Cymru – eich siop un stop ar gyfer teithio ar fws, coets, trên, fferi neu awyren.

Ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i wefan Traveline Cymru

Gwybodaeth am drenau

Mae digonedd o drenau cyflym yn teithio i Gastell-nedd Port Talbot o Lundain ac mae trenau'n rhedeg yn gyson o orllewin Cymru, y Gororau, Canolbarth Lloegr a de-orllewin Lloegr. Mae gorsafoedd lleol yn Llansawel a Baglan hefyd.

Ffoniwch linell ymholiadau National Rail ar 08457 484950 neu ewch i wefan National Rail Enquiries. 

Gwybodaeth am fysiau a choetsys

Mae First Cymru yn darparu gwasanaeth coetsys gwennol cyson o Gaerdydd i Gastell-nedd Port Talbot a maes awyr Bryste. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg bob awr ar adegau tawel a bob hanner awr ar adegau prysur. Ceir coetsys National Express cyson i Bort Talbot hefyd, a hynny o'r holl brif drefi eraill yn ne a gorllewin Cymru. Mae'r gwasanaeth National Express hefyd yn cysylltu â Llundain a meysydd awyr Heathrow a Gatwick.

Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i wefan Traveline Cymru.

Teithio mewn car

Mae'r M4 yn ffordd hwylus o gyrraedd Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe. Os byddwch yn teithio i Bort Talbot o gyfeiriad Caerfyrddin, mae'n well defnyddio cyffordd 41 ac, o gyfeiriad Caerdydd, y dewis hawsaf yw cyffordd 40.  I gyrraedd Castell-nedd, cyffordd 43 sydd orau o'r ddau gyfeiriad ac, ar gyfer Pontardawe, defnyddiwch gyffordd 45 o'r ddau gyfeiriad.

Mae gwybodaeth am barcio yng nghanol y trefi ac mewn rhannau eraill o Gastell-nedd Port Talbot ar gael ar ein tudalennau meysydd parcio.

Y maes awyr agosaf

Y maes awyr rhyngwladol agosaf yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd – ffoniwch 01446 711111 neu ewch i wefan Maes Awyr Caerdydd.

Llety yng Nghastell-nedd Port Talbot

Os ydych yn bwriadu ymweld â'r ardal, yna mae gwefan visitnpt.co.uk yn cynnig popeth y bydd ei angen arnoch i wneud y gorau o'ch ymweliad.