Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gweithredu a monitro

Gweithredu

Mae cyflawni’r Cynllun yn gyfrifoldeb i’r Cyngor cyfan, fodd bynnag mae cydlynu ac adrodd yn nwylo Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt y Cyngor, gydag Ecolegydd ymroddedig (Cynlluniau a Phrosiectau) yn ei le i fwrw golwg dros y swyddogaeth hon.

Mae’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn cydweithio’n agos ag adrannau eraill i gyflawni gofynion y Cynllun, ac yn y pen draw gydymffurfio â’r Ddyletswydd Ecosystemau a Gwydnwch.

Mae Camau Gweithredu’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth (fel y manylir yn Adran 7) yn y Cynllun yn nodi’n benodol beth mae’r Awdurdod yn bwriadu ei wneud i gyflawni ei ofynion cyfreithiol o ran dyletswydd gwydnwch bioamrywiaeth ac ecosystemau. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar adrodd, lluniwyd camau gweithredu’r Cynllun yn unol ag amcanion yr NRAP. Mae’r camau gweithredu a ddyrannwyd i Awdurdodau Lleol yn yr NRAP hefyd yn cael eu hymgorffori i’r cynllun hwn.

Gan fod camau gweithredu’n aml yn cyflawni yn erbyn mwy nag un amcan, amlygir yr holl amcanion sy'n berthnasol i'r cam gweithredu hwnnw o dan y cerrig milltir

Lle ceir newidiadau sylfaenol i derminoleg, neu ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o ecosystemau, gellir diweddaru’r cynllun hwn i adlewyrchu’r newidiadau hynny ar unrhyw adeg.

Monitro ac adrodd

Cynhyrchwyd adroddiad ar gynnydd yn erbyn y cynllun yn 2020, ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2017 tan ddiwedd Mawrth 2020 (Blynyddoedd 1 a 2). Mae’r adroddiad hwn, sy’n dwyn yr enw Adroddiad Gweithredu, ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor.

Bydd monitro’r Cynllun yn parhau yng ngofal y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt, wedi’i alinio â blynyddoedd ariannol, fel bod modd i ni fonitro camau gweithredu yn unol ag arian grant. Bydd monitro’n digwydd yn unol â’r amserlen ganlynol:

Blwyddyn 3 = Ebrill 2020– Mawrth 2021

Blwyddyn 4 = Ebrill 2021 – Mawrth 2022

Blwyddyn 5 = Ebrill 2022 - Mawrth 2023 etc.

Adroddir ar gyflawni’r Cynllun mewn Adroddiad Gweithredu bob 3 blynedd, yn unol â gofynion Deddf yr Amgylchedd Cymru. Bydd yr adroddiad gweithredu yn cael ei gyflawni erbyn dechrau Medi mewn unrhyw flwyddyn adrodd er mwyn caniatáu digon o amser i ddilyn proses y pwyllgor, gyda’r bwriad o gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn tua diwedd Hydref. Bydd yr adroddiad ar Flynyddoedd monitro 3-5 yn digwydd ddiwedd 2023.

Bydd yr Adroddiad Gweithredu, ynghyd â’r Cynllun diweddaraf, ar gael i’r cyhoedd ar wefan y Cyngor.

Bydd y cynllun blaenorol yn parhau mewn grym hyd nes bod yr un newydd wedi’i gytuno’n ffurfiol.

Mae Cyflawni’r Cynllun hefyd wedi’i integreiddio i Gynllun Corfforaethol y Cyngor, gydag amcanion allweddol yn cael eu hadrodd fel rhan o broses monitro ac adrodd y Cynllun Corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer estyn y tir ym mherchnogaeth y cyngor sy’n cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth. Cyhoeddir adroddiadau cynnydd bob chwarter ac yn flynyddol.

Robin