Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyflwyniad

“Mae’r Ddaear ar ymyl y dibyn, ac rydym ni’n wynebu dewis llwm: naill ai byddwn ni’n parhau fel yr ydym, ac yn achosi difrod nad oes modd ei drwsio i’n planed, neu byddwn ni’n cofio ein pŵer unigryw fel bodau dynol a’n gallu parhaus i arwain, arloesi a datrys problemau. Gall pobl gyflawni pethau mawr. Yn ystod y deng mlynedd nesaf byddwn ni’n wynebu un o’n profion pennaf – degawd o weithredu i drwsio’r ddaear.” - Y Tywysog William O https://earthshotprize.org/

Mae Llywodraethau ar draws y byd wedi cydnabod argyfyngau’r Hinsawdd a Byd Natur. Mae Adroddiad Cyflwr Byd Natur i Gymru, a gynhyrchwyd yn 2019, yn cyflwyno darlun sy’n peri pryder, gyda phrif benawdau fel y canlynol: mae 8% o rywogaethau Cymru o dan fygythiad o farw allan; ers 1970 mae 41% o rywogaethau’r Deyrnas Unedig wedi gweld dirywiad yn eu poblogaethau; yng Nghymru ceir hyd i fywyd gwyllt mewn 30% yn llai o leoedd. Gweithgaredd dynol fel amaeth, llygredd a threfoli sy’n gyfrifol am lawer o’r dirywiadau hyn ym myd natur. Mae colli natur yn effeithio ar ein bywydau. Mae’r buddion yr ydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd, sy’n dod o fyd natur, e.e. peillio ein bwyd, lliniaru llifogydd a thynnu llygryddion allan o’r aer rydym ni’n ei anadlu, yn cael eu herydu’n gyflym gan ddirywiadau o’r fath ym myd natur.

Mae gan Gymru gyfres o ddeddfwriaeth amgylcheddol gref. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig “Rydym ni’n gobeithio y bydd yr hyn mae Cymru’n ei wneud heddiw yn cael ei wneud gan y byd yfory” am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf hon, ynghyd â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn ceisio sicrhau bod Cymru yn wlad gynaliadwy, flaengar.

O dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, “y Ddeddf”, mae dyletswydd statudol ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot (CCNPT) i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth ymarfer ei swyddogaethau. Fel rhan o’r ddyletswydd honno, mae’n ofynnol ein bod yn paratoi ac yn cyhoeddi cynllun ynghylch sut rydym ni’n bwriadu cydymffurfio â hynny; dyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau.

Cyhoeddwyd Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth cyntaf Castell-nedd Port Talbot (CNPT) ym mis Rhagfyr 2017. Yn y cynllun hwn roedd camau gweithredu wedi’u targedu y byddai’r Cyngor yn eu cyflawni i fodloni gofynion y Ddeddf. Wedi hynny, cynhyrchwyd adroddiad ar gynnydd yn erbyn y cynllun yn 2020, ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2017 tan ddiwedd Mawrth 2020. Mae’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gweithredu, ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae’r Adroddiad Gweithredu yn amlygu’r gwaith cadarnhaol mae CCNPT yn ei wneud er budd bioamrywiaeth, gan ddangos cynnydd da yn erbyn cyflawni’r ddyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi newidiadau y dylid eu gwneud i’r camau gweithredu wrth ddatblygu’r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth newydd, wedi’i ddiweddaru (y Cynllun). Mae’r Cynllun newydd hwn, sy’n cwmpasu’r cyfnod o fis Ebrill 2020 tan fis Mawrth 2023, yn nodi sut bydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd statudol o safbwynt bioamrywiaeth, ac o ganlyniad yn cefnogi gweithredu byd-eang i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Y diffiniad o Fioamrywiaeth yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru)  2016 yw: “amrywiaeth organebau byw, p’un a yw hynny ar lefel geneteg, rhywogaeth neu ecosystem” 

Bioamrywiaeth sy’n gyrru gweithrediad a gwydnwch ein hecosystemau.

Roedd Confensiwn y CU ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn diffinio ecosystemau fel: “cyfuniad deinamig o blanhigion, anifeiliaid a micro-organebau a’u hamgylchedd nad yw’n fyw, yn rhyngweithio fel uned weithredol”