Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Asesu Gofal

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn asesu'ch anghenion. Efallai y gallwn drefnu rhai pethau syml heb orfod cynnal asesiad manwl. Fodd bynnag, os ydy'ch anghenion yn fwy cymhleth, neu os oes angen cefnogaeth neu ofal tymor hir arnoch, bydd angen i ni gynnal asesiad mwy manwl. Bydd hyn yn ein galluogi i benderfynu:

  • Pa fath o gefnogaeth y gall fod ei hangen arnoch chi neu'r person rydych yn gofalu amdano
  • P'un a ydych yn gymwys am wasanaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot neu beidio, neu os oes angen eich cyfeirio at gefnogaeth fwy addas, byddwn yn cynnal asesiad o anghenion mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae gwahanol lefelau o asesiad gan ddibynnu ar a yw'ch anghenion yn ymddangos yn syml neu'n fwy cymhleth.

Os oes angen help arnoch mewn argyfwng efallai y byddwn yn trefnu ar gyfer gwasanaethau dros dro, cyn cwblhau'ch asesiad.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:- Thîm Un Pwynt Cyswllt Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (SPOC)

SPOC Team
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Bydd gweithiwr proffesiynol yn ymweld â chi ac yn trafod â chi sut rydych yn rheoli'ch bywyd o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig ein bod yn cael darlun llawn o'ch sefyllfa, felly efallai bydd y gweithiwr proffesiynol yn gofyn am ganiatâd i siarad â phobl eraill sy'n eich adnabod, megis eich meddyg. Os oes gennych berthynas neu ffrind rydych yn gofalu amdano, byddwn yn trafod y gefnogaeth rydych chi'n ei darparu ac yn cynnwys y rhain fel rhan o'r asesiad. Gallwch ddewis cael eich asesiad yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Gallwn hefyd drefnu cyfieithydd ar y pryd os ydych yn siarad iaith arall, neu os ydych yn cyfathrebu drwy iaith arwyddion.

I'n helpu i benderfynu pwy ddylai dderbyn ein gwasanaethau, rydym yn defnyddio canllawiau o'r enw Meini Prawf Cymhwyster (sy'n seiliedig ar fframwaith gan Lywodraeth Cymru).

Yn ystod asesiad, bydd gennych gyfle i drafod eich anghenion cefnogi ac archwilio ffyrdd y gellir diwallu'r rhain.

Bydd y person sy'n ymweld â chi'n gofyn am y canlynol:

  • eich annibyniaeth
  • yr anawsterau rydych yn eu hwynebu
  • eich cryfderau a'ch sgiliau
  • y rhwydweithiau cefnogi sydd gennych
  • pa adnoddau y gallwch eu cyrchu yn y gymuned

Ar ôl i'ch anghenion gael eu hasesu, byddwn yn penderfynu a ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Wrth ystyried eich anghenion, rydym yn ystyried faint o risg sydd i'ch annibyniaeth. Bydd angen y gofalwr yn bodloni'r meini prawf cynhwysedd os:

  1. Bydd yr angen yn deillio o ddarparu gofal ar gyfer un o'r canlynol:
  • oedolyn a chanddo anghenion
  • plentyn anabl
  1. Bodlonir yr ail amod os bydd yr angen yn gysylltiedig ag un o'r canlyniadau, neu fwy, a nodir yn y rheoliadau:
  • y gallu i gyflawni arferion hunan-ofal neu ddomestig
  • y gallu i gyfathrebu
  • amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • cymryd rhan mewn gwaith
  • gweithgareddau addysg, dysgu neu hamdden
  • cynnal a chadw neu feithrin perthnasoedd teulu neu berthnasoedd personol pwysig eraill
  • cynnal a chadw, a datblygu, berthnasoedd cymdeithasol a chyfrannu at y gymuned; neu
  • gyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn
  1. Bodlonir y trydydd amod os na all y gofalwr ddiwallu'r anghenion:
  • ar ei ben ei hun
  • gyda chefnogaeth pobl eraill sy'n barod i roi'r gefnogaeth honno
  • gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y gofalwr fynediad atynt
  1. Bodlonir y pedwerydd amod os bydd y gofalwr yn annhebygol o gyflawni un o'i nodau personol, neu fwy, oni bai am y canlynol:
  • mae'r awdurdod lleol yn rhoi neu'n trefnu cefnogaeth i ddiwallu angen y gofalwr
  • mae'r awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chefnogaeth ar gyfer y person y mae'r gofalwr yn gofalu amdano, er mwyn diwallu angen y gofalwr; neu
  • mae'r awdurdod lleol yn sicrhau y diwellir yr angen drwy wneud taliadau uniongyrchol

Nid yw cael asesiad bob amser yn golygu ein bod yn mynd ymlaen i ddarparu gwasanaeth i chi. Gall fod ffyrdd eraill o gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnoch. Er enghraifft, gellir gwneud hyn drwy roi'r wybodaeth a'r cyngor cywir i chi, eich cyfeirio at wasanaeth ataliol a ddarperir gan sefydliad arall, eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddiwallu'ch anghenion eich hunan, efallai gyda help eich teulu neu'ch ffrindiau.

Mae angen cefnogaeth tymor byr ar rai pobl i'w helpu i ddychwelyd i fyw'n annibynnol yn dilyn salwch neu gyfnod o ansefydlogrwydd. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr y gwasanaeth iechyd i ddarparu gwasanaeth integredig a fydd yn eich cefnogi i ddod yn fwy annibynnol, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chefnogaeth eraill, ac i gymryd rhan yn eich cymuned leol.

Mae gan y gwasanaethau canlynol ffi sefydlog:

  • Bathodynnau Parcio Glas - yn eich caniatáu i barcio ar rai llinellau melyn ac mewn lleoedd sydd wedi'u neilltuo ar gyfer gyrwyr neu deithwyr anabl
  • Cyswllt Gwasanaeth Larymau - cyswllt ffôn brys sy'n rhoi tawelwch meddwl i chi a rhywun i gysylltu ag ef os ydych mewn trafferth (gall hyn fod ar gael am ddim i ddefnyddwyr Gofal Cartref)

Mae'r gwasanaethau canlynol yn codi tâl sy'n dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion. Gall eich gweithiwr proffesiynol dynodedig roi gwybodaeth i chi ar sut rydym yn cyfrifo hwn:-

  • Gofal Cartref - gofal ymarferol a phersonol megis ymolchi a gwisgo
  • Addasiadau i'ch cartref - i'w wneud yn haws i chi fyw ynddo, megis canllawiau, rampiau neu lifftiau grisiau.
  • Gofal tymor byr - megis seibiannau o wythnos neu ddwy mewn cartref preswyl neu nyrsio.
  • Gofal dros dro – arosiadau mewn cartref preswyl neu nyrsio os oes problem gartref, megis gwaith adeiladu neu mae eich gofalwr yn sâl.
  • Gofal preswyl - gofal tymor hir mewn cartref preswyl neu nyrsio.
  • Taliadau Uniongyrchol - Taliadau arian parod yw Taliadau Uniongyrchol a roddir i chi gan y Cyngor i drefnu a thalu am eich gofal a'ch cymorth eich hun yn hytrach na bod y Cyngor yn trefnu gwasanaethau i chi.

Os nad ydych yn gymwys, gall gofal cymdeithasol eich helpu o hyd drwy ddarparu gwybodaeth a'ch cyfeirio at sefydliadau defnyddiol yn yr ardal leol. Gallai'r rhain fod yn breifat neu'n wirfoddol ac efallai y gallant ddarparu rhai gwasanaethau am ddim.

Mae llawer o bobl y mae'n well ganddynt drefnu eu gwasanaethau eu hunain yn dewis cyflogi gweithiwr gofal yn uniongyrchol drwy asiantaeth gofal cartref. Os ydych yn teimlo y byddai'r math hon o gefnogaeth yn eich helpu, cofiwch ddewis darparwr sydd wedi'i gofrestru a'i archwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth yn y gymuned a all eich helpu i fyw bywyd iach, cyflawn ac annibynnol.

Os ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau bydd gweithiwr proffesiynol dynodedig yn trafod ystod o gefnogaeth gyda chi ac yn dweud wrthoch am unrhyw ffïoedd sy'n berthnasol i'r rhain. Byddant yn ymdrechu i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd sy'n addas i chi. Bydd y gweithiwr proffesiynol yn cytuno ar Gynllun Gofal a Chefnogaeth gyda chi, sy'n amlinellu sut y diwellir eich anghenion cymhwysedd, a byddwch yn cael copi i'w gadw.

Bydd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • yr anghenion sydd gennych
  • pa wasanaethau y byddwch yn eu derbyn, a sut y bwriedir i'r rhain ddiwallu eich anghenion a chyflawni'r pethau sy'n bwysig i chi
  • enw'r person sy'n gyfrifol am gydlynu eich gofal
  • dyddiad ar gyfer cynnal adolygiad o'ch anghenion

Bydd eich gweithiwr proffesiynol dynodedig hefyd yn egluro y gallwch, os ydych yn dymuno, dderbyn Taliad Uniongyrchol fel y gallwch drefnu eich gwasanaethau eich hun yn lle cael gwasanaethau drwy'r cyngor.

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn, y cam cyntaf yw cysylltu â'r person a gwblhaodd eich asesiad neu ei reolwr tîm. Mae angen i chi roi'r rhesymau dros pam rydych yn anghytuno â phenderfyniad y cyngor. Byddant hefyd yn ceisio'ch helpu i ddod o hyd i ganlyniad boddhaol ar gyfer eich achos.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses hon ac awgrymiadau ar gyfer cael help gyda'ch apêl yn y Meini Prawf Cymhwysedd llawn.