Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Camau gweithredu

Amcan 1 yr NRAP: Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth yn yr holl benderfyniadau a wneir ar bob lefel

1.1 Y Gwasanaeth Cynghori Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ystyried bioamrywiaeth mewn ystod eang o swyddogaethau, gan gynnwys trwy weithredu polisïau’r CDLl wrth wneud penderfyniadau trwy’r broses rheoli datblygu ac fel rhan o’r Corff Cymeradwyo ar gyfer SuDs (Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy.
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Dilynwyd yr holl gyngor a gofnodwyd yn y daenlen
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Dilynwyd yr holl gyngor a gofnodwyd yn y daenlen
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Dilynwyd yr holl gyngor a gofnodwyd yn y daenlen
  • Amcanion yr NRP - 1,6 

1.2 Asesiad Gwasanaeth

  • Cam gweithredu - Mae pob gwasanaeth i gael asesiad risg er mwyn pennu eu heffaith bosibl ar fioamrywiaeth a chyfleoedd ar gyfer arfer gorau. Darperir hyfforddiant fel sy’n briodol
  • Mecanwaith adrodd - Adroddiadau safonol gan y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer pob gwasanaeth
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Asesiadau gwasanaeth yn parhau
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Asesiadau gwasanaeth yn parhau
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Asesiadau gwasanaeth wedi’u cwblhau
  • Amcanion yr NRP - 1

1.3 Ymgysylltu Cynnar Y Tȋm Cefn Gwlad A Bywyd Gwyllt

  • Cam gweithredu - Mae meysydd gwasanaeth eraill yn ymgynghori’n rheolaidd â’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ac yn rhoi cyngor a gwasanaethau priodol.
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen Ymgynghoriaeth y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt / PASTA (cronfa ddata cofnodi amser)
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cadw’r swyddogaeth ymgynghori fewnol a pharhau i ddarparu cyngor cynnar i feysydd gwasanaeth ar draws yr Awdurdod. Dilynwyd pob cyngor.
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cadw’r swyddogaeth ymgynghori fewnol a pharhau i ddarparu cyngor cynnar i feysydd gwasanaeth ar draws yr Awdurdod. Dilynwyd pob cyngor.
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cadw’r swyddogaeth ymgynghori fewnol a pharhau i ddarparu cyngor cynnar i feysydd gwasanaeth ar draws yr Awdurdod. Dilynwyd pob cyngor.
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

1.4 Y Broses O Wneud Dewisiadau

  • Cam gweithredu - Mae’r Asesiad Effaith Integredig (AEI) sy’n cyd-fynd â’r holl adroddiadau pwyllgor sydd angen penderfyniad, yn cynnwys asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Mecanwaith adrodd - Adran safonol mewn adroddiadau pwyllgor
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Pob adroddiad pwyllgor lle mae angen penderfyniad yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau’r asesiad effaith
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Pob adroddiad pwyllgor lle mae angen penderfyniad yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau’r asesiad effaith
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Pob adroddiad pwyllgor lle mae angen penderfyniad yn cynnwys adroddiad ar ganlyniadau’r asesiad effaith
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

1.5 Hyfforddiant

  • Cam gweithredu -Cymerir cyfleoedd i integreiddio bioamrywiaeth i unrhyw hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig neu swyddogion (lle bo hynny’n briodol) sy’n cael ei gyflwyno i gynyddu ymwybyddiaeth o Ddyletswydd A6 / Bioamrywiaeth.
  • Mecanwaith adrodd - Mynychu hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Ymchwilio i opsiynau hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cyflwyno hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cyflwyno hyfforddiant
  • Amcanion yr NRP - 1, 6

1.5 Hyfforddiant

  • Cam gweithredu -Cymerir cyfleoedd i integreiddio bioamrywiaeth i unrhyw hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig neu swyddogion (lle bo hynny’n briodol) sy’n cael ei gyflwyno i gynyddu ymwybyddiaeth o Ddyletswydd A6 / Bioamrywiaeth.
  • Mecanwaith adrodd - Mynychu hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Ymchwilio i opsiynau hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cyflwyno hyfforddiant
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cyflwyno hyfforddiant
  • Amcanion yr NRP - 1, 6

1.6 CCA Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Rhoi’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Bioamrywiaeth ar waith, yn unol â pholisïau’r CDLl
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen Gynllunio’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Rhoi’r CCA ar waith
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Rhoi’r CCA ar waith
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Rhoi’r CCA ar waith
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

1.7 Proses Llesiant

  • Cam gweithredu - Cyflawni yn erbyn ‘Ffurfio CNPT’, Blaenoriaeth Gwelliant 3.5 yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor; diogelu, gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol gan gynyddu ymwybyddiaeth o’i werth ac annog cyfranogiad ehangach. Cefnogi cyflawni Amcan Croestoriadol Seilwaith Gwyrdd Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Mecanwaith adrodd - TTrwy’r Cynllun Corfforaethol ac adroddiadau blynyddol y BGC
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Fel sy’n ofynnol gan y Cynllun Corfforaethol ac adroddiadau Mecanwaith y BGC
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Fel sy’n ofynnol gan y Cynllun Corfforaethol ac adroddiadau Mecanwaith y BGC
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Fel sy’n ofynnol gan y Cynllun Corfforaethol ac adroddiadau Mecanwaith y BGC
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

1.8 Strategaethau Newydd Y Cyngor

  • Cam gweithredu - Lle bo hynny’n briodol mae’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt i gydweithio ag adrannau eraill er mwyn helpu i ddatblygu strategaethau neu gynlluniau sy’n cyfrannu at gadwraeth bioamrywiaeth, ac ymateb i ymgyngoriadau ac adolygiadau o gynlluniau presennol.
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen Adrodd Cynllun y Ddyletswydd Bioamrywiaeth
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Amherthnasol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Amherthnasol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Amherthnasol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 6

Amcan 2 yr NRAP: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd â’r pwysigrwydd pennaf a gwella’r dull o’u rheoli

2.1 Y Broses Rheoli Datblygu

  • Cam gweithredu - Ar hyn o bryd mae CCNPT yn ystyried bioamrywiaeth (gan gynnwys rhywogaethau a chynefinoedd sydd â’r pwysigrwydd pennaf, safleoedd dynodedig, safleoedd pwysig ar gyfer cadwraeth natur (SINC), cynefinoedd a rhywogaethau sy’n bodloni meini prawf SINC, a nodweddion naturiol pwysig) trwy’r broses rheoli datblygu, yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol. Cofnodir colledion i gynefinoedd/rywogaethau a ddiogelir neu sy’n flaenoriaeth (lle bo hynny’n hysbys)
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Dim colledion net a, lle bo modd, enillion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau A7 a SINC trwy’r broses gynllunio. Dim colledion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau sy’n brif nodweddion safle
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Dim colledion net a, lle bo modd, enillion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau A7 a SINC trwy’r broses gynllunio. Dim colledion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau sy’n brif nodweddion safle
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Dim colledion net a, lle bo modd, enillion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau A7 a SINC trwy’r broses gynllunio. Dim colledion net o ran cynefinoedd/rhywogaethau sy’n brif nodweddion safle
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

2.2 Partneriaeth Natur Cnpt

  • Cam gweithredu - Bydd y Cyngor yn cefnogi Partneriaeth Natur CNPT wrth ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Adferiad Natur CNPT. Mae’r Cynllun Gweithredu yn fecanwaith allweddol ar gyfer cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd yn y Sir.
  • Mecanwaith adrodd - Bydd cynllun yn ei le a chaiff y camau gweithredu eu cofnodi a’u cyhoeddi
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cytunir ar yr Amserlen a’r Broses gyda’r Bartneriaeth Natur
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - I’w chadarnhau
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - I’w chadarnhau
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

2.3 Cynyddu Ymwybyddiaeth

  • Cam gweithredu - Mae’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn cynyddu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd; hyfforddiant, ymgysylltu â’r cyhoedd (teithiau cerdded/sgyrsiau), paneli dehongli, taflenni, tudalennau ar y we, cyfryngau cymdeithasol
  • Mecanwaith adrodd - Cyflawni’r prosiect a chynnal a chadw tudalennau CCNPT ar y we a thudalen Bywyd Gwyllt CNPT ar Facebook
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - 2 brosiect cynyddu ymwybyddiaeth y flwyddyn a chynnydd yn y dilynwyr ar y dudalen Facebook o flwyddyn i flwyddyn
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - 2 brosiect cynyddu ymwybyddiaeth y flwyddyn a chynnydd yn y dilynwyr ar y dudalen Facebook o flwyddyn i flwyddyn
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - 2 brosiect cynyddu ymwybyddiaeth y flwyddyn a chynnydd yn y dilynwyr ar y dudalen Facebook o flwyddyn i flwyddyn
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 5 

2.4 Archwiliad Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Cynnal archwiliad bioamrywiaeth ar dir o fewn ein perchnogaeth a’n rheolaeth, i ganfod ble mae gennym gynefinoedd a rhywogaethau A7/a ddiogelir ar ein tir. Yna rhoddir blaenoriaeth i’r ardaloedd/safleoedd hynny lle nodwyd cynefinoedd / rhywogaethau Adran 7 a ddiogelir sy’n cynnig y budd mwyaf i fioamrywiaeth, gan ystyried un o’r opsiynau canlynol:
    1. Y status quo – heb gymryd camau pellach
    2. Eu rheoli’n briodol er budd bioamrywiaeth. Gallai hynny ddigwydd trwy:

      Yr Awdurdod a, lle bo angen, gellir sicrhau ffynonellau refeniw addas ar ffurf cyllid allanol i gynnal a rheoli’r safleoedd a nodwyd.

      Prydlesu i bartïon allanol.

      DS Mae angen adrodd am unrhyw golled ariannol ddamcaniaethol i’r Awdurdod a chytuno arni cyn rhoi unrhyw brydles
    3. Wrth waredu unrhyw safle yn y dyfodol, cynhwysir gwybodaeth berthnasol o’r archwiliad, fel bod modd i’r prynwr/tenant gydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
    4. Cyn ymgymryd ag unrhyw waith a/neu unrhyw newidiadau pwysig i ddefnydd tir ar safleoedd ym mherchnogaeth a than reolaeth yr Awdurdod, cymerir i ystyriaeth ganfyddiadau’r archwiliad, gan gymryd camau i ddiogelu a, lle bod modd, wella’r gwerth o ran bioamrywiaeth
  • Mecanwaith adrodd - Yr adroddiad cyntaf fydd canlyniadau’r archwiliad
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Asesiad yn parhau
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Dilynwyd cyngor a roddwyd fel rhan o’r asesiad
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cyfathrebu’n parhau. Dilynwyd y cyngor.
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

2.5 Canllawiau Cenedlaethol

  • Cam gweithredu - Gweithredu unrhyw ganllawiau cenedlaethol/rhanbarthol ynghylch gwella gwydnwch ecosystemau a bioamrywiaeth trwy’r system gynllunio. Bydd unrhyw ganllawiau newydd yn cael eu cymryd i ystyriaeth a’u hintegreiddio i’r system. 
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Yr holl ganllawiau cenedlaethol/rhanbarthol i gael eu hintegreiddio i’r system gynllunio o fewn 3 mis i’w rhyddhau
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Yr holl ganllawiau cenedlaethol/rhanbarthol i gael eu hintegreiddio i’r system gynllunio o fewn 3 mis i’w rhyddhau
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Yr holl ganllawiau cenedlaethol/rhanbarthol i gael eu hintegreiddio i’r system gynllunio o fewn 3 mis i’w rhyddhau
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

2.6 Ariannu

  • Cam gweithredu - Ymgeisio am gyllid wrth i gyfleoedd godi, er mwyn parhau i gyflawni Gweithio gyda Byd Natur, er budd bioamrywiaeth, neu fel rhan o brosiectau strategol, aml-swyddogaethol, sy’n cyflawni buddion lluosog.
  • Mecanwaith adrodd - Yn unol â gofynion ariannu
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Wrth i gyfleoedd godi
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Wrth i gyfleoedd godi
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Wrth i gyfleoedd godi
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

Amcan 3 yr NRAP: Cynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio a chreu cynefinoedd

3.1 Rheolaeth Gyfredol

  • Cam gweithredu - Mae ardaloedd CCNPT yn cael eu rheoli ar gyfer bioamrywiaeth ac i sicrhau eu gwydnwch
  • Mecanwaith adrodd - Adroddwyd am gwmpas yr ardal o dan reolaeth trwy’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) yn y Cynllun Corfforaethol
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cytuno ar DPA diwygiedig fel rhan o’r Cynllun Corfforaethol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Fel y pennwyd gan y Dangosydd Perfformiad Allweddol (KPI)
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Fel y pennwyd gan y Dangosydd Perfformiad Allweddol (KPI)
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

3.2 Rheoli Cynefinoedd Trwy Reoli Datblygu

  • Cam gweithredu - Trwy’r broses rheoli datblygu rhoddir cynlluniau rheoli cynefinoedd ar waith, gan wella gwydnwch ei hamgylchedd naturiol a gwella’r rheolaeth ar gynefinoedd
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cyflwyno asesiadau priodol o wydnwch ecosystemau trwy’r broses gynllunio a rhoi mesurau priodol ar waith i gyflawni’r gwelliannau a wnaed
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cyflwyno asesiadau priodol o wydnwch ecosystemau trwy’r broses gynllunio a rhoi mesurau priodol ar waith i gyflawni’r gwelliannau a wnaed
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cyflwyno asesiadau priodol o wydnwch ecosystemau trwy’r broses gynllunio a rhoi mesurau priodol ar waith i gyflawni’r gwelliannau a wnaed
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

3.3 Coed Cymru

  • Cam gweithredu - Mae CCNPT yn bartneriaid allweddol ym menter Coed Cymru, prif sefydliad coetir Cymru. Nod Coed Cymru yw gwella cyflwr coetir Cymru ac integreiddio coetir newydd i’r tirlun, trwy ddarparu cyngor, cefnogaeth, arloesedd a mynediad at gymorth grant. Maent yn rhoi ymchwil ar waith ynghylch rôl coed mewn llifogydd, pridd a dŵr, cynhyrchedd amaethyddol, a gwasanaethau’r ecosystem ehangach
  • Mecanwaith adrodd - Adroddiadau ariannu blynyddol
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Yn unol ag amcanion Coed Cymru
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Yn unol ag amcanion Coed Cymru
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Yn unol ag amcanion Coed Cymru
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

3.4 Datganiadau Ardal

  • Cam gweithredu - Bydd CCNPT yn cynorthwyo CNC i roi Datganiadau Ardal ar waith yn ôl y galw.
  • Mecanwaith adrodd - Fel sy’n ofynnol
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Fel sy’n briodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

3.5 Asesiad Seilwaith Gwyrdd

  • Cam gweithredu - Bydd y Cyngor yn cynnal Asesiad Seilwaith Gwyrdd (GIA) yn unol â gofynion Polisi Cynllunio Cymru (PCC) ar gyfer Castell-nedd Port Talbot
  • Mecanwaith adrodd - Cymeradwyo gan Arolygiaeth Gynllunio’r CDLl a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r sylfaen o dystiolaeth a fydd yn sail i’r CDLl
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Ymgysylltiad, cyfranogiad a chyfraniad mewn partneriaeth â Thîm y CDLl i gynhyrchu GIA ar gyfer yr Awdurdod
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Ymgysylltiad, cyfranogiad a chyfraniad mewn partneriaeth â Thîm y CDLl i gynhyrchu GIA ar gyfer yr Awdurdod.
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - GIA wedi’i gwblhau.
  • Amcanion yr NRP - 3, 4, 5

Amcan 4 yr NRAP: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

4.1 Rhywogaethau Anfrodorol Ymwthiol (Inns)

  • Cam gweithredu - Defnyddir dull rhagweithiol o ddelio ag INNS, gan gynnwys y Broses Rheoli Datblygu a’u trin ar dir y Cyngor.
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt a Thaenlen y BDP
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Fel sy’n briodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 3, 4, 5, 6 

4.2 Ansawdd Aer

  • Cam gweithredu - Caiff goblygiadau ansawdd aer cynlluniau a phrosiectau eu hasesu’n llawn o ran eu heffeithiau posibl ar gynefinoedd a rhywogaethau sensitif trwy broses yr ARhC
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Yr holl gynigion datblygu’n cael eu hasesu fel rhai priodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Yr holl gynigion datblygu’n cael eu hasesu fel rhai priodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Yr holl gynigion datblygu’n cael eu hasesu fel rhai priodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6 

4.3 Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol (Sonarr)

  • Cam gweithredu - Coladu’r holl wybodaeth leol a nodi ffactorau sy’n achosi pwysau yn lleol, gan gynnwys SoNaRR, Adroddiad Cyflwr Byd Natur CNPT, yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd a thystiolaeth y Datganiad Ardal.
  • Mecanwaith adrodd - Adrodd am y pwysau lleol a nodwyd
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cytuno ar fecanwaith ar gyfer adrodd
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - I’w chadarnhau
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - I’w chadarnhau
  • Amcanion yr NRP - 4

Amcan 5 yr NRAP: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro

5.1 CIPIO DATA

  • Cam gweithredu - Mae CNPT yn defnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau cipio data. Mae hyn wedi creu nifer fawr o gofnodion rhywogaethau sy’n cael eu trosglwyddo i’r Ganolfan Gofnodion Leol ac, o ganlyniad, yn cael eu rhannu gyda’r gymuned ehangach
  • Mecanwaith adrodd - Metadata o MapMate
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cynnal cronfa ddata MapMate a’r haenau GIS Bioamrywiaeth
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cynnal cronfa ddata MapMate a’r haenau GIS Bioamrywiaeth
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cynnal cronfa ddata MapMate a’r haenau GIS Bioamrywiaeth
  • Amcanion yr NRP - 2, 4, 5

5.2 Safleoedd  Phwysigrwydd Cadwraeth Natur

  • Cam gweithredu - Mae gan CCNPT raglen o nodi safleoedd sy’n gymwys i fod yn Safleoedd â Phwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC). Mae hyn yn caniatáu i ni asesu ansawdd safle yn erbyn canllawiau cenedlaethol, a bydd pob safle’n cael ei adolygu o fewn 10 mlynedd.
    Byddwn ni’n parhau â rhaglen lle mae 10% o SINCs, ar gyfartaledd, yn cael eu hadolygu bob blwyddyn, ac mae’r haen GIS yn cael ei diweddaru a’i rhannu gyda SEWBReC
  • Mecanwaith adrodd - Cynhyrchu adroddiad SINC blynyddol
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cynnal adolygiad o’r holl SINCs sydd i gael eu hadolygu eleni. Cynnal arolygon SINC ar safleoedd newydd yn ôl y galw, gan ddynodi lle bo hynny’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cynnal adolygiad o’r holl SINCs sydd i gael eu hadolygu eleni. Cynnal arolygon SINC ar safleoedd newydd yn ôl y galw, gan ddynodi lle bo hynny’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cynnal adolygiad o’r holl SINCs sydd i gael eu hadolygu eleni. Cynnal arolygon SINC ar safleoedd newydd yn ôl y galw, gan ddynodi lle bo hynny’n briodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

5.3 Arolygon

  • Cam gweithredu - CCNPT sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Partneriaeth Natur CNPT, sy’n cynnwys nifer o syrfewyr arbenigol a SEWBReC. Rydym ni’n defnyddio’r arbenigedd hwn trwy drefnu arolygon ar gyfer safleoedd a rhywogaethau sy’n cael eu targedu
  • Mecanwaith adrodd - Adroddiad seiliedig ar dystiolaeth gan y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Gweithio gyda’r Bartneriaeth Natur Leol i symud ymlaen gydag arolygon arbenigol lle bo hynny’n fwyaf priodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Gweithio gyda’r Bartneriaeth Natur Leol i symud ymlaen gydag arolygon arbenigol lle bo hynny’n fwyaf priodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Gweithio gyda’r Bartneriaeth Natur Leol i symud ymlaen gydag arolygon arbenigol lle bo hynny’n fwyaf priodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

5.4 Chwiliadau Canolfan Gofnodi

  • Cam gweithredu - Rhaid i bob cais cynllunio sy’n cynnwys gwybodaeth am fioamrywiaeth gael ei gyflwyno ochr yn ochr â chwiliad SEWBReC a wnaed gan/ar ran yr ymgeisydd, oni bai bod cytundeb gyda’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt bod digon o gyfiawnhad yn bodoli i ddiddymu’r angen hwn
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Rhaid cael chwiliad SEWBReC i gyd-fynd â’r holl wybodaeth bioamrywiaeth a geir mewn cais cynllunio, oni chytunwyd fel arall
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Rhaid cael chwiliad SEWBReC i gyd-fynd â’r holl wybodaeth bioamrywiaeth a geir mewn cais cynllunio, oni chytunwyd fel arall
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Rhaid cael chwiliad SEWBReC i gyd-fynd â’r holl wybodaeth bioamrywiaeth a geir mewn cais cynllunio, oni chytunwyd fel arall
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

5.5 Cynllun Gwneud Iawn Ar Gyfer Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Rhoi’r cynllun gwneud iawn ar waith, fel y nodwyd yn y CCA Bioamrywiaeth
  • Mecanwaith adrodd - Taenlen gynllunio’r Tïm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Rhoi’r CCA ar waith trwy’r broses rheoli datblygu
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Rhoi’r CCA ar waith trwy’r broses rheoli datblygu
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Rhoi’r CCA ar waith trwy’r broses rheoli datblygu
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

5.6 Nod Cymru Gydnerth

  • Cam gweithredu - Cyfrannu data at ddangosyddion bioamrywiaeth Cymru ar gyfer nod Cymru Gydnerth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Mecanwaith adrodd - Ymatebion
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Fel sy’n ofynnol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Fel sy’n ofynnol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Fel sy’n ofynnol
  • Amcanion yr NRP - 1, 5, 6

5.7 Tystiolaeth Y Cynllun Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Tystiolaeth i’w chasglu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r cynllun hwn
  • Mecanwaith adrodd - Yr holl adroddiadau i gael eu casglu a’u coladu er mwyn adrodd ar y cynllun hwn
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Parhaus
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Parhaus
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Parhaus
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

Amcan 6 yr NRAP: Rhoi fframwaith llywodraeth ar waith a chefnogi cyflawni

6.1 Adnoddau’r Tîm Cefn Gwlad A Bywyd Gwyllt

  • Cam gweithredu - Ar hyn o bryd mae digon o sgiliau a chapasiti yn y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt i gydlynu’r gwaith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, ond bydd cynnal hynny yn y tymor hir yn her, o ystyried y pwysau ar y gyllideb
  • Mecanwaith adrodd - Yr adroddiad dyletswydd
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cynnal lefelau staff craidd cyfredol a chadw / cyflogi staff prosiect ychwanegol i gyflawni prosiectau arian grant yn ôl fel y bydd cyllid ar gael.
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cynnal lefelau staff craidd cyfredol a chadw / cyflogi staff prosiect ychwanegol i gyflawni prosiectau arian grant yn ôl fel y bydd cyllid ar gael.
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Cynnal lefelau staff craidd cyfredol a chadw / cyflogi staff prosiect ychwanegol i gyflawni prosiectau arian grant yn ôl fel y bydd cyllid ar gael.
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

6.2 Partneriaeth Natur Leol Cnpt

  • Cam gweithredu - Parhau i gefnogi Partneriaeth Natur Leol CNPT, gan ddarparu’r ysgrifenyddiaeth, llywio’r amcanion a choladu gwybodaeth am weithgareddau’r aelodau trwy’r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
  • Mecanwaith adrodd - Cofnodion y bartneriaeth
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Parhau i ddarparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Partneriaeth Natur Leol CNPT
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Parhau i ddarparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Partneriaeth Natur Leol CNPT
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Parhau i ddarparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Partneriaeth Natur Leol CNPT
  • Amcanion yr NRP - 6

6.3 Hyrwyddwr Bioamrywiaeth

  • Cam gweithredu - Penodir un o Gynghorwyr CCNPT yn Hyrwyddwr Bioamrywiaeth, a bydd yn mynychu digwyddiadau/cyfarfodydd fel sy’n briodol
  • Mecanwaith adrodd - Mynychu cyfarfodydd rheolaidd
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Parhau i ymgysylltu fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Parhau i ymgysylltu fel sy’n briodol
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Parhau i ymgysylltu fel sy’n briodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 6

6.4 Cynllun Gweithredu Adfer Natur

  • Cam gweithredu - Trwy Gynllun Natur CNPT, mwyafu’r cyfleoedd i gyflawni blaenoriaethau trwy wirfoddolwyr a phartneriaid
  • Mecanwaith adrodd - Disgwylir mecanweithiau adrodd newydd gan Lywodraeth Cymru
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Cyflawni cadwraeth bioamrywiaeth yn unol â’r Cynllun Gweithredu Byd Natur / Prosiect Partneriaeth Natur Leol Cymru. Adrodd yn unol â gofynion y grant
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Cyflawni cadwraeth bioamrywiaeth yn unol â’r Cynllun Gweithredu Byd Natur / Prosiect Partneriaeth Natur Leol Cymru. Adrodd yn unol â gofynion y grant
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Yn dibynnu ar gyllid i’r dyfodol
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 3, 4, 5, 6

6.5 Cynllun Safleoedd Cadwraeth Natur

  • Cam gweithredu - Cynnal adolygiad o’r cynllun Safleoedd Cadwraeth Natur i gynnwys rheoli’r holl ymylon ffyrdd a safleoedd allweddol sy’n eiddo i’r cyngor
  • Mecanwaith adrodd - Haen GIS ymylon ffyrdd i gael ei rheoli fel ymyl cadwraeth
  • Carreg filltir blwyddyn 3 - Mae gweithgor ar waith i ddatblygu’r cynllun newydd
  • Carreg filltir blwyddyn 4 - Rhoi’r cynllun newydd ar waith
  • Carreg filltir blwyddyn 5 - Rhoi’r cynllun newydd ar waith
  • Amcanion yr NRP - 1, 2, 5, 6