Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Daeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn gyfraith ar 21 Mawrth 2016. Mae’n rhoi deddfwriaeth yn ei lle er mwyn gallu rheoli adnoddau Cymru mewn modd mwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydlynus. Mae’n sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r Ddeddf yn cefnogi cylch gorchwyl ehangach Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n caniatáu i Gymru fwynhau economi lewyrchus, amgylchedd iach a chydnerth, a chymunedau hyfyw, cydlynus.

Yn benodol, mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd bioamrywiaeth uwch ar awdurdodau cyhoeddus (gweler Atodiad A am destun llawn Adran 6 o’r Ddeddf).

Adran 6(1) Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth ymarfer swyddogaethau sy’n ymwneud â Chymru, a thrwy wneud hynny hybu gwydnwch ecosystemau, i’r graddau y mae hynny’n cyd-fynd ag ymarfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

Bwriad y ddyletswydd hon yw sicrhau bod bioamrywiaeth yn dod yn rhan annatod o benderfyniadau mewn awdurdodau cyhoeddus. Daeth y ddyletswydd i rym ym mis Mai 2016, gan alw am arddangos cydymffurfiaeth ffurfiol, trwy gyhoeddi cynllun yn nodi sut rydym ni’n bwriadu cydymffurfio â’r Ddeddf.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i ni gyhoeddi adroddiad ar gyflawni’r Cynllun bob tair blynedd. Yn dilyn pob cylch adrodd, byddem ni’n diweddaru’r Cynllun; fodd bynnag, petai angen, gellid diwygio’r Cynllun ar unrhyw adeg.

Os bydd awdurdod cyhoeddus yn methu â chyflawni ei rwymedigaethau o dan y Ddeddf, gallai fod yn destun adolygiad barnwrol yn y pen draw, ac mae potensial o dan Adran 10 o’r Ddeddf i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i gorff cyhoeddus.

Ffocws y Cynllun yw cyflwyno newidiadau i arferion gwaith, a fydd yn cyflawni newid cadarnhaol i fioamrywiaeth, heb roi baich ariannol ar y Cyngor.

Mae Adran 7 o’r Ddeddf yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi rhestrau o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sydd bwysicaf yng Nghymru. Mae’n ofynnol ein bod ni’n rhoi sylw i’r rhestrau hynny wrth gyflawni ein swyddogaethau. Cyfeirir at y rhain fel cynefinoedd a rhywogaethau Adran 7.

Adran 7 (1) Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organebau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd â’r pwysigrwydd pennaf, yn eu barn hwy, at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

Technegau llyfnhau’r tir i adfer mawndir gweithredol