Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg

Logo Cysylltu BywydaU Gorllewin Morgannwg

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi pobl a chanddynt angen asesedig sydd am gael help i fyw yn eu cymuned. Rydym yn cydweddu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt gyda Gofalwyr Cysylltu Bywydau proffesiynol a chymeradwy. Mae'r gofalwyr yn darparu tai a chymorth o fewn eu cartrefi i'r bobl y mae angen cefnogaeth arnynt. Mae hyn yn aml yn arwain at ddatblygu rhwydweithiau ehangach o gefnogaeth.

Mae'r gwasanaeth yn ddewis amgen i ofal preswyl. Mae'n addas ar gyfer pobl y mae angen y canlynol arnynt:

  • tai parhaol neu dros dro
  • seibiannau byr
  • cefnogaeth sesiynol

Gofalwyr Cysylltu Bywydau

Mae ein gofalwyr yn dod o bob cefndir ac maent yn dewis gofalu am nifer o resymau. Maent yn unedig oherwydd eu:

  • brwdfrydedd
  • ymgyflwyniad
  • cymhelliant cadarnhaol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl

Mae hyn yn rhoi dewis go iawn i chi ynghylch sut, gyda phwy ac ym mhle rydych yn derbyn cefnogaeth.

Sut mae'n gweithio

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydweddu oedolion ag anghenion gofal neu gefnogaeth â gofalwyr cydweddol. Mae'r gofalwyr yn rhannu eu cartref, eu teulu a'u bywyd cymunedol â'r person. Y nod yw helpu unigolion i ddatblygu a chynnal:

  • annibyniaeth
  • cyfeillgarwch ag eraill
  • sgiliau newydd
  • cysylltiadau yn eu hardal leol

Mae'r cynllun yn cynnig trefniadau Cysylltu Bywydau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Y mathau o drefniant

Mae trefniadau Cysylltu Bywydau wedi'u teilwra i anghenion a gofynion y person. Maent yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn caniatáu i amrywiaeth eang o bobl y mae angen cefnogaeth arnynt fyw bywydau mwy annibynnol.

Gall gofalwyr Cysylltu Bywydau ddarparu:

  • llety seibiannau byr gyda gofal a chefnogaeth
  • llety tymor hir gyda gofal a chefnogaeth
  • cefnogaeth yn ystod y dydd, lle byddwch yn treulio amser gyda gofalwr Cysylltu Bywydau yn ei gartref a'i gymuned

Mae sawl math o drefniant.

Tymor hir

Llety a chefnogaeth yng nghartref y gofalwr, ar sail tymor hir. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn:

  • bywyd teuluol
  • gweithgareddau cymdeithasol
  • gweithgareddau aelwyd

Seibiant

Seibiant gyda theulu sy'n cynnig lleoliad i oedolyn mewn cartref arferol. Mae pobl yn aml yn dychwelyd i'r un teulu am seibiant rheolaidd. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i bobl:

  • feithrin a chynnal perthnasoedd
  • dysgu sgiliau newydd
  • cael profiadau newydd

Argyfwng

Llety a chefnogaeth ar fyr rybudd. Gallai hyn fod oherwydd argyfwng teuluol neu salwch.

Cefnogaeth sesiynol

Cefnogaeth gan ofalwr Cysylltu Bywydau yn ystod y dydd, gyda'r hwyr neu ar y penwythnos. Gellir darparu'r gefnogaeth yng nghartref y gofalwr neu yn y gymuned leol. Mae'r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn dibynnu ar anghenion y person. Gall gynnwys amrywiaeth o weithgareddau, sy'n annog unigolion i:

  • ddysgu sgiliau newydd
  • magu hyder
  • bod yn fwy annibynnol

Defnyddio'r gwasanaeth

Mae Cysylltu Bywydau ar gael i unrhyw un dros 18 oed y mae angen cefnogaeth arno i fyw'n annibynnol.

Mae defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys:

  • pobl ag anableddau corfforol
  • pobl â namau synhwyraidd
  • pobl ag anableddau dysgu
  • pobl ag anghenion cefnogi iechyd meddwl
  • pobl ag anawsterau yn rheoli gweithgareddau o ddydd i ddydd wrth iddynt fynd yn hŷn

Gall fod angen cefnogaeth ar bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth drwy'r amser neu dim ond gyda phethau penodol.

Mae Cysylltu Bywydau'n cynnig dewis amgen go iawn i fathau eraill o gefnogaeth a llety. Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Dod yn ofalwr

Gall unrhyw un wneud cais i ddod yn ofalwr. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch. Bydd y cynllun yn darparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch.

Rydym yn chwilio am bobl:

  • sy’n sensitif ac yn garedig
  • sy’n ymroddedig
  • sydd â synnwyr digrifwch
  • sydd â diddordeb mewn helpu pobl eraill
  • sy'n byw mewn amgylchedd cartref sefydlog
  • sy'n gallu cynnig yr amser i helpu rhywun y mae angen cefnogaeth arno ym mhob agwedd ar ei fywyd

Asesiad

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ymgymryd â'n proses asesu. Yn dilyn yr asesiad, gallwch benderfynu ar y math o drefniant rydych am ei gynnig. Bydd eich Gweithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau yn eich cefnogi gyda hyn. Bydd yn eich cydweddu â phobl rydych yn debygol o ddod ymlaen â nhw.

Taliad

Caiff gofalwyr eu talu am yr holl drefniadau Cysylltu Bywydau maent yn eu darparu. Mae'r swm yn wahanol yn dibynnu ar y math o drefniant rydych yn ei gynnig.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr.

Hyfforddiant a chefnogaeth

Cyrsiau hyfforddiant

Rydym yn cynnig hyfforddiant i ddarpar ofalwyr yn ystod y broses asesu ac ar ôl eu cymeradwyo. Mae ein cyrsiau'n ceisio helpu i wneud y canlynol:

  • cynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau gofalwyr fel rhan o broses barhaus
  • helpu gofalwyr i ddarparu gofal a chefnogaeth i'r person maent yn ei gefnogi
  • helpu gofalwyr i fodloni anghenion penodol y person maent yn ei gefnogi

Cefnogaeth

Mae gan bob gofalwr Cysylltu Bywydau Weithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau. Mae'r Gweithwyr Cymorth Cysylltu Bywydau yn ymweld â gofalwyr yn y cartref er mwyn:

  • gwirio a chefnogi'r trefniadau
  • trafod sut mae'r trefniadau'n mynd
  • cynnig arweiniad

Mae tîm staff y cynllun yn cynnwys:

  • Gweithwyr Cymorth Cysylltu Bywydau
  • Chydlynydd Cysylltu Bywydau
  • rheolwr
  • staff gweinyddol

Mae hefyd gyfarfodydd rheolaidd i ofalwyr. Mae'r cyfarfodydd hyn yn caniatáu i ofalwyr gwrdd â'i gilydd a thrafod Cysylltu Bywydau fel rhan o grŵp. Mae staff o'r cynllun Cysylltu Bywydau yn mynd iddynt er mwyn helpu gyda'r cyfarfodydd.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddiadau i SA11 3QZ
Cysylltu Bywydau Gorllewin Morgannwg
Canolfan Ddinesig Castell-nedd Stryd y Dŵr Castell-nedd SA11 3QZ pref
(01639) 686123 (01639) 686123 voice +441639686123