Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Talu Am Ofal Preswyl a Dibreswyl Cymunedol

Os ydych yn derbyn (neu'n mynd i dderbyn) gofal preswyl neu gymunedol, byddwn yn cynnal asesiad ariannol, yn unol â'r canllawiau a gynhwysir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ei Rheoliadau Codi Tâl a'r Côd Ymarfer.

Er mwyn i ni asesu'ch amgylchiadau ariannol, byddwch yn derbyn ffurflen "Datganiad o Amgylchiadau Ariannol" yn y lle cyntaf, y dylid ei chwblhau gan nodi manylion/tystiolaeth o'ch incwm (e.e. pensiynau, budd-daliadau, etc.) a'ch cynilion (e.e. Cyfrifon Banc/Cymdeithas Adeiladu, Cynilion Cenedlaethol, Cyfranddaliadau etc) - cewch "wahoddiad" i ofyn am asesiad ariannol er mwyn i ni gyfrifo tâl asesedig tuag at gost y gofal preswyl/gofal cymunedol.

Dylid dychwelyd y ffurflen ariannol (ac unrhyw ddogfennaeth ategol) o fewn 15 niwrnod o’i chyflwyno - os byddwch yn methu ag ymateb o fewn y cyfnod 15 niwrnod hwn, efallai y gofynnir i chi dalu'r ffi lawn ar gyfer gofal cymdeithasol neu'r uchafswm tâl am wasanaethau gofal cymunedol (gweler y graddfeydd/cyfansymiau perthnasol yng nghefn yr arweiniad hwn).

Fe'ch anogir felly i ofyn am asesiad ariannol, oherwydd byddwch yn talu'r hyn y gallwch ei fforddio'n unig - hefyd, oherwydd y gall rhai mathau o incwm/gynilion gael eu diystyru (yn yr asesiad ariannol), byddai'n fuddiol i ofyn i gael eich asesu'n ariannol am ofal preswyl/cymunedol.

Swyddog Ymweld (yn dibynnu ar arweiniad COVID-19)

Sylwer bod yr Is-adran Asesiadau Ariannol yn penodi Swyddog Ymweliadau dynodedig ar hyn o bryd, sy'n gallu cael ei alw allan i'ch helpu i lenwi ein ffurflen Datganiad o Amgylchiadau Ariannol - am ragor o gyngor am y gwasanaeth hwn, trafodwch â'ch Rheolwr Gofal (a fydd yn gallu gwneud atgyfeiriad i'r Swyddog Ymweliadau).

Sylwer yn seiliedig ar unrhyw arweiniad COVID-19 sy'n parhau, gallwch dderbyn galwad ffôn (neu ohebiaeth drwy e-bost) yn lle ymweliad cartref go iawn (sy'n destun asesiadau risg ar hyn o bryd, a rhoddir blaenoriaeth i achosion brys/argyfwng). Os penderfynir y bydd angen ymweliad, gofynnwch i ni am ddiweddariad ynghylch unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith o hyd.

Gofal Preswyl

Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cytuno y byddai gofal preswyl/nyrsio'n fwy addas i'ch anghenion, yna byddwch yn cael eich asesu'n ariannol, ac efallai y byddwch yn derbyn cymorth ariannol tuag at gost y gofal - gall y gofal hwn fod ar sail dros dro (gofal estynedig) (h.y. os ydych yn debygol o ddychwelyd adref o fewn 52 o wythnosau), neu, fel arall, ar sail tymor hir.

Cyfrifo ffïoedd gofal preswyl

Wrth gyfrifo tâl asesedig, bydd y mwyafrif o'ch incwm yn cael ei ystyried. Fodd bynnag, cewch gadw lleiafswm o £39.50 yr wythnos (Lwfans Treuliau Personol), a diystyrir yr incymau canlynol wrth gyfrifo'r tâl asesedig:-

  • Lwfans Byw i'r Anabl/Cydran Symudedd Taliad Annibyniaeth Bersonol.
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel (taladwy i hen filwr)
  • £10 cyntaf unrhyw Bensiwn Rhyfel (e.e. taladwy i gymar)
  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Hyd at 50% o'ch pensiwn galwedigaethol, os bydd yn mynd i'ch cymar sy'n byw gartref o hyd (ac eithrio mewn rhai amgylchiadau).
  • Lwfansau ar gyfer biliau tŷ penodol (e.e. yswiriant tŷ, nwy, trydan, dŵr) os ydych wedi gorfod mynd i gartref gofal dros dro (gofal estynedig).

Sylwer hefyd y gall rhai mathau o gyfalaf gael eu diystyru yn yr asesiad ariannol (e.e. cynnyrch buddsoddi sydd ag agwedd ar yswiriant bywyd ynghlwm wrtho), ac os yw'n berthnasol, dylech gysylltu â'r Is-adran Asesiadau Ariannol am ragor o gyngor (gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar dudalen olaf yr arweiniad hwn).

Trothwy Cyfalaf (Gofal Preswyl)

Os oes gennych lai na £50,000 o gynilion (bydd hyn yn cynnwys cynilion yn eich enw, neu eich cyfran o unrhyw gyfrifon ar y cyd), byddwch yn cael asesiad ariannol er mwyn gwneud cyfraniad ariannol (a delir yn uniongyrchol i'r cartref gofal), gyda'r cyngor hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y gofal.

Os oes gennych fwy na £50,000, gofynnir i chi dalu holl gost y lleoliad nes bod eich cynilion yn is na £50,000 (sylwer os oes gennych fwy na £50,000, gallwch ofyn i'r cyngor eich cynorthwyo wrth drefnu'ch lleoliad gofal cartref o hyd) - os yw'ch cynilion ychydig yn fwy na'r trothwy cyfalaf (e.e. £52,000), dylech gysylltu â'r cyngor er mwyn i drefniadau ariannu gael eu rhoi ar waith ac er mwyn iddo ddarparu cymorth ariannol pan fydd eich cynilion yn is na £50,000.

Sylwer ni ddylech gael gwared ar unrhyw asedau cyfalaf (gan gynnwys unrhyw eiddo) er mwyn cyflwyno cais am gymorth ariannol ar ddyddiad cynharach (gelwir hyn yn "Amddifadu o Gyfalaf", a bydd yn arwain at y cyngor yn tybio eich bod yn berchen ar yr asedau hyn o hyd).

Perchnogaeth Eiddo a Thaliadau Gohiriedig

Os ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, gellir ystyried ei werth ar ôl i chi ddechrau derbyn gofal tymor hir (oni bai fod partner neu berthynas anabl/cymwys yn byw yn y tŷ). 

Os yw'r tŷ'n wag, gallwch naill ai benderfynu ei werthu (i ariannu costau'ch gofal), neu gallwch ymrwymo i Gytundeb Taliad Gohiriedig gyda'r cyngor (yn destun amodau a thelerau penodol), lle gallwch ohirio gwerthu’r eiddo tan ddyddiad yn y dyfodol.

Byddai'r cyngor yn cytuno i ddarparu cymorth ariannol, ond byddai angen adfer unrhyw gostau a dalwyd i'r cartref gofal (ar eich rhan) fel arfer o wythnos 13 ymlaen, a bydd fel arfer yn adfer y symiau hyn yn dilyn gwerthu'r eiddo. Yn ystod y cyfnod lle mae'r eiddo ar werth, neu'r cyfnod lle mae'r Cytundeb Taliad Gohiriedig mewn lle, byddwch yn parhau i gael eich asesu'n ariannol, a byddai angen i chi barhau i dalu cyfraniad cleient a asesir (h.y. yn seiliedig ar eich incwm).

I gael cyngor penodol ynghylch Taliadau Gohiriedig, dylech gyfeirio at yr is-adran Asesiadau Ariannol (yn ogystal â'n ffeithlen "Gwybodaeth am ohirio ffïoedd cartref gofal preswyl os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun").

Os yw eiddo wedi'i gynnwys yn eich asesiad ariannol, bydd gennych hawl i hawlio Lwfans Gweini (oherwydd y bydd cytundeb i dalu ffïoedd ychwanegol yn ddiweddarach) ac efallai y byddwch yn gymwys hefyd i hawlio elfen Lwfans Anabledd Difrifol o'r Credyd Pensiwn. Yn yr un modd, os oes gennych gynilion o fwy na £50,000, dylech fod yn gymwys i hawlio'r Lwfans Gweini (a Chredyd Pensiwn o bosib hefyd, ond bydd hyn yn dibynnu ar lefel eich cyfalaf) am eich bod yn talu cost lawn eich ffïoedd cartref gofal.

Talu am ffïoedd gofal preswyl

Unwaith y bydd y cyngor wedi cyfrifo'ch tâl asesedig, bydd llythyr (a datganiad o'r ffïoedd) yn cael ei anfon atoch (neu, os hoffech chi, at gynrychiolydd ar eich rhan) yn eich hysbysu o'r swm wythnosol sydd angen ei dalu i'r cartref gofal - yna bydd disgwyl i chi dalu'r tâl asesedig (yn uniongyrchol i'r cartref gofal), gyda'r cyngor yn gwneud ei drefniadau ei hun ar gyfer talu'r cyfraniad ariannol yn uniongyrchol i'r cartref gofal.

Taliadau Trydydd Parti/Costau Ychwanegol

Sylwer bod cyfanswm cost Gofal Preswyl (wedi'i gontractio) fel arfer yn cynnwys cyfuniad o gyfraniad asesedig y cleient a chyfraniad y cyngor.

Fodd bynnag, os bydd cartref gofal yn penderfynu codi tâl sy'n fwy na'r uchafswm tâl (wedi'i gontractio), yna bydd angen fel arfer i rywun sy'n gweithredu ar eich rhan ymrwymo i gytundeb ar wahân (o'r enw Cytundeb Trydydd Parti/Cost Ychwanegol) er mwyn talu'r gwahaniaeth mewn cost (sylwer bod y rheoliadau'n nodi ar hyn o bryd ni chaniateir fel arfer i breswylydd y cartref gofal dalu'r gost ychwanegol hon dros ei hun.

Lleoliadau cartrefi gofal y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot

Gallwch ddewis o restr o dai annibynnol neu dai Pobl yn yr ardal hon, neu gallwch ddewis cartref gofal y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot. Hyd yn oed os byddwch yn dewis cartref gofal y tu allan i ardal Castell-nedd Port Talbot, gallwch dderbyn cymorth ariannol gan y cyngor o hyd.

Fodd bynnag, os bydd gennych fwy na £50,000 ac rydych yn gwneud eich trefniadau eich hun (mewn cartref gofal y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot a heb gynnwys y cyngor hwn o gwbl), yna bydd angen i chi gyflwyno cais i'r cyngor y mae'r cartref gofal wedi'i leoli ynddo i gael unrhyw gymorth ariannol yn y dyfodol (h.y. pan fydd eich cynilion yn is na £50,000) - sylwer y gall nifer o ffactorau benderfynu pa gyngor fyddai'n gyfrifol am ddarparu cymorth ariannol ac felly bydd angen ystyried pob cais yn unigol.

Sylwer hefyd os bydd cartref gofal y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot yn codi tâl sy'n fwy na ffïoedd ymrwymedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae'n debygol y rhoddir cost 3ydd parti/ychwanegol ar waith (fel yr esboniwyd uchod) er mwyn i 3ydd parti gytuno i dalu'r gwahaniaeth mewn costau.

Gofal yn y Gymuned

Byddai gwasanaethau gofal cymunedol yn cynnwys gofal cartref, gofal seibiant/tymor byr, Lifelink Extra (tele-ofal/categori 3 yn flaenorol), gofal dydd a thaliadau uniongyrchol, ac efallai y byddwch yn derbyn un, neu gyfuniad o'r gwasanaethau hyn.

Cyfrifo ffïoedd gofal cymunedol

Yn seiliedig ar y gwasanaethau a dderbynnir, cynhelir asesiad ariannol a chyfrifir yr uchafswm tâl ar gyfer costau unrhyw wasanaeth(au) rydych yn ei dderbyn(/eu derbyn) - sylwer, fodd bynnag, mai £100 yr wythnos yw'r uchafswm y bydd angen i chi ei dalu.

Os ydych dros 60 oed, bydd £291.52 yr wythnos yn cael ei ddiystyru'n awtomatig, ac os ydych rhwng 18 a 60 oed, bydd £209.09 yr wythnos yn cael ei ddiystyru'n awtomatig - mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar isafswm lefelau incwm a nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (yn ogystal â chlustog ychwanegol o 45%), ac os yw eich incwm yn is na'r lefelau hyn, ni fydd angen i chi gyfrannu at y gwasanaeth(au) y byddwch yn ei (d) dderbyn.

Sylwer y bydd y mwyafrif o'ch incwm yn cael ei ystyried wrth gyfrifo tâl asesedig - fodd bynnag, bydd y canlynol yn cael eu diystyru yn yr asesiad ariannol:-

  • Lwfans Byw i'r Anabl/Cydran Symudedd Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Budd-dal Tai
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel (taladwy i hen filwr)
  • £10 cyntaf unrhyw Bensiwn Rhyfel (e.e. taladwy i gymar)
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Byw i'r Anabl (Gofal)/Elfen (Byw Pob Dydd) y Taliad Annibyniaeth Personol/Lwfans Gweini sy'n fwy na £68.10 yr wythnos (h.y. y raddfa uwch), os nad ydych yn derbyn gofal dros nos (sylwer nad yw hyn yn cynnwys gofal seibiant/tymor byr).
  • Enillion o gyflog

Gwariant cymwys - bydd unrhyw dâl asesedig yn cael ei leihau gan daliad net eich Treth y Cyngor, a byddwn hefyd yn caniatáu ar gyfer treuliau hanfodol, megis:-

  • Os ydych yn talu rhent/morgais am eich cartref (na chaiff ei dalu gan Fudd-dal Tai)
  • Os oes gennych dreuliau eithriadol eraill

Byddwn yn ystyried yr holl agweddau hyn, ac, os yn briodol, yn eu didynnu o'ch incwm er mwyn cyfrifo swm yr incwm sydd gennych i'w wario - dylai eich Rheolwr Gofal gael gwybod am unrhyw gostau eithriadol.

Sylwer y gallai unrhyw newidiadau i'ch cynllun/oriau gofal arwain at ailasesiad o'ch ffïoedd am ofal cymunedol - byddai unrhyw ailasesiad yn ddibynnol ar nifer yr oriau gofal rydych yn eu derbyn, ac os ydych eisoes yn talu hyd at eich uchafswm tâl wythnosol neu beidio.

Trothwy Cyfalaf (Gofal Cymunedol)

Os oes gennych lai na £24,000 o gynilion (bydd hyn yn cynnwys cynilion yn eich enw, neu eich cyfran o unrhyw gyfrifon ar y cyd), cewch asesiad ariannol yn seiliedig ar eich incwm. Os oes gennych fwy na £24,000 o gynilion, cewch eich asesu i dalu cost lawn y Gofal Cymunedol hyd at uchafswm o £100 yr wythnos - fel y nodwyd, ni ddylech roi unrhyw asedau cyfalaf i ffwrdd er mwyn lleihau eich cyfalaf i fod yn llai na'r uchafswm cyfalaf perthnasol (fel y nodwyd uchod fel "Amddifadu o Gyfalaf").

Peidio â Datgelu Gwybodaeth Ariannol

Os nad ydych yn dewis datgelu manylion eich incwm a'ch cynilion, gofynnir i chi dalu'r gost lawn am y gwasanaethau a dderbynnir, hyd at uchafswm o £100 yr wythnos.

Talu am ffïoedd gofal cymunedol

Unwaith y bydd y cyngor wedi cynnal asesiad ariannol, anfonir llythyr (a Datganiad o Ffïoedd) atoch (neu, os yw'n well gennych, anfonir y rhain at gynrychiolydd ar eich rhan) a fydd yn eich cynghori ynghylch eich ffi asesedig.

O ran gofal cartref, gofal dydd a Lifelink Extra (tele-ofal/categori 3 yn flaenorol), cewch eich anfonebu bob mis am unrhyw daliadau asesedig - sylwer mai debyd uniongyrchol yw'r dull o dalu a ffefrir gennym.

Os ydych yn derbyn Taliadau Uniongyrchol, bydd gofyn i chi dalu'ch cyfraniad cleient yn syth i'ch cyfrif Taliadau Uniongyrchol (oni bai eich bod chi'n derbyn gwasanaethau ychwanegol hefyd, ac eisoes yn ein talu, h.y. drwy Ddebyd Uniongyrchol).

Ailalluogi

Cymorth tymor byr gan y GIG a Gofal Cymdeithasol yw ailalluogi, sy'n eich galluogi i gynnal (neu adfer) eich gallu i fyw'n annibynnol gartref am gyhyd ag sy'n bosib - darperir rhaglen bersonol felly, er mwyn diwallu'ch anghenion unigol (naill ai mewn lleoliad cymunedol (e.e. gartref) neu Ofal Preswyl).

Er y gellir darparu Gofal Ailalluogi a ddim am gyfnod o "hyd at 6 wythnos", nid yw hyn yn golygu y byddwch yn derbyn gofal am ddim yn awtomatig am y cyfnod 6 wythnos llawn - h.y. os nodir bod angen pecyn gofal tymor hir arnoch cyn diwedd y cyfnod ailalluogi 6 wythnos, cewch eich asesu er mwyn talu ffi am y gwasanaethau hyn o'r dyddiad cynt hwn (e.e os nodir y bydd angen pecyn gofal tymor hir yn wythnos 3, codir ffïoedd am wasanaethau o wythnos 3).

Gofal seibiant/tymor byr

Os ydych yn derbyn gofal seibiant/tymor byr, cynhelir asesiad ariannol, a'r uchafswm y gallai fod angen i chi ei dalu yw £100 yr wythnos - fodd bynnag, gan mai £100 yr wythnos/rhan o'r wythnos yw'r uchafswm tâl (am ofal cymunedol) ni fyddai disgwyl i chi dalu mwy na £100 mewn unrhyw wythnos daladwy am ofal seibiant/tymor byr neu gyfuniad o ofal seibiant/tymor byr ac unrhyw wasanaethau gofal cymunedol eraill.

Ar ben hynny, ni fydd y gofal cymunedol a ddiystyrir uchod (yn seiliedig ar elfen yn ystod y dydd y Lwfans Byw i'r Anabl/Taliad Annibyniaeth Personol/Lwfans Gweini) yn berthnasol i ofal seibiant/tymor byr (oherwydd bydd y gofal hefyd yn cynnwys "elfen gyda'r nos") - felly, gallai cleientiaid gofal cymunedol presennol dalu mwy am ofal seibiant/tymor byr nag y byddent am unrhyw wasanaethau gofal cymunedol eraill (e.e. os ydych wedi'ch asesu i dalu £60 yr wythnos tuag at ofal cartref, gallai fod disgwyl i chi dalu hyd at £100 yr wythnos am unrhyw ofal seibiant/tymor byr - h.y. £40 ychwanegol yr wythnos).

Sylwer os ydych yn derbyn gofal seibiant/tymor byr, bydd angen i chi dalu'ch cyfraniad asesedig (neu unrhyw swm ychwanegol fel y nodir uchod, h.y. ble byddwch yn derbyn unrhyw wasanaethau eraill) yn uniongyrchol i'r cartref gofal/darparwr.

Ymweliadau a ganslwyd ac arosiadau yn yr ysbyty

Os ydych yn rhoi rhybudd o 24 awr i'ch darparwr gofal (Gofal Cartref neu Asiantaeth Gofal Cartref) ni chodir tâl arnoch am unrhyw ymweliadau cartref a ganslwyd. Os nad ydych yn rhoi gwybod i'ch darparwr gofal, codir tâl arnoch am unrhyw "alwadau a gollir".

Os ydych yn cael eich derbyn i'r ysbyty, codir tâl arnoch o hyd am hyd at 1 wythnos (uchafswm), am fod trefniant mewn lle i gadw'ch pecyn gofal yn agored/ar gael h.y. fel nad oes oedi wrth ailddechrau eich pecyn gofal pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.

Sylwer y bydd angen i chi barhau i dalu am Lifelink Extra (tele-ofal/categori 3 yn flaenorol) os ydych i ffwrdd o'ch cartref (h.y. yn yr ysbyty, neu am unrhyw reswm arall). Bydd hefyd angen i chi dalu am unrhyw wasanaeth gofal dydd os nad ydych yn bresennol am gyfnod o bythefnos (am unrhyw reswm, heblaw am eich derbyn i ofal seibiant/tymor byr).

Gwybodaeth berthnasol arall (gofal preswyl a chymunedol)

Ailasesu ffïoedd

Caiff ffïoedd eu hailasesu'n flynyddol, ac anfonir ffurflen ailasesu bob mis Ebrill - gofynnir i chi hefyd roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau o ran perchnogaeth eich cartref presennol (eich cartref blaenorol os ydych yn byw mewn cartref gofal erbyn hyn), yn ogystal ag unrhyw newidiadau i'ch incwm a'ch cynilion (h.y. gan y bydd unrhyw newidiadau (y gallwch eu hôl-ddyddio) yn golygu y bydd eich ailasesiad yn cael ei ôl-ddyddio am yr holl gyfnod perthnasol).

Cael yr incwm mwyaf posib

Gall ein Huned Hawliau Lles gynorthwyo wrth sicrhau eich bod yn derbyn yr incwm cywir (o'ch pensiynau/budd-daliadau etc.)  - os oes posibiliad bod gennych hawl i dderbyn incwm ychwanegol, gallwn eich atgyfeirio i'r Uned Hawliau Lles, neu'ch cynghori i gysylltu â'r asiantaeth berthnasol (e.e. Yr Adran Gwaith a Phensiynau) am fwy o fanylion.

Sylwer bod cyngor hefyd ar gael gan asiantaethau cyngor allanol.

Proses Adolygu

Gallwch wneud cais am adolygiad asesiad ariannol os ydych yn anhapus â chanlyniad eich asesiad ariannol, a gallwch ddewis gohirio talu'ch tâl nes bydd adolygiad yn cael ei gynnal (ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni pam eich bod yn gohirio'r taliad) - fodd bynnag, byddwn yn adfer unrhyw symiau sydd heb eu talu a all gronni, unwaith y bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gadarnhau (h.y. yn ddibynnol ar ganlyniad yr adolygiad).

Polisi Codi Tâl

Sylwer bod copïau o "Bolisi Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl" Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gael, a gellir gofyn am gopi ohono gan yr is-adran Asesiadau Ariannol (gweler y manylion cyswllt perthnasol isod).

Manylion cyswllt - Is-adran Asesiadau Ariannol

Cyfarwyddiadau i SA11 3QZ
Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr
Neath Port Talbot Council Canolfan Ddinesig Castell-nedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot SA11 3QZ pref

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch gofal preswyl a thaliadau uniongyrchol:-

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch gofal cymunedol:-

Ffïoedd Safonol (o fis Ebrill 2022)

Gofal preswyl

Gwasanaeth Ffï yr wythnos
Gofal preswyl (cartrefi preifat) £792.00
Gofal Nyrsio (cartrefi preifat) £801.00
Gofal Nyrsio henoed bregus eu meddwl (cartrefi preifat) £843.00
Gofal preswyl Pobl £882.76
Lleoliad Teulu i Oedolion £459.00

Sylwer: Mae'r holl gyfraddau uchod yn berthnasol i leoliadau o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot - fel y nodwyd yn flaenorol yn y ddogfen hon, ni fydd unrhyw leoliadau "y Tu allan i'r Sir" o reidrwydd yn cael eu comisiynu ar yr un cyfraddau a restrir uchod.

Sylwer hefyd y bydd angen i gartrefi gofal unigol gael eu cofrestru'n briodol er mwyn darparu gofal nyrsio ar gyfer henoed bregus eu meddwl.

Gofal yn y Gymuned

Yr uchafswm yw £100 yr wythnos o hyd, a bydd angen ystyried y cyfraddau isod pan fyddwch yn cyfrifo'r ffïoedd asesedig ar gyfer y gwasanaeth(au) rydych yn ei dderbyn(/eu derbyn):-

Gwasanaeth Ffï
Gofal cartref £20 yr awr
Lifelink Extra (Tele-ofal/Cat 3 yn flaenorol) £5.70 yr wythnos
Gofal dydd £36 y diwrnod/sesiwn yn bresennol
Taliadau uniongyrchol Gwerth y taliad uniongyrchol
Gofal seibiant/tymor byr £100.00 yr wythnos/rhan o'r wythnos
Sylwer y bydd yr holl ffïoedd asesedig yn cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y dechreuodd y gwasanaeth(au) y codir tâl amdano(/amdanynt).