Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Atodiad D - Amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth fwrw gwreiddiau yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Mae'n hanfodol rhoi natur wrth graidd y broses benderfynu er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd colli bioamrywiaeth. Yn 2011, roedd Asesiad Cenedlaethol y DU o Ecosystemau7 yn nodi’r hyn sy'n achosi colli bioamrywiaeth a diraddio ecosystemau: ‘The natural world, its biodiversity and its constituent ecosystems are critically important to our well-being and economic prosperity, but are consistently undervalued in conventional economic analyses and decision making.’ Mae diffyg ymwybyddiaeth, a'r ffordd wedyn y rhoddir gwerth ar y cyfraniad hollbwysig y mae natur yn ei wneud at ein llesiant a'n bywoliaeth, yn golygu ein bod yn aml yn anghofio rhoi cyfrif am y cyfraniad hwnnw wrth wneud penderfyniadau, ar bob lefel o'r gymdeithas, o unigolion i awdurdodau lleol a busnesau. Gall hyn arwain at niweidio byd natur neu orymelwa arno. Nid oes mecanweithiau ychwaith i ategu’r ystyriaethau hyn. Er enghraifft, nid yw 'incwm a gollir' yn rhoi digon o gyfrif am werth y gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan gynefin fferm.

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf a'u rheoli'n well

Mae rhywogaethau a chynefinoedd yn rhyfeddol ac yn ysbrydoli pobl ac mae'n ddyletswydd foesol arnom eu gwarchod hwy a'u hamrywiaeth genetig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyma flociau adeiladu ein hecosystemau a'r ffordd y maent yn gweithio ac fe gawn lu o wasanaethau a manteision yn eu sgil. Rhaid inni sicrhau bod gennym boblogaethau o rywogaethau cydnerth i'w cynnal. Mae safleoedd sydd wedi'u dynodi ar gyfer cadwraeth natur yn chwarae rhan bwysig: maent yn allweddol o ran cynnal yr amrywiaeth naturiol sy'n ofynnol er mwyn sicrhau cydnerthedd, ac maent yn cyfrannu mwy na'u siâr at ystod eang o wasanaethau a manteision ecosystemau. Dynodir safleoedd at ddibenion cadwraeth natur i warchod a gwella ein cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf prin, a'r enghreifftiau gorau o'n bioamrywiaeth a'n geoamrywiaeth naturiol yng Nghymru. Systemau cymhleth, hynafol yn aml yw'r amgylcheddau hyn sy'n gyforiog o rywogaethau ac yn cynnwys storfa enetig o blanhigion ac anifeiliaid. Mae dulliau cadwraeth natur traddodiadol sy'n seiliedig ar safleoedd dynodedig a gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r dulliau hyn. Mae ein safleoedd a'n rhywogaethau gwarchodedig yn adnodd craidd, ond mae perygl iddynt gael eu hynysu, a gall y ffaith bod y safleoedd hyn o dan bwysau o'r tu allan olygu eu bod yn anodd eu rheoli.

Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi'u diraddio a chreu cynefinoedd

Cynefinoedd sydd wedi'u diraddio yw'r rhai nad ydynt bellach yn cynnal potensial llawn ein bywyd gwyllt cynhenid. Er mwyn diogelu ein rhywogaethau gwarchodedig a chryfhau cydnerthedd rhywogaethau a chynefinoedd ar raddfa ehangach, mae angen inni adfer rhwydweithiau o gynefinoedd i gyflwr iach ledled Cymru, ar y tir ac yn y môr. Drwy adfer cynefinoedd sydd wedi'u diraddio a chreu cynefinoedd, bydd modd datblygu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol drwy gymryd camau mewn perthynas â phedair priodoledd cydnerthedd: · Cynyddu bioamrywiaeth · Ehangu ecosystemau drwy leihau darnio · Gwella’r cysylltedd o fewn ecosystemau a rhyngddynt · Gwella cyflwr cynefinoedd. Bydd y cydnerthedd hwn hefyd yn cryfhau gallu rhywogaethau a chynefinoedd i ymaddasu i fathau eraill o bwysau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd.

Amcan 4: Mynd i'r afael â'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Yn Asesiad Cenedlaethol y DU o Ecosystemau gwelwyd bod newidiadau o ran arferion rheoli tir, yn sgil amaethyddiaeth a threfoli, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol, ac mai dyma rhai o'r prif ddylanwadau sy'n arwain at golli cynefinoedd a rhywogaethau ac at eu darnio. Ynghyd ag asideiddio ac ewtroffigedd, mae hyn wedi newid nifer ac ansawdd y cynefinoedd a'r rhywogaethau y gallant eu cynnal. Yn yr amgylchedd morol, ymhlith y dylanwadau mwyaf, mae gweithgarwch anghynaliadwy gan bobl, newid yn yr hinsawdd sy'n arwain at gynhesu ac asideiddio moroedd a chefnforoedd y byd, ynghyd â chyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'n hanfodol rhag-weld, atal a lliniaru'r hyn sy'n arwain at golli bioamrywiaeth wrth ei wraidd, gan ddefnyddio ein deddfwriaeth, ac atebion arloesol a chyfannol sy'n seiliedig ar natur.

Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n gwaith monitro

Er mwyn helpu natur i adfer, mae angen inni lywio'r camau gweithredu drwy ddeall yn well ecoleg a gwyddoniaeth ein cynefinoedd a'n rhywogaethau, eu statws a'u tueddiadau, a'r pwysau a'r sbardunau sy'n arwain at newidiadau.

Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Yn sail i’n gweithredu, mae angen hefyd inni gael strwythur llywodraethu sy'n addas at y diben i fod yn gefn i’r gweithredu a'r cyflawni ar lawr gwlad. Mae angen inni sicrhau bod gennym y sgiliau, yr arbenigedd, y gweithwyr a'r swyddogaethau ar waith i gyflawni hyn.