Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefnogaeth ac wybodaeth i Gofalwyr

Cefnogaeth ac Wybodaeth i Gofalwyr

Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yng nghymunedau Castell-nedd Port Talbot, ac rydym yn cydnabod bod gofalwyr yn darparu'r rhan fwyaf o ofal cymunedol. Efallai y gallwn ei gwneud hi'n haws i chi ofalu am rywun gartref trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i chi ynghylch y math o gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned neu gymorth ymarferol i’ch helpu i gefnogi'r person rydych yn gofalu amdano.

Yr hyn a wyddom, o siarad â gofalwyr ar draws Cymru, yw mai chi yw'r arbenigwyr, "Ac fel yr arbenigwyr mae’n bwysig ein bod yn gwrando arnoch chi ac yn eich gwerthfawrogi."Mae angen i ni fod yn rhagweithiol yn y gefnogaeth a ddarparwn a deall yr hyn sy'n bwysig i bob gofalwr. Gwyddom eich bod yn profi teimladau o unigrwydd, rhwystredigaeth ac unigedd, a sut y gall hyn effeithio ar eich lles emosiynol.

Pan fyddwch yn ein ffonio, gallwch ddisgwyl cael amser i siarad am yr hyn sydd bwysicaf i chi, byddwn yn gofyn i chi am yr hyn sy'n gweithio'n dda i chi ar hyn o bryd, yr hyn nad yw'n gweithio cystal i chi a thrafod y camau nesaf. Efallai mai dim ond rhywfaint o gyngor sydd ei angen arnoch dros y ffôn neu ar e-bost. Neu efallai yr hoffech i rywun ymweld â'ch cartref i drafod eich rôl ofalu yn bersonol neu drwy alwad fideo gydag un o'n tîm. Rydym yn hapus i hwyluso pa ddull bynnag o gyfathrebu sy'n gweithio orau i chi.

Mae'n bwysig gwybod y gallwch chi ein ffonio o hyd os yw'r person yr oeddech yn gofalu amdano wedi marw ond rydych chi am siarad â rhywun o hyd. Rydyn ni'n gwybod bod colli rhywun roeddech chi'n gofalu amdano yn brofiad anodd iawn ac rydym am sicrhau eich bod chi'n gwybod ein bod ni yma i siarad. Gall ein Gwasanaeth Gofalwyr eich rhoi mewn cysylltiad â'r grwpiau cefnogaeth briodol.

Nid oes angen i'r person rydych chi'n gofalu amdano neu chi fel y gofalwr fod yn hawlio unrhyw fudd-daliadau penodol er mwyn siarad â ni, ac nid yw siarad â ni yn effeithio ar ba fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio.

Mae angen i chi wybod hefyd nad oes un math arbennig o ofalwr. Nid oes ots pa mor hen ydych chi na sawl awr y dydd neu'r wythnos rydych chi'n darparu gofal. Gallech fod yn ofalwr am 5 munud y dydd neu'n 24 awr y dydd, gallech chi fod yn ofalwr plentyn, rhiant neu oedolyn arall. Peidiwch â darllen y dudalen hon a diystyru'ch hun rhag cysylltu â ni. Nid ydym yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn yw gofalwr a byddai'n well gennym siarad â chi yn hytrach na'ch bod yn bryderus neu dan straen ynglŷn â chael help.

Gofalwr yw "unrhyw un, o unrhyw oed, sy'n darparu gofal a chefnogaeth yn ddi-dâl i berthynas, cyfaill neu gymydog sy'n anabl, sydd â salwch corfforol neu feddyliol, neu sydd wedi'i effeithio gan gamddefnyddio sylweddau”.

Gall gofalu effeithio ar bob rhan o fywyd gofalwr, ac yn aml mae gofalwyr yn anwybyddu eu hanghenion eu hunain. Mae'n gallu bod yn brofiad gwerthfawr iawn ond mae hefyd yn gallu bod yn waith anodd, blinedig sy’n achosi straen.

Gall gofalu gael effaith ar:

  • y gallu i gael mynediad at gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth
  • adnoddau ariannol
  • iechyd a lles emosiynol yr uned deuluol
  • y gallu i gael mynediad at weithgareddau cymdeithasol a hamdden
  • perthnasoedd ehangach â theulu a ffrindiau

I ofalwyr ifanc mae hefyd yn gallu cael effaith ar eu:

  • profiadau plentyndod
  • iechyd a Lles
  • cyfleoedd addysg a gyrfa
  • perthnasoedd teulu a chyfoedion
  • ymdeimlad o hunaniaeth

Rydym hefyd yn cydnabod y gall bod yn ofalwr gael effaith ar fywyd ar ôl gofalu:

  • addasu i berthnasoedd sy'n newid pan nad yw gofalu gartref bellach yn bosib
  • unigedd cymdeithasol a diffyg hyder ar ôl profedigaeth
  • ailddiffinio eu hunaniaeth a'u pwrpas
  • bod â risg uwch o fod angen gwasanaethau gofal eu hunain

Efallai eich bod chi eisoes wedi siarad am eich rôl ofalu os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano wedi cael asesiad; ond mae gennych yr hawl i ddewis cael eich Asesiad Gofalwyr eich hun.

Diben Asesiad Gofalwyr yw rhoi cyfle i chi siarad am sut mae gofalu'n effeithio arnoch chi a thrafod ffyrdd y gellir cyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi.

Gallwch ofyn am asesiad gofalwyr trwy gysylltu â Thîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant:

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

"Mae'n bwysig trafod eich anghenion eich hun a'r hyn sy'n bwysig i chi"

Er mwyn eich helpu i deimlo'n gartrefol, gallwch gael aelod o'r teulu neu ffrind yn bresennol os ydych am wneud hynny. Bydd yr asesiad yn gyfrinachol, nid oes rhaid i'r person rydych chi'n gofalu amdano wybod eich bod wedi cael Asesiad Gofalwyr (gallwch ddewis dweud wrthyn nhw) neu fod gyda chi pan fyddwch chi'n cael eich Asesiad Gofalwyr.

Eich penderfyniad chi fydd yr hyn rydych chi'n ei drafod yn ystod yr asesiad, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n trafod yr hyn sy'n bwysig i chi a sut y gallwch chi gael eich cefnogi i gyflawni hyn.

Os ydych yn Ofalwr Ifanc sy'n chwilio am asesiad bydd angen caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad arnoch i gymryd rhan yn yr asesiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn yr adran isod neu drwy gysylltu â:

Joel Davies
(01639) 763030 (01639) 763030 voice +441639763030

Os ydych yn Ofalwr Ifanc, bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan aelod o staff o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Castell-nedd Port Talbot.

Pob gofalwr arall Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gyda chi gan aelod o staff o Wasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ar ran yr awdurdod lleol.

Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot
(01639) 642277 (01639) 642277 voice +441639642277

Yn dilyn yr asesiad gofalwyr efallai y gallwn ei gwneud yn haws i chi ofalu am rywun gartref drwy ddarparu gwybodaeth, cymorth neu gyngor a/neu gymorth ymarferol i gefnogi'r person rydych yn gofalu amdano yn dilyn asesiad.

  • addasiadau i'r cartref - megis canllawiau neu rampiau. Cyfleoedd cyflogaeth a gefnogir i'r person rydych chi'n gofalu amdano am
  • Daliadau Uniongyrchol (i bobl drefnu eu gofal eu hunain).
  • technoleg gynorthwyol - sy'n defnyddio synwyryddion yn y cartref i roi rhybudd os ydynt, er enghraifft, yn canfod problem bosib megis rhywun wedi cwympo, llifogydd, mwg neu bod y nwy wedi'i adael ymlaen.

Gallwn eich helpu i:

  • feddwl am eich cyfrifoldebau gofalu a siarad amdanynt
  • cael help gan wasanaethau eraill - iechyd a thai er enghraifft
  • cysylltu â grwpiau a sefydliadau eraill sy'n deall am ofalu
  • dod o hyd i wybodaeth a chyngor, er enghraifft ar fudd-daliadau, incwm a'ch
  • cefnogaeth gwaith ieuenctid un i un wedi'i theilwra er mwyn diwallu anghenion y gofalwr ifanc unigol yn y ffordd orau
  • cyfleoedd i ofalwyr ifanc gael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu, treulio amser gyda gofalwyr ifanc eraill, dysgu a chael hwyl
  • cefnogaeth ar gyfer cyfnodau trawsnewid pwysig gan gynnwys symud o'r gwasanaeth gofalwyr ifanc i'r gwasanaeth oedolion sy'n ofalwyr
  • eiriolaeth mewn ysgolion, colegau a sefydliadau perthnasol eraill fel bod pobl broffesiynol yn gallu cefnogi'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw'n well
  • gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r teulu cyfan er mwyn iddynt ddod o hyd i'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt

Ar ôl yr asesiad, gallwn hefyd ystyried:

  • help i drefnu larwm cymunedol
  • trefnu gweithgareddau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano
  • eich cofrestru ar gyfer y Cynllun Cerdyn Brys Gofalwyr
  • trefnu gwasanaethau eraill sy'n rhoi seibiant i chi - seibiant, gwasanaeth gofal dydd/nos neu gyfeillio

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed y mae ganddynt rôl ofalu. Gallai hyn fod oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae gennych y dewis i ddewis pa ddarpariaeth rydych chi'n ei chyrchu gan fod y Gwasanaethau Gofalwyr yn darparu darpariaeth ar gyfer gofalwyr dros 18 oed.

Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra a allai gynnwys cefnogaeth gwaith ieuenctid un i un, gwaith grŵp, gwybodaeth a chyngor, cymorth wrth gael mynediad at wasanaethau eraill ynghyd â chyfleoedd hamdden er mwyn cael hwyl.

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn cynnig:-

  • cefnogaeth gwaith ieuenctid un i un wedi'i theilwra er mwyn diwallu anghenion y gofalwr ifanc unigol yn y ffordd orau;
  • cyfleoedd i ofalwyr ifanc gael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu, treulio amser gyda gofalwyr ifanc eraill, dysgu a chael hwyl;
  • cefnogaeth ar gyfer cyfnodau trawsnewid pwysig gan gynnwys symud o'r gwasanaeth gofalwyr ifanc i'r gwasanaeth oedolion sy'n ofalwyr.
  • eiriolaeth mewn ysgolion, colegau a sefydliadau perthnasol eraill fel bod pobl broffesiynol yn gallu cefnogi'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw'n well;
  • gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r teulu cyfan er mwyn iddynt ddod o hyd i'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt.

I gael mwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaeth gofalwyr ifanc, ffoniwch Tîm Teuluoedd yn Gyntaf Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. 

Joel Davies
(01639) 763030 (01639) 763030 voice +441639763030

Ni chodir tâl am yr asesiad nac am unrhyw wybodaeth neu gyngor. Codir tâl am rai o'r gwasanaethau a ddarperir. Mae'r rhain fel arfer yn dibynnu ar incwm yr unigolyn ac unrhyw gynilion sydd ganddo.

Bydd y rheolwr gofal (gweithiwr cymdeithasol) yn sicrhau bod gan yr unigolyn yr wybodaeth sydd ei hangen arno am unrhyw ffïoedd, cyn iddo gytuno i Gynllun Gofal.

Nid oes unrhyw dâl am wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol trwy'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc ar gyfer Gofalwyr Ifanc.

Bethmae gennyf hawli?

Fel gofalwr efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Gofalwyr a gostyngiad yn dreth y gyngor.

Lwfansgofalwyr

Os ydych yn treulio 35 awr neu fwy yr wythnos yn gofalu am berson arall gallai fod gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr. Mae hwn yn daliad wythnosol o £ 61.35. Mae hwn yn daliad trethadwy a gallai effeithio ar fudd-daliadau eraill y byddwch yn gwneud cais amdano.

Gostyngiadibiliau Treth y Cyngor

Efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad treth y cyngor o 25-50% os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • gofalwyr Di-dâl
  • os byddwch yn gadael eich eiddo i dderbyn gofal gan rywun 

Gofalwyr Di-dâl

Efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad Treth Gyngor os ydych yn ofalwr di-dâl a chi:

  • yn byw yn yr un eiddo â'r person yr ydych yn gofalu amdano
  • darparu o leiaf 35 awr yr wythnos o ofal (nid oes rhaid i chi fod yn derbyn Lwfans Gofalwr )
  • yn darparu gofal i rywun nad yw eich priod, partner neu plentyn dan 18 oed

Yn ogystal, rhaid i'r person rydych yn gofalu amdano yn cael un o'r canlynol:

  • cyfradd safonol neu uwch o daliad annibyniaeth bersonol (PIP)
  • cyfradduwch elfenofal LwfansByw i'r Anabl
  • cyfradd uwch oLwfans Gweini
  • cynudd mewn PensiwnAnabledd
  • cynudd mewn LwfansGweini Cyson

Suti wneud cais?

Os ydych yn gymwys, bydd angen i chi ofyn am a llenwi ffurflen gais Disgownt Treth y Cyngor a chyflenwi prawf cymhwyster (o'r rhestr uchod).

  • e-bost iwch: council.tax@npt.gov.uk
  • fel arall, galwch heibio yn y Ganolfan Ddinesig yng Nghastell-nedd neu Phort Talbot  

Os byddwch yn gadael eich eiddo eich hun i ofalu am rywun 

Os byddwch yn symud i fyw gyda'r person yr ydych yn gofalu amdano, gallech gael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor. Cysylltwch â'r Adran Treth y Cyngor i ddweud wrthym:

  • y dyddiad y gadawsoch eich tŷ a'i fod yn wag (dim arall yn byw yno)
  • eich bodyn gofalu am rhywun
  • eich cyfeiriad newydd ac enw'r person yr ydych yn gofalu amdano
  • y lefel a'r matho ofalrydychyn ei ddarparu
  • p'un aydych yn bwriadu dychwelyd

Rydym angen llythyr meddyg yn cadarnhau y person yr ydych yn gofalu amdano yn ofynnol ar ofal parhaus.

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth am fudd-daliadau ar gyfer gofalwyr yn gov.uk.

Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot 'yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau. Cysylltwch â: (01639) 642277 am fwy o wybodaeth.

  • SPOC: Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU) sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi.

    Mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth orau sydd ar gael i chi.

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802
  • Prydau ar olwynion: Gwasanaeth pryd ar glud ydym ni, wedi'n lleoli ym Mhort Talbot, ac rydym yn gwasanaethu ardaloedd Castell-nedd Port Talbot.

    Rydym yn ymfalchïo mewn dosbarthu bwyd o safon ac yn arbenigo yn yr henoed a'r diamddiffyn. Mae pob aelod o'n staff wedi derbyn gwiriad llawn gan y GDG ac maent bob amser yn barod i fynd cam ymhellach i helpu.  Rydym yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o ardal Castell-nedd, hyd at Resolfen, a phob rhan o Bort Talbot. 

Community Meals on Wheels
(0800) 086 2415 (0800) 086 2415 voice +448000862415
  • Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot - Nid yw pawb sy'n gwneud hyn yn ystyried eu hunain fel gofalwr, ond mae cyfrifoldebau gofalu'n effeithio'n fawr ar eu bywydau. Ein nod yw helpu gofalwyr di-dâl i gydnabod eu rôl gofalu a darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr dros 18 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot
(01639) 642277 (01639) 642277 voice +441639642277
  • Gofalwyr Ifanc - Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Castell-nedd Port Talbot yn cynnig ystod o gefnogaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, sydd â rôl ofalgar gartref. Mae'r prosiect yn darparu pecyn cymorth wedi'i deilwra a all gynnwys cymorth gwaith ieuenctid un i un, gwaith grŵp, gwybodaeth a chyngor, help i gael mynediad at wasanaethau eraill, ynghyd â chyfleoedd hamdden sy'n gysylltiedig â chael hwyl ar eich pen eich hun. I drefnu cefnogaeth, cysylltwch â:
Neath Port Talbot Young Carers Service
(01639) 763030 (01639) 763030 voice +441639763030
  • Age Connects - Ein nod yw darparu cefnogaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl dros 50 oed y mae angen iddynt fyw bywyd iachach, mwy actif ac annibynnol. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch ag:
Age Connect
(01639) 617333 (01639) 617333 voice +441639617333
  • Age Cymru Gorllewin Morgannwg - Rydym yn darparu gwasanaethau annibynnol, rhanbarthol gyda sicrwydd ansawdd i oedolion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr i'w helpu i fyw a heneiddio'n dda. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
Age Cymru West Glamorgan
(01792) 648866 (01792) 648866 voice +441792648866
  • Bathodynnau Glas - Consesiwn yw'r Bathodyn Glas sy'n helpu pobl ag anableddau difrifol sydd â phroblemau symudedd parhaol a sylweddol i barcio mor agos at y lle y mae angen iddynt ymweld ag ef.

  • Dewis Cymru - Cyfeiriadur ar-lein yw Dewis Cymru, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am dros 6,000 o sefydliadau neu wasanaethau cenedlaethol a lleol a all helpu pobl gyda'u lles.

  • Me, Myself and I – darparu cefnogaeth emosiynol, sicrwydd a chyfleoedd i'r person a/neu ei deulu sy'n byw gydag anghofrwydd i gymdeithasu mewn lleoliad hamddenol a chyfeillgar. Yn ein canolfan yn Llansawel, gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau gwahanol i chi er mwyn diwallu'ch anghenion. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:

Me, Myself and I
(01639) 812528 (01639) 812528 voice +441639812528

CGGCNPT - Mae CGG Castell-nedd Port Talbot ar gael i gefnogi, hyrwyddo a datblygu cyfranogiad sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac unigolion yn y sector gwirfoddol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fel rhan o strwythur Cefnogaeth Trydydd Sector Cymru, maent yn cynnig cefnogaeth gyda gwirfoddoli, arian cynaliadwy, llywodraethu da a chynnwys a dylanwadu ar eraill. P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n chwilio am gefnogaeth ar gyfer eich hun, yn wirfoddolwr posib sydd am helpu neu'n grŵp sy'n gobeithio cyflwyno gwasanaethau yn y gymuned, gall CGG Castell-nedd Port Talbot eich helpu. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:

NPTCVS
(01639) 631246 (01639) 631246 voice +441639631246
  • Hawliau Lles - Adran arbenigol yw'r Uned Hawliau Lles sy'n ymdrin â'r holl agweddau ar helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Os ydych chi'n meddwl y gallwch hawlio budd-daliadau ychwanegol ond nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, efallai y byddwn yn gallu helpu. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
Hawliau Lles
(01639) 685225 (01639) 685225 voice +441639685225