Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Adnoddau Cymunedol

Gwasanaeth ar y cyd yw'r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) a ddarperir gan:

Mae'r TAC yn helpu oedolion (dros 18 oed) sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot y mae angen cefnogaeth arnynt i fyw'n annibynnol, yn eu tai eu hunain.

Bydd cleifion yn derbyn:

  • yr ymyriad cywir
  • ar yr adeg gywir
  • gan y gweithiwr proffesiynol cywir

Gellir cysylltwch y Tîm Adnoddau Cymunedol:

Tîm SPOC
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Mae Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant yn cydgysylltu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Ein gwasanaethau

Tîm Cefnogaeth Synhwyraidd

Gwasanaeth i helpu pobl:

  • sydd â nam ar eu golwg
  • sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw
  •  sy'n fyddarddall (neu â nam ar ddau synnwyr – cyfuniad arwyddocaol o nam ar y clyw a'r golwg)

Rydym yn cefnogi plant ac oedolion ag anableddau synhwyraidd.

Tîm Ailalluogi

Gwasanaeth cefnogi i helpu chi i adennill eich sgiliau a'u hannibyniaeth.

Gall Ailalluogi helpu pobl i:

  • wella ansawdd eu bywyd
  • cadw neu adennill sgiliau bywyd pob dydd
  • adennill neu wella eu hyder
  • gwella eu dewisiadau sy'n ymwneud â bywyd pob dydd

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol

Nod y Gwasanaeth yw hybu'ch iechyd a'ch lles trwy weithgareddau bob dydd, trwy ddefnyddio technegau amrywiol, addasu eich amgylchedd a defnyddio offer arbennig.

Gallwn weithio gyda chi i

  • wella ansawdd eich bywyd
  • cynyddu eich annibyniaeth a'ch diogelwch
  • eich galluogi i gael mynediad i wasanaethau cymorth eraill
  • cynyddu eich dewis a'ch rheolaeth

Technoleg Gynorthwyol

Mae'r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn cynnig amrywiaeth o gategoriau i alluogi pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac o'i amgylch.

Mae Technoleg Gynorthwyol:

  • yn cynnig hawdd i'w ddefnyddio
  • yn cynnig tawelwch meddwl i'r cwsmer, gofalwyr a theulu/ffrindiau
  • gall leihau lefel y gefnogaeth y mae ei angen I barhau i fyw gartref
  • ymateb 24 awr/365 diwrnod gan y ganolfan fonitro
  • hyrwyddo annibyniaeth
  • lleihau risgiau

Ystafell Atebion Digidol

Mae'r cyfleuster arloesol hwn wedi'i gynllunio i gynnig cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i:

  • pobl
  • rhoddwyr Gofal
  • gweithwyr proffesiynol

sydd yn gweithio yn y maes, a allai elwa o ddefnyddio technoleg ddigidol prif ffrwd.

Gellir trefnu apwyntiad i ymweld â'r Ystafell Atebion Digidol a gweld y dechnoleg gynorthwyol trwy ymuno ag arddangosiad grŵp (uchafswm o 6 lle'r sesiwn)

Gellir trefnu sesiynau unigol drwy gysylltu â:

Y Tîm Technoleg Gynorthwyol
(01639) 686636 (01639) 686636 voice +441639686636