Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Seibiant/Seibiannau Byr

Mae'r gwasanaethau seibiant wedi newid. Erbyn hyn, nid oes rhaid iddynt olygu gwely mewn cartref gofal ar gyfer y person sy'n derbyn gofal Gall seibiant fod ar sawl ffurf, a gellir defnyddio gwasanaeth seibiant ar gyfer nifer o bethau megis siopa, cymdeithasu neu fwynhau hobi.

Gallech gael seibiant am y rhesymau canlynol er enghraifft:

  • achlysur untro er mwyn i chi gael adfer eich egni
  • awr reolaidd i'ch hun
  • seibiant yn ystod y dydd neu dros nos
  • ‘oedolyn ag anghenion gofal neu gefnogaeth - ystyr hyn yw unigolyn dros 18 oed sydd wedi cael asesiad ac sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd presennol CBSCNPT ar gyfer Gwasanaethau Gofal yn y Gymuned ac mae angen help neu gefnogaeth arno oherwydd anabledd corfforol, synhwyraidd neu ddysgu neu fregusrwydd o ganlyniad i oedran neu salwch meddwl.
  • gofalwyr sy'n darparu neu sy'n bwriadu darparu gofal di-dâl sylweddol yn rheolaidd i oedolyn ag anghenion gofal a chefnogaeth - fel uchod
  • gofalwyr Bywydau a Rennir/Lleoli Oedolion sydd wedi'u cymeradwyo gan gynllun Bywydau a Rennir/Lleoli Oedolion cofrestredig

Darperir seibiannau byr gyda'r nod o wella a datblygu ansawdd bywyd y sawl y mae ganddo anghenion cefnogi a'i ofalwr (os oes un), a chefnogi eu perthynas. Bydd seibiant byr ar gyfer person nad oes ganddo ofalwr yn cael ei gynnig i gyflawni canlyniadau a nodwyd yng nghynllun gofal y person.

P'un a ydych chi'n berson ag anghenion gofal/cefnogaeth neu'n ofalwr, bydd angen i ni gael ychydig o wybodaeth am eich amgylchiadau. Byddwn yn cwrdd â chi ac yn siarad â chi am eich sefyllfa a'r fath o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, yn eich barn chi. Gelwir hyn yn Asesiad Gofal Cymunedol, neu os ydych yn ofalwr, Asesiad Gofalwr.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Thîm Un Pwynt Cyswllt Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (SPOC).

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Mae sefyllfa pob person yn unigryw, ac rydym yn ystyried pob cais am gefnogaeth yn ofalus. Fel pob Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, bydd Castell-nedd Port Talbot yn gweithio yn ôl meini prawf cymhwysedd i helpu pobl yn yr angen mwyaf yn gyntaf, ac yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gallwn roi gwybodaeth a chyngor i chi o hyd fel y gallwch wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer seibiant byr.

Codir tâl am seibiannau byr dros nos i oedolion; mae'r gyfraith yn nodi mai'r person ag anghenion gofal neu gefnogaeth fydd yn cael ei asesu yn ôl ei allu i dalu gan mai nhw sy'n derbyn y gwasanaeth. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y taliadau.

Os bydd person sy'n defnyddio gwasanaethau neu ei ofalwr yn dymuno cael y cyfle i herio unrhyw benderfyniadau a wnaed, dylai gyfeirio at weithdrefn apeliadau'r cyngor. Mae'r broses hon yn cynnwys llwybr apêl clir ac amserlen ar gyfer ymdrin ag apeliadau. 

Dylai unigolion ac/neu eu gofalwyr dderbyn gwybodaeth sy'n esbonio sut i gwyno am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd ar gael mewn fformatau hygyrch ac ieithoedd gwahanol. Gellir cyrchu'r daflen a manylion y weithdrefn gwynion ar-lein hefyd drwy wefan y cyngor yn www.npt.gov.uk.

Cyswllt Tim Cwynion Gwasanaethau Oedolion Penodedig:

Dedicated Adult Services Complaints
(01639) 763445 (01639) 763445 voice +441639763445