Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Bspoked Enterprises

Gwasanaeth cyflogaeth a hyfforddiant i oedolion ag anableddau amrywiol yw Bspoked Enterprises.  Mae Bspoked yn rhoi ffocws ar ddiddordebau pob unigolyn a'r hyn yr hoffai ei elwa o'r gwasanaeth. Mae gan bawb gyfle i gymryd rhan wrth ddysgu am y broses gyfan, o ddylunio i greu a gwerthu cynnyrch. Mae gan unigolion gyfle hefyd i ddysgu a datblygu amrywiaeth eang o sgiliau trwy bum gweithdy'r gwasanaeth - gwaith coed, crefftau, gwydr, arlwyo a mecaneg beiciau.

I weld detholiad y cynhyrchion a wnaed yn BSPOKED Enterprises, ewch i'w tudalen Facebook.

Lleoliadau

Bspoked Enterprises, Heol y Fynachlog, Mynachlog Nedd, Castell-nedd SA10 7DR.

Meini prawf cymhwysedd

Nid oes angen i chi gael asesiad ffurfiol neu gynllun gofal a chefnogaeth i gael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Annibyniaeth Gymunedol. Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy'r canlynol:

  • porth CNPT
  • timau gwaith cymdeithasol
  • timau atal digartrefedd
  • tîm argyfyngau iechyd meddwl
  • gwasanaethau plant a phobl ifanc
  • cydlynwyr ardaloedd lleol

Talu am wasanaethau

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Manylion Cyswllt

I gael mwy o wybodaeth, Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU):

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Oriau agor

8.30yb - 5yp, o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30yb – 4.30yp ar ddydd Gwener.