Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Argaeledd tir tai

Mae'r Astudiaethau'n rhan o'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae'r Astudiaethau:

  • Yn darparu datganiad ynghylch y tir tai sydd ar gael ar gyfer cynllunio a rheoli datblygu; a
  • Lle nodir bod cyflenwad annigonol, yn amlinellu beth mae'r awdurdod cynllunio lleol yn ei wneud mewn ymateb i'r diffyg.

Mae'r Astudiaethau hefyd yn darparu gwybodaeth ynghylch:

  • Cwblhau tai;
  • Argaeledd tir ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol; ac
  • Argaeledd tir ar safleoedd lle mae risg llifogydd.

Astudiaethau ar y cyd o Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2020

Yn dilyn penderfyniad Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i ddirymu Cyngor Technegol Nodyn 1: Astudiaeth Argaeledd Tir ar y Cyd ar gyfer Tai, ni fydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â JHLAS 2020.

Adroddir ar fonitro cyflenwi tai yn Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2020.

Astudiaethau Blaenorol

Mae JHLAS diweddaraf 2019 yn dod i'r casgliad bod gan y Cyngor gyflenwad tir o 4.5 mlynedd.

[Gan fod y Cyngor wedi cyflwyno tystiolaeth o gyflenwad tir 5.5 mlynedd yn ystod Archwiliad y CDLl, ni chynhaliwyd JHLAS ar wahân yn 2015].