Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaethau Anghenion Cymhleth

Y Gwasanaethau Anghenion Cymleth

Mae ein Gwasanaethau Anghenion Cymhleth yn rhoi cefnogaeth i bobl wella a chynnal iechyd, lles a chynhwysiad cymdeithasol drwy: ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd yn y gwasanaethau a'r gymuned leol.

Gallai enghreifftiau o weithgareddau gynnwys:

  • nofio/Hydrotherapi
  • crefftau
  • beicio
  • ffisiotherapi a thylino'r corff, ymarferion cadair freichiau
  • cerddoriaeth a dawns
  • mynd i leoliadau cymunedol am luniaeth neu ginio
  • mynd i ystafell synhwyraidd
  • coginio sylfaenol

Ceir cynllun o weithgareddau wythnosol y cytunwyd arno ym mhob gwasanaeth sy'n cael ei adolygu'n flynyddol ac yn amlach os oes angen.

Lleoliadau

Gwasanaeth Anghenion Cymhleth Brynamlwg:

  • Tŷ Rhodes, Rhodfa Rhodes, Aberafan, Port Talbot SA12 6UT

Gwasanaeth Anghenion Cymhleth Trem-y-Môr:

  • Rhodfa Sgarlad, Port Talbot SA12 7PH

Meini prawf cymhwysedd

I ddeall sut gallwn eich helpu i ganfod y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir, bydd angen i ni siarad â chi am eich sefyllfa. Asesiad yw'r enw ar y broses hon.

Mae'r broses asesu'n hyblyg gan ddibynnu ar eich anghenion a gellir ei chynnal gan amrywiaeth o weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd.

Gwybodaeth am gludiant

Caiff eich cymhwysedd am gludiant ei ystyried yn ystod y broses asesu. Os asesir bod angen cludiant arnoch, bydd eich gweithiwr cymdeithasol a'r tîm Gwasanaethau Anghenion Cymhleth yn trefnu hyn ar eich cyfer.

Talu am wasanaethau

Bydd cost Gwasanaethau Anghenion Cymhleth yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol benodol a'r gwasanaeth a ddarperir. Penderfynir ar hyn yn ystod yr asesiad ariannol.

Ceir mwy o wybodaeth am dalu am wasanaethau gofal yma.

Manylion Cyswllt

I gael gwybod a ydych chi'n gymwys am Gwasanaethau Anghenion Cymhleth, Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU):

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802
  • Oriau agor: 8.30yb - 5yp, o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30yb – 4.30yp ar ddydd Gwener