Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Geirfa

Termau a chyfeiriadau a fydd o ddefnydd wrth ddarllen y ddogfen hon

Coed Cymru: Sefydliad coetir yng Nghymru sy’n gweithio i wella cyflwr coetir Cymru.

Canolfan Cofnodion Lleol: Canolfan ar gyfer coladu, rheoli a lledaenu data bioamrywiaeth.

MapMate: Meddalwedd cofnodi biolegol

Adnoddau Naturiol:

  1. a) Anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill.
  2. b) Aer, dŵr a phridd.
  3. c) Mwynau.
  4. d) Nodweddion a phrosesau daearegol.
  5. e) Nodweddion ffisiograffigol.
  6. f) Nodweddion a phrosesau hinsoddol

Partneriaeth Natur Leol CNPT: Grŵp o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd i wella bioamrywiaeth yn CNPT

Datblygu cynaliadwy: Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy weithredu, yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, mewn modd sy’n ceisio cyflawni’r nodau llesiant.

Egwyddor datblygu cynaliadwy: Gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Confensiwn y CU ar Amrywiaeth Biolegol: Cytuniad amlochrog â thri phrif nod:  

  1. cadw amrywiaeth biolegol (neu fioamrywiaeth);
  2. defnydd cynaliadwy o’i gydrannau; a
  3. rhannu manteision sy’n deillio o adnoddau genetig mewn modd teg a chyfartal