Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ysbryd y Môr a Thy Twyn Teg

Opsiynau Tai Cysgodol a Gofal Ychwanegol i Bobl Hŷn

Opsiynau Tai Cysgodol a Gofal Ychwanegol i Bobl Hŷn

Ysbryd y Môr, sydd ar lan môr Aberafan, oedd y cyfadeilad tai gofal ychwanegol cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ail gynllun bellach wedi cael ei ddatblygu yn Nhŷ Twyn Teg yng Nghaewern, Castell-nedd. Mae'r ddau gynllun yn gallu cynnig y cyfle i bobl dros 60 oed brofi dewis arall newydd a chyffrous i ddiwallu eu hanghenion tai, cefnogaeth a gofal.

Mae nifer o fanteision yn gysylltiedig â'r cynlluniau hyn:

  • cynnal eich annibyniaeth
  • cael eich tenantiaeth eich hun, h.y. eich drws ffrynt eich hun
  • cadw preifatrwydd eich cartref eich hun
  • cael sicrwydd cefnogaeth 24 awr
  • teimlo'n ddiogel
  • cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau
  • mwynhau bywyd cymdeithasol

Mewn partneriaeth â Grŵp Tai Coastal Ltd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu'r ddau gyfadeilad er mwyn ymateb i anghenion a disgwyliadau newidiol pobl hŷn sy'n byw'n lleol.

Ai'r math hwn o gynllun yw'r dewis iawn i fi?

Efallai bydd y llety hwn yn opsiwn addas i chi ei ystyried os hoffech gadw preifatrwydd eich cartref eich hun, ond rydych hefyd am gael sicrwydd bod cefnogaeth 24 awr wrth law os fydd ei angen arnoch.

Diben yr ethos gofal ychwanegol yw hyrwyddo a chynnal eich annibyniaeth lle bynnag y bo modd. Os hoffai'ch teulu neu ofalwyr anffurfiol barhau i gynorthwyo â'ch gofal, bydd hyn yn cael ei annog a'i ystyried yn y trefniadau cefnogi. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar yr adegau y gall eich teulu, eich ffrindiau neu ymwelwyr eraill ddod i'ch gweld.

Ni fwriedir i ofal ychwanegol ddisodli gofal cartref nyrsio. Er y gellir darparu lefelau uchel o gefnogaeth a gofal, efallai bydd eich anghenion gofal yn cynyddu cymaint y bydd angen gofal nyrsio 24 awr arnoch - yn yr achos hwn, gellir trafod opsiynau eraill gyda chi a'ch teulu/gofalwyr.