Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Asesiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau

Trafodaeth rhyngoch chi a Gweithiwr Cymdeithasol i nodi eich anghenion cymwys a chanfod a allwch gael gwasanaethau gan ofal cymdeithasol i oedolion yw asesiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

Beth sy'n digwydd yn ystod asesiad?

Yn ystod asesiad, bydd gennych gyfle i drafod eich anghenion cefnogi gyda Gweithiwr Cymdeithasol ac archwilio ffyrdd y gellir diwallu'r rhain.

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn gofyn i chi am y canlynol:

  • Eich annibyniaeth
  • Yr anawsterau rydych yn eu hwynebu
  • Eich arferion personol a domestig
  • Faint rydych yn ymwneud â'ch teulu, eich ffrindiau a'r gymuned
  • Pa gymorth a chefnogaeth sydd gennych eisoes
  • Pa gymorth rydych yn meddwl ei fod ei angen arnoch.

Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu aelod o'r teulu, i gymryd rhan yn yr asesiad gyda chi.

Pa mor hir y bydd rhaid i mi aros am asesiad

Os yw eich sefyllfa'n un brys ac rydych mewn argyfwng neu mewn perygl difrifol o niwed, dywedwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni a bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ceisio'ch gweld cyn gynted â phosib.

Dan unrhyw amgylchiadau eraill, trefnir asesiadau ar amser sy'n gyfleus i bawb.

Beth sy'n digwydd ar ôl cynnal asesiad?

Ar ôl i chi gael asesiad, bydd y cyngor yn dweud wrthych a allwch dderbyn cefnogaeth ariannol gan y cyngor. Gelwir hyn yn gymhwysedd.

Cymhwysedd

Gan fod llawer o bobl yn gofyn am ein help, mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn y fwrdeistref sirol yn y modd mwyaf effeithiol, teg ac effeithlon. Er mwyn ein helpu i benderfynu pwy ddylai dderbyn ein gwasanaethau, rhydym yn defnyddio canllawiau o'r enw Meini Prawf Cymhwyster (sy'n seiliedig ar fframwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru).

Wrth edrych ar eich anghenion, rhydym yn ystyried faint o risg sydd gennych i'ch annibyniaeth.  Mae angen inni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu diwallu'n gyntaf. Mewn geiriau eraill, mae ganddynt y flaenoriaeth uchaf. Pan fyddwch wedi cael asesiad, rhydym yn cymharu eich anghenion gydag ein meini prawf cymhwysedd, a phenderfynu ar eich blaenoriaeth. Ceir pedair lefel fel a ganlyn:

Meini Prawf Cymhwyster i Oedolion

Mae'r amod cyntaf yn ymwneud ag amgylchiadau'r oedolyn ac yn cael ei fodloni os yw'r angen yn codi o'r amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau:

  • afiechyd corfforol neu feddyliol;
  • oedran;
  • anabledd;
  • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau; neu amgylchiadau tebyg eraill

Bodlonir yr ail amod os yw'r angen yn ymwneud ag un neu fwy o ganlyniadau a bennir yn y rheoliadau:

  • gallu i gynnal hunan-ofal neu drefniadau domestig
  • gallu i gyfathrebu
  • amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • cymryd rhan yn y gwaith
  • addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • cynnal a datblygu perthnasau teuluol neu berthnasau personol arwyddocaol eraill
  • datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol a chyfranogiad yn y gymuned; neu
  • cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn

Bodlonir y trydydd amod os yw'r angen yn golygu nad yw'r oedolyn yn gallu cwrdd â'r angen hwnnw ar ei ben ei hun, gyda gofal a chefnogaeth eraill sy'n gallu darparu'r gofal a'r gefnogaeth honno; neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned.
Cyflawnir y pedwerydd amod os yw'r oedolyn yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o'u canlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu eu hanghenion yn unol â chynllun gofal a chymorth neu mae'n galluogi bod angen cwrdd â thaliadau uniongyrchol.

Rwy'n gymwys am gefnogaeth a ariennir gan y cyngor

Os ydych yn gymwys, bydd y cyngor yn dweud wrthych faint o arian y mae'n debygol y byddwn yn gorfod ei dalu am eich gwasanaethau. Gall y cyngor drefnu'r gwasanaethau hyn i chi neu efallai y byddwch am dderbyn yr arian fel taliad uniongyrchol, sy'n rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i chi ynghylch y gefnogaeth mae ei hangen arnoch.

Gyda chymorth rhywun rydych yn ymddiried ynddo, byddwch yn cynllunio pecyn cymorth. Gelwir hyn yn gynllun gofal a chefnogaeth. Byddwch yn amlinellu'r nodau rydych am eu cyflawni a sut rydych yn bwriadu eu cyflawni.

Nid wyf yn gymwys am gefnogaeth a ariennir gan y cyngor

Os nad ydych yn gymwys, gall gofal cymdeithasol i oedolion dal eich helpu gan ddarparu gwybodaeth a'ch cyfeirio i sefydliadau defnyddiol yn yr ardal leol. Gallai'r rhain fod yn breifat neu'n wirfoddol ac efallai y gallant ddarparu rhai gwasanaethau am ddim.

Mae llawer o bobl y mae'n well ganddynt drefnu eu gwasanaethau eu hunain yn dewis cyflogi gweithiwr gofal yn uniongyrchol drwy asiantaeth gofal cartref. Os ydych chi'n teimlo y byddai'r math hwn o gefnogaeth yn eich helpu, cofiwch ofalu am ddewis gweithiwr sydd wedi'i gofrestru a'i arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth yn y gymuned a all eich helpu i fyw bywyd iach, cyflawn ac annibynnol.

A fydd rhaid i mi dalu am fy ngwasanaethau gofal cymdeithasol?

Unwaith y byddwch wedi creu cynllun cefnogaeth a'i fod wedi'i gymeradwyo gan y cyngor, bydd angen hefyd i chi gwblhau asesiad ariannol i weld faint, os unrhyw beth, y mae angen i chi ei gyfrannu at eich cyllideb bersonol.

Byddwn yn cyfrifo'r swm y mae ei angen i chi ei gyfrannu drwy ystyried:

      • Eich incwm a'ch cynilion
      • Os oes gennych anabledd
      • Eich statws priodasol
      • Os ydych yn ofalwr

Cysylltu

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU)

SPOC TEAM
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Os ydych yn yr ysbyty, dylech ofyn i siarad â rhywun o dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty.