Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyd-destun deddfwriaethol a pholisi arall

Mae deddfwriaeth ategol, a nifer o gynlluniau/strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth, a’r manteision ehangach y gall eu darparu ar gyfer pobl a chymunedau. Bydd cyflawni’r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth yn cefnogi cyflawni’r deddfwriaethau, y cynlluniau a’r strategaethau ehangach hyn, yr amlinellir y rhai mwyaf perthnasol ohonynt isod.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n cyflwyno ffyrdd newydd o weithio lle caiff holl elfennau llesiant eu hystyried gyda’i gilydd. Y nod yw hwyluso gweithio ar y cyd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy. Diffinnir hyn fel proses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Dylid cymryd camau yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, fel bod y nodau llesiant yn cael eu cyflawni.

Nodau Llesiant

5.3.1 Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at 7 nod llesiant (gweler atodiad B). Mae Tabl 1 yn amlinellu sut mae’r Cynllun yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cymru Lewyrchus

Mae meithrin gwydnwch amgylcheddol yn darparu sylfaen ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol, yn arbennig yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd. Mae adnoddau naturiol yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a gweithgarwch economaidd. Er enghraifft, mae twristiaeth gweithgaredd bywyd gwyllt ac awyr agored yn boblogaidd iawn yn CNPT, ac yn creu refeniw ar gyfer amrywiaeth o fusnesau.   

Cymru Gydnerth

laswelltir lled-naturiol, ei goetir, ei fannau gwyrdd trefol, ei afonydd, ei nentydd, ei lynnoedd a’i wlyptir, ei arfordir a’i ecosystemau morol i gyd yn cyfrannu at gynnal gallu Cymru i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Cymru Iachach

Mae adnoddau naturiol yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobl yng Nghymru. Mae mynediad i fyd natur a mannau gwyrdd trwy barciau niferus ac arfordir CNPT yn cael effeithiau cadarnhaol ar iechyd corff a meddwl. Mae Prosiect Gweithio gyda Natur CNPT yn darparu’r ddolen gyswllt honno.

Cymru Gyfartal

Mae mynediad cyfartal i ecosystemau sy’n darparu gwasanaethau diwylliannol yn cyfrannu at gydraddoldeb yng Nghymru. Trwy reoli rhannau o’n hystâd ar gyfer bioamrywiaeth, a chefnogi cyflwyno gweithgareddau â ffocws cymunedol, rydym ni’n darparu gwell mynediad.

Cymru o Gymunedau Cydlynus

Dangoswyd bod cynnwys cymunedau wrth reoli eu parciau a’u coetir lleol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae CNPT yn cefnogi grwpiau cymuned a ffrindiau i gael mynediad i fioamrywiaeth eu safleoedd lleol.

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

Mae tirweddau wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu arferion diwylliannol gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys technegau adeiladu lleol sy’n dibynnu ar ddeunyddiau lleol, ynghyd â llenyddiaeth sy’n benodol i ardal leol. Mae ein holl gyfathrebu ynghylch bioamrywiaeth yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.

Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang

Yr amgylchedd sy’n cyflenwi ein holl adnoddau materol. Trwy ofalu am ein hadnoddau naturiol, mae pawb ohonom ni’n cyfrannu at lesiant byd-eang ac yn ymateb i heriau byd-eang mewn modd cyfrifol, e.e. y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. 

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyflwyno 5 ffordd o weithio y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu dilyn er mwyn dangos sut maen nhw’n cymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler atodiad C). Rhaid i unrhyw gynllun/brosiect yn awr ddangos eu bod yn dilyn y rhain. Cyflwynir y rhain isod gydag esboniad ar sut mae’r cynllun hwn yn bodloni pob un ohonynt.

Tymor Hir

  • Trwy’r cynllun hwn bydd canfod meysydd ar gyfer rheolaeth hirdymor a newidiadau arferion gwaith a pholisi yn golygu bod modd diogelu anghenion tymor hir pobl CNPT.
  • Mae’r broses Rheoli Datblygu yn caniatáu i ni sicrhau rheolaeth hirdymor ar safleoedd sydd â mecanweithiau ar gyfer eu gwella.
  • Y cynllun hwn yw’r man cychwyn ar gyfer canfod gwelliannau pellach i sut rydym ni’n rheoli ein tir a’n hadnoddau, a fydd yn creu budd hirdymor.

Integreiddio

  • Mae CCNPT wedi gosod a chyhoeddi ein hamcanion llesiant. Bydd cyflawni’r cynllun hwn yn parhau i ffurfio rhan allweddol o gyflawni’r amcanion hyn, ac o fwyafu cyfraniad yr Awdurdod i’r Nodau Llesiant

Ymwneud

  • Trwy gefnogi Partneriaeth Natur Leol CNPT, mae’r cynllun hwn yn caniatáu ymgysylltu â thrigolion CNPT wrth wneud penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau cadwraeth natur y fwrdeistref sirol.
  • Mae’r cynllun hwn wedi caniatáu i fioamrywiaeth gael ei integreiddio’n well i flaenoriaethau meysydd gwasanaeth eraill.

Cydweithio

  • Trwy asesu polisïau ac arferion gwaith gwahanol feysydd gwasanaeth yn CCNPT, rydym ni’n canfod rhagor o ffyrdd o gydweithio.
  • Trwy’r Datganiadau Ardal byddwn ni’n gweithio gyda CNC a phartneriaid eraill i gyflawni camau ar lawr gwlad.
  • Mae cefnogi Partneriaeth Natur Leol CNPT yn golygu bod modd i ni gydweithio ag ystod eang o bartneriaid, yn arbennig cyrff anllywodraethol a grwpiau cymunedol.

Ataliaeth

  • Mae cydweithio cynnar rhwng meysydd gwasanaeth yn helpu i ganfod anawsterau posibl ac yn caniatáu ymdrin â nhw’n gynnar.
  • Mae gweithio gyda Phartneriaeth Natur CNPT yn gyfle i ni elwa o arbenigedd y tu allan i’r Awdurdod, fel bod modd i ni ganfod problemau’n gynnar, cyn iddyn nhw waethygu.
  • Mae data cenedlaethol a lleol yn cael ei grynhoi i ganfod pwysau lleol.

Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Castell-nedd Port Talbot (2018-2023)

Mae’r Cynllun Llesiant yn cyflwyno gweledigaeth hirdymor y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer CNPT, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Cynllun yn cyflwyno 4 amcan allweddol ar gyfer gwella llesiant pobl yn CNPT, ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Nodwyd y canlynol fel amcan trosfwaol, sy’n cyflawni yn erbyn pob un o’r amcanion yn y cynllun:

Gwerthfawrogi ein seilwaith gwyrdd a’i gyfraniad i’n llesiant’

Cynllun Corfforaethol Castell-nedd Port Talbot (2019-2022)

Mae amgylchedd naturiol iach yn ganolog i’r Cynllun Corfforaethol, fel y nodir yn ei weledigaeth:

Rydym am i’n bwrdeistref sirol fod yn rhywle lle mae pawb yn cael cyfle cyfartal i ddod ymlaen mewn bywyd – rhywle y mae pobl eisiau byw, dysgu a gweithio, a magu eu teulu ynddo.

Rydym am i’n hamgylchedd naturiol hardd, a’n treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog gael eu gwerthfawrogi a’u diogelu i lawer o genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Rydym hefyd am fynd ar ôl cyfleoedd newydd a phresennol i sicrhau twf economaidd, fel bod modd i ni gynnal ein cymunedau amrywiol am flynyddoedd i ddod.

Pennwyd amcanion y Cynllun Corfforaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Trwy’r amcanion canlynol, bydd y Cyngor yn mwyafu ei gyfraniad i’r nodau llesiant, sef:

  • Gwella llesiant plant a phobl ifanc;
  • Gwella llesiant pob oedolyn sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol; a
  • Datblygu’r economi a’r amgylchedd yn lleol, fel bod modd gwella llesiant pobl

Mae i’r Cynllun Llesiant a’r Cynllun Corfforaethol, fel ei gilydd, ffocws cryf ar wella llesiant, ochr yn ochr â gwerthfawrogi a diogelu ein hamgylchedd lleol. Bydd cyflawni’r camau a amlinellir yn y Cynllun hwn yn elfen hanfodol o gyflawni blaenoriaethau a nodau’r Cyngor, a’r BGC. Ar ben hynny, er bod y cynllun hwn yn cyfrannu at yr holl nodau a bennwyd yn y ddeddfwriaeth, gellir ei ddefnyddio’n benodol i ddangos ein cyfraniad i nod Cymru Gydnerth.

Polisïau Cenedlaethol

O dan y Ddeddf mae’n ofynnol bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyhoeddi Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) sy’n nodi statws cyfredol adnoddau naturiol yng Nghymru. Canfyddiadau’r adroddiad hwn sy’n darparu sylfaen ar gyfer y Polisi Adnoddau Naturiol (PAN) a gynhyrchir gan Weinidogion Cymru. Cyflawnir y blaenoriaethau a nodwyd yn y PAN ar lefel leol trwy Ddatganiadau Ardal.

Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol

Mae SoNaRR, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2016 ac a ddiweddarwyd yn 2020, yn egluro pwysigrwydd adnoddau naturiol ac yn disgrifio’r gwahanol ecosystemau. Mae’r adroddiad yn dadansoddi cyflwr adnoddau naturiol ac ecosystemau neu gynefinoedd cyffredinol, gan ddelio gyda chwmpas, cyflwr, tueddiadau a bylchau yn y dystiolaeth. Mae hyn yn caniatáu asesiad i weld i ba raddau mae adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Yna mae’n cysylltu gwydnwch adnoddau naturiol Cymru â llesiant pobl Cymru, ac mae’n edrych yn arbennig ar adferiad gwyrdd wedi’r pandemig ac yn ystyried bygythiad argyfwng yr hinsawdd.

Polisi Adnoddau Naturiol

Cyhoeddwyd y Polisi Adnoddau Naturiol (PAN) yn 2017. Mae’n nodi 3 blaenoriaeth genedlaethol; Cyflwyno atebion seiliedig ar fyd natur; Cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau; Defnyddio dull gweithredu seiliedig ar le. Mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio’r fframwaith polisi a fydd yn cyflawni’r rhain ac yn nodi’r prif heriau a chyfleoedd mewn perthynas â’n hamgylchedd naturiol.

Datganiadau Ardal

Mae CNC wedi paratoi a chyhoeddi’r Datganiadau Ardal. Caiff y Datganiadau Ardal eu llywio gan SoNaRR ac maent yn cyfuno tystiolaeth arbennig sy’n cwmpasu pynciau megis cynefinoedd, rhwydweithiau ecosystemau, ansawdd dŵr a iechyd y boblogaeth. Mae’n pennu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd i roi blaenoriaethau’r PAN ar waith.

Rhannwyd Cymru yn saith ardal, ac mae CNPT yn rhan o ardal De-orllewin Cymru, ynghyd â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Yn y datganiad mae CNC wedi nodi 4 prif thema yn ein hardal. Mae llawer o’n camau gweithredu yn cyfrannu at sawl thema.

Lleihau anghydraddoldebau iechyd: archwilio’r cyfleoedd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd trwy ddefnyddio adnoddau a chynefinoedd naturiol.

Nod ein camau gweithredu cysylltiedig â chynyddu ymwybyddiaeth, seilwaith gwyrdd a Chynllun Gweithredu CNPT ar gyfer Adferiad Byd Natur fydd caniatáu i bobl ddod yn gyfarwydd â byd natur o’u cwmpas. Byddant yn annog rhyngweithio a gwerthfawrogi adnoddau a chynefinoedd naturiol.

Sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar dir: sicrhau bod ein tir yn cael ei reoli’n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein camau gweithredu cysylltiedig â rheoli datblygu, darparu cyngor a’n rheolaeth ein hunain ar dir i gyd yn ein galluogi i ddylanwadu ar reoli tir.

Gwyrdroi dirywiad bioamrywiaeth, a’i wella: archwilio sut gallwn ni wyrdroi dirywiad bioamrywiaeth trwy adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

Mae ein camau cysylltiedig â rheoli datblygu, darparu cyngor, ein rheolaeth ein hunain ar dir, cefnogi Partneriaeth Natur CNPT, Seilwaith Gwyrdd, rhywogaethau anfrodorol ymwthiol a Chynllun Gweithredu CNPT ar gyfer Adferiad Natur i gyd yn cynnig cyfleoedd i feithrin rhwydweithiau ecolegol cydnerth.

Thema drosfwaol: lliniaru ac addasu i hinsawdd newidiol: mae’n edrych ar sut gallwn ni addasu ac ymateb i hinsawdd newidiol.

Gall ein camau cysylltiedig â rheoli datblygu, seilwaith gwyrdd, ansawdd aer a Choed Cymru i gyd gyfrannu at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (2015) (NRAP) gan Grŵp Gweithredu’r NRAP. Mae gan y grŵp ystod eang o aelodau, o Lywodraeth Cymru, CNC, Sefydliadau Cadwraeth Natur, y sector ffermio a sefydliadau eraill sector cyhoeddus a phreifat.

Mae’r NRAP yn cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth fel sylfaen ar gyfer ecosystemau gweithredol iach, llesiant dynol a’r economi. Mae’r NRAP yn adeiladu ar y fframweithiau deddfwriaethol newydd a amlinellwyd uchod ac yn nodi sut gallwn ni, yng Nghymru, ymdrin ag achosion gwaelodol colli bioamrywiaeth. Yn benodol trwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod natur yn ganolog wrth wneud penderfyniadau 
  • Cynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol
  • Cymryd camau penodol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau

Mae’n nodi sut bydd Cymru yn cyflawni ymrwymiadau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol a Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE. Mae’n nodi sut byddai Cynllun Bioamrywiaeth Strategol Confensiwn Amrywiaeth Biolegol (CBD) Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig a’r Targedau Bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig ar gyfer 2011-20 yng Nghymru yn derbyn sylw, a dyna yw Strategeth Bioamrywiaeth Cenedlaethol a Chynllun Gweithredu Cymru o dan darged Aichi 17. Mae’r NRAP yn cyflwyno’r ymrwymiad i wyrdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru. Uchelgais y cynllun yw: Gwyrdroi dirywiad bioamrywiaeth, oherwydd ei werth cynhenid, a sicrhau manteision parhaol i’r gymdeithas.

Mae Rhan 1 o’r NRAP yn cyflwyno’r amcanion sy’n angenrheidiol yng Nghymru i gyflawni’r uchelgais. Cyflwynir yr amcanion isod, ac mae manylion llawn yn Atodiad D.

Amcanion yr NRAP

  1. Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth yn yr holl benderfyniadau a wneir ar bob lefel 
  2. Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd â’r pwysigrwydd pennaf a gwella’u rheolaeth 
  3. Cynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio a chreu cynefinoedd 
  4. Taclo pwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd 
  5. Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro 
  6. Rhoi fframwaith llywodraethu a chefnogi cyflawni ar waith 

Mae Rhan 2 o’r NRAP (diweddarwyd yn 2020) yn cyflwyno cynllun gweithredu, gyda nifer o gamau wedi’u dyrannu i Awdurdodau Lleol fel partneriaid cyflawni allweddol.

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot (2011-2026)

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol, a fabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016, yn tywys datblygiad y sir yn y dyfodol. Mae’n offeryn pwysig o safbwynt cadwraeth bioamrywiaeth. Mae polisïau’n helpu i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Mae hyn yn cynnwys safleoedd sydd â dynodiadau rhyngwladol i leol. Mae nodweddion naturiol heb eu dynodi, sydd serch hynny’n bwysig, megis coed, coetir neu byllau, hefyd yn cael eu diogelu.

Ceir manylion ynghylch sut mae dylunio datblygiad i gyflawni’r amddiffyniad hwn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth (Mai 2018). Mae’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn sgrinio a, lle bo hynny’n briodol, yn gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio er mwyn sicrhau bod y polisïau’n cael eu cyflawni.

Mae CCNPT yn darparu Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Oddi mewn i’r AMB ceir dangosyddion a phwyntiau sbarduno. Gall cyrraedd pwyntiau sbarduno arwain at nifer o ymyriadau, o hyfforddi staff i adolygu polisi.

Y Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy

Mae’r Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddu yn nodi sut byddwn ni’n arwain trwy esiampl ac yn lleihau ein hôl troed carbon wrth gyflawni ein gweithrediadau a’n swyddogaethau. Mae’n cydnabod pwysigrwydd ecosystemau ar gyfer atafaelu carbon. Mae camau gweithredu yn y strategaeth yn ein hymrwymo i archwilio seilwaith gwyrdd ac atebion cynefin i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Y Cynllun Rheoli Cyrchfan (2015-2020)

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan (CRhC) yn ddatganiad a rennir o fwriad i reoli cyrchfan, gan amlinellu rolau gwahanol randdeiliaid a nodi’r camau gweithredu y byddant yn eu cymryd. Mae’r CRhC yn cydnabod rôl bwysig yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth wrth annog ymweliadau â’r ardal leol, fel rhan o’r tirlun ehangach a chan ganiatáu i ni arddangos y rhywogaethau a’r cynefinoedd sy’n arbennig i CNPT.