Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Atodiad B - Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cymru Lewyrchus

Mae meithrin gwydnwch amgylcheddol yn darparu sylfaen ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol, yn arbennig yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd. Mae adnoddau naturiol yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a gweithgarwch economaidd. Er enghraifft, mae twristiaeth gweithgaredd bywyd gwyllt ac awyr agored yn boblogaidd iawn yn CNPT, ac yn creu refeniw ar gyfer amrywiaeth o fusnesau.   

Cymru Gydnerth

laswelltir lled-naturiol, ei goetir, ei fannau gwyrdd trefol, ei afonydd, ei nentydd, ei lynnoedd a’i wlyptir, ei arfordir a’i ecosystemau morol i gyd yn cyfrannu at gynnal gallu Cymru i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Cymru Iachach

Mae adnoddau naturiol yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobl yng Nghymru. Mae mynediad i fyd natur a mannau gwyrdd trwy barciau niferus ac arfordir CNPT yn cael effeithiau cadarnhaol ar iechyd corff a meddwl. Mae  Prosiect Gweithio gyda Natur CNPT yn darparu’r ddolen gyswllt honno.

Cymru Gyfartal

Mae mynediad cyfartal i ecosystemau sy’n darparu gwasanaethau diwylliannol yn cyfrannu at gydraddoldeb yng Nghymru. Trwy reoli rhannau o’n hystâd ar gyfer bioamrywiaeth, a chefnogi cyflwyno gweithgareddau â ffocws cymunedol, rydym ni’n darparu gwell mynediad.

Cymru o Gymunedau Cydlynus

Dangoswyd bod cynnwys cymunedau wrth reoli eu parciau a’u coetir lleol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae CNPT yn cefnogi grwpiau cymuned a ffrindiau i gael mynediad i fioamrywiaeth eu safleoedd lleol.

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

Mae tirweddau wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu arferion diwylliannol gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys technegau adeiladu lleol sy’n dibynnu ar ddeunyddiau lleol, ynghyd â llenyddiaeth sy’n benodol i ardal leol. Mae ein holl gyfathrebu ynghylch bioamrywiaeth yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.

Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang

Yr amgylchedd sy’n cyflenwi ein holl adnoddau materol. Trwy ofalu am ein hadnoddau naturiol, mae pawb ohonom ni’n cyfrannu at lesiant byd-eang ac yn ymateb i heriau byd-eang mewn modd cyfrifol, e.e. y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.