Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Monitro Blynyddol y CDLl

Mae'n ofynnol i'r Awdurdod gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) ar y CDLl. Bydd yr AMB yn nodi unrhyw bolisi nad yw'n cael ei weithredu yn y dull a ragwelwyd.

Bydd yr AMB yn asesu a yw strategaeth waelodol y CDLl yn dal yn gadarn, effaith polisïau ar lefel leol ac ehangach, ac a yw polisïau a'r targedau cysylltiedig wedi cael eu cyflawni, neu a yw cynnydd yn cael ei wneud tuag at hynny.

Bydd yr AMB yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod pawb, yn cynnwys Cynghorwyr lleol, y gymuned ehangach a grwpiau busnes, yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion Cynllun Datblygu sy'n berthnasol i'r ardal.

Bydd angen cyflwyno'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r CDLl, a bydd gofyn bod y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r Cynllun cyfan bob pedair blynedd.

Adroddiadau Monitro Blynyddol