Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd

Cyflwyniad

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am Enwi a Rhifo Strydoedd (ERhS). Mae'r pwerau deddfu sy'n galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflawni'r swyddogaeth hon wedi'u cynnwys o dan adran 8 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987. Mae Deddf Gorllewin Morgannwg 1987 yn diwygio adrannau 64 a 65 o Ddeddf Cymalau Gwella Trefi 1847

Mae enwi strydoedd a rhifo eiddo’n sylfaenol i'r broses o gfreu cyfeiriadau. Prif bwrpas y polisi hwn yw sefydlu cyfeiriadau clir, penodol o fewn Castell-nedd Port Talbot a fydd o fudd i'r preswylwyr a sefydliadau gwasanaethau brys.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymwneud ag enwi strydoedd dwyieithog (ac agweddau eraill ar gyfeiriadau) mewn ffyrdd amrywiol. Yr arfer anffurfiol a fu yng Nghastell-nedd Port Talbot oedd annog bod un ffurf Gymraeg ar enw’n cael ei rhoi i strydoedd newydd, fodd bynnag nid yw’n bolisi swyddogol y cyngor, ond byddai'n gall ffurfioli'r arfer presennol. Felly mae’r pwyslais ar ffafrio enwau strydoedd Cymraeg wedi’i gynnwys yn y protocol enwi strydoedd newydd.

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ddiwylliant, hanes a hunaniaeth gyfoethog ac unigryw’r ardal a'i phreswylwyr. O ganlyniad, mae enw lle neu enw tŷ Cymraeg fel arfer yn cyfleu gwybodaeth am natur y lleoliad, am ei hanes, am ddiwylliant yr ardal, neu am y bobl oedd yn arfer byw yno. Fel cyngor, oni bai fod rheswm eithriadol i newid enw lle neu dŷ Cymraeg i'r Saesneg, ni fydd y cyngor yn cymeradwyo'r newid.

Nid yw'r Post Brenhinol yn gyfrifol am greu cyfeiriadau. Caiff cyfeiriadau eu creu o ganlyniad uniongyrchol i'r swyddogaeth ERhS statudol a gyflawnir gan bob Awdurdod Lleol ledled y DU.

Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd y cyngor yn hysbysu'r Post Brenhinol ynghyd â nifer o sefydliadau eraill o enw newydd y stryd neu rif newydd eiddo. Bydd y cyngor yn cysylltu â'r Post Brenhinol er mwyn sefydlu codau post newydd a gwneud ceisiadau i ychwanegu cyfeiriadau ar gyfer eiddo newydd at gofrestrau'r Post Brenhinol.

Mae Enwi Stryd yn wasanaeth am ddim, fodd bynnag, mae rhifo ac enwi eiddo yn wasanaeth y codir tâl amdano. Mae'r cyngor wedi datblygu graddfa o ffioedd ar gyfer gwaith Enwi a Rhifo Strydoedd, cyfeiriwch at Adran 10 am fanylion.

Mae'r ffioedd ar gyfer cynnal gwasanaethau ERhS yn talu'r costau a godir am waith ychwanegol sy'n cael ei wneud yn ôl disgresiwn y cyngor. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Post Brenhinol, hysbysu gwahanol gyrff a sefydliadau a chadarnhau cyfeiriadau mewn fformat priodol. Codir ffioedd am greu darluniau, marcio cynlluniau cynllun safle, paratoi amserlenni rhifo a chadarnhau cyfeiriadau newydd.

Ceisiadau Enwi a Rhifo Strydoedd (ERhS)

Gweithdrefn ERhS

Rhaid cwblhau pob cais gan ddefnyddio dogfen broforma ERhS. Fel arall gellir gofyn am gopi gan y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd.

Gellir naill ai e-bostio ffurflenni wedi'u llenwi neu eu hanfon drwy'r post.

Rhaid talu am wasanaethau cyn i unrhyw geisiadau gael eu prosesu. Gellir talu drwy siec, dros y ffôn (01639-686906) neu drwy system daliadau ar-lein y cyngor (dewiswch Taliadau Eraill, yna dewiswch Enwi a Rhifo Strydoedd, yna dewiswch Enwi a Rhifo Strydoedd eto). 

Rhaid gwneud ceisiadau ERhS pan fydd angen cyfeiriadau newydd neu pan fydd angen addasu cyfeiriadau eiddo presennol. Rhaid gwneud cais hefyd os oes angen enw ffordd neu enwau ffyrdd newydd (cyfeiriwch at adran 5). Er enghraifft:

  1. Ar safleoedd datblygu mawr lle mae ffyrdd ac eiddo newydd yn cael eu hadeiladu. Mae hyn yn cynnwys adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol.>
  2. Lle mae eiddo presennol yn cael eu haddasu ac mae angen cyfeiriadau newydd. Mae hyn yn cynnwys adeiladau preswyl, masnachol a diwydiannol.
  3. Pan fydd angen cyfeiriadau eiddo newydd unigol.
  4. Lle caiff eiddo eu huno neu eu rhannu h.y. annedd sengl wedi'i rhannu'n fflatiau neu ddau eiddo wedi'i addasu’n un eiddo.
  5. Ailenwi eiddo presennol. Mae hyn yn berthnasol dim ond pan adwaenir eiddo wrth ei enw’n unig yn hytrach na rhif. Cyfeiriwch at Adran 6 - pwyntiau 12 a 13.
  6. Gwneir cais i ailenwi stryd. Cyfeiriwch at Adran 7.

Sylwer: Gallwch hefyd ofyn am gadarnhad o gyfeiriad drwy'r ffurflen ERhS, drwy ddewis llythyr y cyfreithiwr a thalu'r ffi briodol.

Dim ond ar ôl i'r gwaith ddechrau ar y safle y dylid gwneud ceisiadau am rifo eiddo newydd, a phan fydd gwaith i adeiladu eiddo newydd bron â gorffen. Anogir datblygwyr i wneud cais am gyfeiriadau o leiaf dri mis cyn y dyddiad neu’r dyddiadau cwblhau adeiladu eiddo disgwyliedig. Rhaid darparu'r dyddiad neu'r dyddiadau cwblhau disgwyliedig.

Cynghorir datblygwyr safleoedd mawr i gwblhau gwaith fesul cam ac ystyried y llif disgwyliedig o rifo eiddo fel na fydd y broses rhifo eiddo a ragwelir yn dod yn dameidiog os bydd newidiadau’n cael eu gwneud i gynllun.

Bydd y cyngor yn ystyried enwi a rhifo eiddo lle nad yw'r gwaith wedi dechrau eto, ond dim ond pan fydd y datblygwr yn sicr y bydd yr eiddo'n cael eu hadeiladu a lle mae eiddo cyfagos ar yr un safle datblygu wedi'u cwblhau neu'n cael eu hadeiladu o hyd.

Dylai datblygwyr fod yn ymwybodol y bydd taliadau'n berthnasol pan fydd newidiadau i gynllun yn achosi gwaith ailenwi neu ail-rifo gan y cyngor. Bydd y taliadau hyn yn berthnasol dim ond pan fydd hysbysiad eisoes wedi'i roi i ddatblygwr a lle’r effeithir ar hysbysiad(au) blaenorol.

Rhaid i ddatblygwyr ddweud wrth y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd ar y cyfle cyntaf am unrhyw newidiadau i gynlluniau safle a fydd yn effeithio ar enwi a/neu rifo strydoedd.

Cynghorir datblygwyr hefyd y codir tâl am waith ychwanegol a wneir mewn cysylltiad â'r gofyniad i hysbysu’r Post Brenhinol a chyrff eraill o ddileu cyfeiriadau os na fydd eiddo'n cael ei adeiladu. Fodd bynnag, mae hyn ond yn berthnasol lle mae cyfeiriadau eisoes wedi'u cadarnhau i ddatblygwr gan y cyngor mewn hysbysiad(au) blaenorol.

Sylwer: Mae'n bwysig felly bod ceisiadau i enwi a rhifo’n cael eu gwneud dim ond pan fydd eiddo bron yn sicr o gael eu hadeiladu.

Dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol gyda cheisiadau i enwi a rhif eiddo newydd:

  1. Cynllun lleoliad ar raddfa briodol. Yn achos datblygiad newydd – bydd angen cynllun safle, sy'n dangos safle eiddo mewn perthynas â'r amgylchoedd daearyddol o'u cwmpas.
  2. Cynllun neu gynlluniau bloc sy'n nodi rhifau lleiniau ac amlinelliad pob eiddo newydd. Rhaid hefyd gynnwys cynlluniau llawr yn ôl yr angen h.y. ar gyfer blociau o fflatiau.
  3. Bydd yr holl eiddo sydd wedi’u rhifo a ddangosir ar ddarluniau a gyflwynir yn cael eu hystyried fel rhifau lleiniau nes bod y cyngor yn cadarnhau enwau a rhifau.
  4. Rhaid nodi dyddiad neu ddyddiadau cwblhau disgwyliedig pob eiddo.

Gweithdrefn ERhS

Bydd ceisiadau'n cael eu blaenoriaethu yn ôl y dyddiadau cwblhau disgwyliedig cyntaf.

Bydd datblygiadau lle mae angen enwi ffyrdd hefyd yn cael eu blaenoriaethu, i gydnabod y prosesau y mae angen eu dilyn a faint o amser sydd ei angen cyn y gellir cytuno ar enwau ffyrdd newydd.

Bydd derbynioldeb enwau ffyrdd newydd a gynigir gan ddatblygwyr yn cael eu gwirio yn erbyn y meini prawf a nodir yn Adran 5. Os na fydd meini prawf yn cael eu bodloni, gofynnir i ddatblygwyr gyflwyno enwau eraill.

Sylwer: Rhaid i ddatblygwyr beidio â gofyn i ysgolion na chynnal cystadlaethau ar gyfer enwau ffyrdd newydd. Rhaid ymgynghori â ni'n gyntaf.

Lle mae datblygwyr wedi gofyn i'r cyngor benderfynu ar enwau ffyrdd newydd, yna mae'n rhaid gwneud ymchwil. Gellir cysylltu ag aelodau ward lleol neu grwpiau hanesyddol am eu barn a'u mewnbwn. Gallai'r amser a gymerir i wneud hyn achosi oedi.

Unwaith y bydd enw ffordd addas yn cael ei nodi, mae'n rhaid i'r cynnig am enw ffordd newydd gael ei gyflwyno i aelodau ward lleol i'w gymeradwyo. Ar yr amod na wneir unrhyw wrthwynebiad, ar ôl cyfnod ymgynghori o dair wythnos, ystyrir bod enw'r ffordd newydd wedi'i gytuno.

Unwaith y penderfynir ar enw ffordd newydd, bydd y broses rhifo eiddo newydd yn cael ei rhoi ar waith gan ddilyn yr egwyddorion a ddisgrifir yn adran 6. Bydd y Post Brenhinol yn cael gwybod am yr holl eiddo newydd y rhoddwyd rhifau iddynt gan y cyngor, a bydd yn rhoi codau post ar gyfer y cartrefi hynny.

Bydd datblygwyr, cyrff a sefydliadau amrywiol yn cael gwybod am y cyfeiriadau newydd. Darperir cynlluniau safle ac rhestrau rhifo yn ôl yr angen.

Y Rhestr Tir ac Eiddo Lleol a’r Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol

Cronfa ddata o wybodaeth am gyfeiriadau sy'n cael ei chynnal gan Awdurdod Lleol yw'r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG). Mae gan bob Awdurdod Lleol ofyniad rheoliadol i gynnal y rhestr leol hon. Mae pob LLPG yn bwydo i mewn i gronfa ddata genedlaethol, y Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol (NLPG).

Cofnodir yr holl wybodaeth am eiddo a chyfeiriadau newydd yn uniongyrchol yn y LLPG ac yna'r NLPG.

Nid yw'n ofynnol i'r cyngor ddarparu gwybodaeth am godau post wrth gadarnhau enwi a rhifo strydoedd newydd. Os oes gan ddatblygwr neu aelod o'r cyhoedd unrhyw ymholiad am godau post, dylent ffonio’r Post Brenhinol ar 08456 011110 neu fynd i wefan y Post Brenhinol.

Protocol Enwi Strydoedd

Mae angen creu ffyrdd newydd ar rai safleoedd datblygu. Mae'n rhaid dilyn gweithdrefn enwi ffyrdd ffurfiol cyn i unrhyw enwau ffyrdd gael eu gwneud yn swyddogol.

Mae datblygwyr yn cael eu hannog i gyflwyno cynigion ar gyfer enwi ffyrdd. Rhaid bodloni'r meini prawf a nodir isod. Fel arall, gall datblygwyr ofyn i'r cyngor ddewis enw(au) ffordd newydd ar eu cyfer. Bydd penderfyniad y cyngor yn derfynol.

  1. Dylai enw newydd y stryd adlewyrchu hanes y safle neu gydnabod daearyddiaeth yr ardal. Anogir datblygwyr a phob parti arall â diddordeb i ymgynghori â'r Archifydd Sirol, y Cyngor Cymuned neu Gymdeithasau Hanesyddol Lleol eraill a allai gynnig arweiniad ar y materion hyn.
  2. Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi enwau stryd a ddefnyddir yn aml. Hyd yn oed os ydynt mewn gwahanol ardaloedd o'r sir, gall y rhain greu amwysedd i wasanaethau danfon a'r gwasanaethau brys o bosib, yn enwedig os yw codau post yn debyg.
  3. Wrth gyflwyno enw newydd, bydd y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd yn sicrhau bod gan strydoedd newydd un enw Cymraeg.
  4. Cynhyrchir arwyddion placiau stryd dwyieithog dim ond pan gaiff arwydd stryd ei ddisodli.
  5. Dylai enwau fod yn hawdd i'w hynganu a'u sillafu.
  6. Ni fydd enwau y gellid eu hystyried yn sarhaus yn cael eu derbyn.
  7. Rhaid i enwau beidio â gwrthdaro ag enwau ffyrdd eraill sy’n bodoli a ddefnyddir o fewn y sir.
  8. Rhaid i enwau strydoedd beidio â chynnwys cyfeiriadau at berson byw neu a fu farw'n ddiweddar.
  9. Dylid osgoi enwau sy'n debyg yn ffonetig h.y. Ffordd Churchill a Ffordd Birchill. Nid yw enwau gyda gwahanol ôl-ddodiaid yn dderbyniol, h.y. Heol yr Eglwys, Rhodfa'r Eglwys etc., o fewn yr un ardal.
  10. Dylai enwau strydoedd newydd osgoi defnyddio atalnodi diangen cyn belled ag y bo modd. Fel enghraifft, mae Heol y Waun yn well na Heol-Y-Waun.
  11. Lle mae ffyrdd yn cael eu torri'n barhaol oherwydd datblygiad neu ddigwyddiadau, yna dylai un rhan o'r ffordd gael ei hailenwi'n llwyr. Nid yw'r defnydd o Ogledd, De, Dwyrain neu Orllewin (fel yn Ffordd Heatherton - Gogledd neu Ffordd Heatherton - De) fel arfer yn dderbyniol, ac eithrio lle mae'r ffordd yn hir ac yn cael ei rhannu'n ddwy gan gyffordd fawr.
  12. Dylid osgoi enwau strydoedd sy'n dechrau ag 'Y/The'
  13. Dylid osgoi enwau ffyrdd ategol, fel rhes o adeiladau o fewn ffordd sydd eisoes wedi'i henwi'n 'Rhes..../Parêd....'.
  14. Lle mae strydoedd presennol yn cael eu hehangu yna dylid parhau i ddefnyddio'r enw presennol ar y ffordd lle bynnag y bo modd.

Dylai timau gwerthu a marchnata ei gwneud yn glir i ddarpar brynwyr na fydd yr enwau marchnata a ddefnyddir gan ddatblygwyr o bosib yn dod yn enw stryd ac felly ni fyddant o bosib yn rhan o gyfeiriad terfynol eiddo. Dylai taflenni gwerthu a marchnata ddatgan hyn.

Unwaith y cytunir ar enwau ar gyfer ffyrdd newydd ar gynlluniau datblygu, bydd datblygwyr yn gyfrifol am godi placiau enwau strydoedd. Gweler adran 8.

Confensiynau Rhifo Eiddo a Strydoedd

Mae rhifo eiddo mewn ffordd resymegol yn bwysig i helpu'r gwasanaethau brys pe bai angen cymorth.  Mae'r confensiynau rhifo canlynol hefyd yn cael eu cydnabod yn gyffredinol gan gwmnïau danfon ac fe'u defnyddir gan y cyngor hwn:

  1. Bydd y cyngor yn ceisio rhifo pob datblygiad eiddo newydd. Mae eithriadau'n berthnasol lle nad oes gan strydoedd presennol gynllun rhifo ar waith.
  2. Dylid rhifo strydoedd newydd gydag eilrifau ar y dde ac odrifau ar y chwith, wrth deithio i ffwrdd o ganol tref. Dylai rhifau'r tai ar gilffyrdd godi wrth fynd i ffwrdd o'r ffordd bwysicaf y maent yn dod ohoni.
  3. Bydd datblygiadau ffordd bengaead bach ac ar raddfa fach yn cael eu rhifo gan ddefnyddio rhifau dilyniannol i gyfeiriad clocwedd. Bydd datblygiadau ffordd bengaead hirach eto'n cael eu rhifo gydag odrifau ar y chwith ac eilrifau ar y dde.
  4. Dylid defnyddio pob rhif. Gwrthodir ceisiadau i hepgor rhifau (h.y. rhif 13).
  5. Ni ddylid rhifo garejys preifat ac adeiladau tebyg.
  6. Bydd eiddo'n cael eu rhifo yn ôl y stryd lle mae'r brif fynedfa. Mae hyn yn cynnwys eiddo ar gornel. Ni chaniateir dylanwadu ar y broses rifo i sicrhau cyfeiriadau llawn bri neu i osgoi cyfeiriadau annymunol.
  7. Os oes gan adeilad fynedfeydd mewn mwy nag un stryd, bydd y fynedfa sy'n cael ei hystyried yn brif fynedfa’n cael ei defnyddio i fod yn sail ar gyfer enwi a rhifo strydoedd.
  8. Lle bo’n ymarferol, dylai adeiladau sy'n cynnwys amryfal eiddo, e.e. bloc o fflatiau, gael eu henwi, a dylid rhoi rhif i’r prif adeilad. Dylai eiddo mewnol unigol y tu mewn i’r brif adeilad gael eu rhifo ar wahân.
  9. Dylai rhifau'r eiddo mewnol o fewn adeiladau ddechrau ar y pwynt isaf, gyda rhif 1 ar gyfer yr eiddo cyntaf ar y chwith wrth fynd i mewn i'r llawr isaf. Dylai rhifo barhau i gyfeiriad clocwedd ac i fyny.
  10. Bydd datblygiad mewnlenwi ar strydoedd presennol yn cynnwys ôl-ddodiad i rif yr eiddo (h.y. 21A) lle nad oes rhif olynol sydd ar gael yn bodoli yn y cynllun rhifo presennol.
  11. Mae israniad eiddo preswyl bob amser wedi'i rifo yn hytrach na'i ddisgrifio neu ei lythrennu, h.y. defnyddir Fflat 1 yn hytrach na 'Fflat Llawr Cyntaf' neu 'Fflat A'
  12. Caniateir eiddo a adwaenir gan enw’n unig os nad oes cynllun rhifo stryd wedi'i sefydlu mewn stryd. Rhaid peidio â dyblygu enwau eiddo mewn stryd nac yn yr ardaloedd cyfagos mewn lleoliadau gwledig.
  13. Ni all eiddo sydd wedi'i rifo ar stryd sydd â chynllun rhifo sefydledig newid i enw’n unig. Gellir ychwanegu enw ar yr amod nad yw'r enw’n gwrthdaro ag eiddo eraill yn y stryd neu gydag eiddo cyfagos presennol mewn lleoliadau gwledig. Nid oes angen unrhyw weithdrefn ffurfiol yn yr achos hwn. Fodd bynnag, rhaid dyfynnu a defnyddio rhif yr eiddo bob amser ym mhob gohebiaeth.

Ailenwi ac Ail-rifo Strydoedd neu Adeiladau

Efallai y bydd angen enwi/ailenwi a/neu rifo/ail-rifo strydoedd ar achlysuron prin. Neu, efallai y bydd angen rhifo/ail-rifo eiddo unigol o fewn adeilad. Dyma'r sefyllfaoedd lle gall hyn ddigwydd:

  1. Nid oes enw hysbys ar stryd.
  2. Mae dryswch wedi codi ynglŷn â'r enw cywir i'w ddefnyddio ar gyfer stryd
  3. Os oes cymysgedd o eiddo wedi'u henwi a'u rhifo mewn stryd bydd angen cyflwyno rhifau ffurfiol er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau’n rheolaidd.
  4. Mae eiddo mewnlenwi wedi achosi i systemau enwi a/neu rifo strydoedd ddod yn dameidiog ac yn afresymegol.
  5. Mae rhifo eiddo o fewn adeilad yn afresymegol ac yn achosi dryswch.
  6. Mae preswylwyr yn gwneud cais i ailenwi stryd. Bydd ffioedd yn berthnasol os bydd ailenwi'n digwydd.

Lle nad oes enw ar stryd, bydd y cyngor yn ceisio enwi'r stryd gan ddefnyddio darpariaeth Deddf Cymalau Gwella Trefi 1847, Adran 64 - Tai i'w rhifo a strydoedd i'w henwi fel y'i diwygiwyd gan adran 8 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987.

Hysbysir preswylwyr, deiliaid a pherchnogion eiddo ac ymgynghorir â nhw os bydd unrhyw ailenwi a/neu ail-rifo.

Bydd yn ofynnol cael caniatâd mwyafrif o ddwy ran o dair o breswylwyr a pherchnogion eiddo o leiaf cyn yr ystyrir unrhyw gynigion ailenwi. Bydd penderfyniad y cyngor yn derfynol.

Newid enwau tai a lleoedd o'r Gymraeg i'r Saesneg – dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y mae’r cyngor yn cymeradwyo newidiadau i enwau lleoedd neu dai hanesyddol Cymreig.

Bydd perchnogion a phreswylwyr eiddo’n cael gwybod yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud. Bydd y cyngor yn rhoi gwybod i'r Post Brenhinol, y gwasanaethau brys ac amrywiol gyrff a sefydliadau am unrhyw newidiadau sy'n digwydd.

Placiau Enwau Strydoedd

Gellir cael manyleb ar gyfer placiau enwau gan y cyngor drwy gysylltu â'r Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd.

Rhaid i blaciau enwau strydoedd gael eu gosod gan ddatblygwyr cyn i bobl ddechrau byw mewn eiddo.

Bydd manylion lleoliadau a manyleb ar gyfer placiau enwau strydoedd yn cael eu cyfleu i ddatblygwyr pan fydd hysbysiadau enwi a rhifo strydoedd yn cael eu cyhoeddi gan y cyngor.

Os yw datblygwr yn peidio â gosod placiau enwau ac mae pobl yn dod i fyw yn yr eiddo hynny yna bydd y cyngor yn gosod placiau enwau. Codir tâl ar ddatblygwyr am yr holl gostau yr eir iddynt.

Apeliadau

Rhagor o wybodaeth a chyngor

Ffïoedd a thaliadau. (prisiau'n gywir o Ebrill 2024)

Math o gais Ffi
Rhifo/Enwi un llain £58.70 fesul llain
Enwi/Rhifo hyd at bum llain £58.70 yn ogystal â £29.35 fesul llain
Enwi/Rhifo chwe llain neu fwy £86.91 yn ogystal â £29.35 fesul llain
Addasu eiddo’n fflat / Addasu eiddo o fod yn fflat £58.70 yn ogystal â £29.35 fesul fflat
Ail-rifo datblygiad (ar ôl hysbysu) £112 yn ogystal â £29.35 fesul llain
Llythyr oddi wrth y cyfreithwyr i gadarnhau cyfeiriad £45.15
Cais i newid neu ychwanegu enw/rhif at y cyfeiriad presennol £45.15
Cais i dynnu cyfeiriad o gofnodion £45.15
Ailenwi stryd ar gais preswylwyr £58.70 a £29.35 fesul llain a chostau cyfreithiol

Am gyngor neu wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd Y Ceiau Ffordd Brunel Castell - nedd SA11 2GG pref
(01639) 686741 (01639) 686741 voice +441639686741