Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Symiau cymudedig

Yn y cytundeb mabwysiadu a'r amodau, gofynnir am swm o arian, a adwaenir fel swm cymudedig, ar gyfer cynnal a chadw unrhyw systemau draenio cynaliadwy yn y dyfodol a fydd yn cael eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy neu'r Awdurdod Priffyrdd. Cyfrifir y rhain gan ddefnyddio fformiwla Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru ar gyfer symiau cymudedig.

Caiff y systemau draenio cynaliadwy eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, ond nid yr elfennau sy'n rhan o system ddraenio'r briffordd lle disgwylir i'r ffordd gael ei chynnal yn gyhoeddus; yn yr achos hwn, bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn mabwysiadu'r rhan honno o'r system draenio cynaliadwy.

Cyfrifir y swm cymudedig gan ddefnyddio cyfraddau'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw, fel a bennir gan gynllun cynnal a chadw y cytunir arno fel rhan o gymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd y swm angenrheidiol yn amod a bydd ef hefyd yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol wrth fabwysiadu unrhyw system draenio cynaliadwy.

Symiau Cymudedig ar gyfer Cynnal a Chadw yn y Dyfodol

Mae sicrhau dull ariannu cynaliadwy ar gyfer hyd datblygiad yn amcan allweddol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gyfrifoldeb am reoli a chynnal a chadw asedau'r systemau draenio cynaliadwy ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu. Felly, nod symiau cymudedig yw sicrhau bod gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy'r adnoddau i gynnal a chadw'r asedau mae ef wedi eu mabwysiadu a darparu asedau newydd yn eu lle (pan fo'n briodol). Bydd effeithiolrwydd y systemau draenio cynaliadwy a'r manteision amryfal cysylltiedig yn dibynnu ar gynnal a chadw priodol.

Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru, dylid defnyddio arweiniad safonol y diwydiant, “Symiau Cymudedig ar gyfer Cynnal a Chadw Asedau Isadeiledd”, a luniwyd gan CSSC (Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru), i gyfrif symiau cymudedig ar gyfer yr holl asedau draenio sy'n cael eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, ni waeth a oes cytundeb Adran 38 neu gytundeb cyfreithiol pwrpasol ar gyfer hyd y datblygiadau (60 – 120 o flynyddoedd).

Ystyrir y canlynol wrth gyfrif swm cymudedig:

  • y gost amcangyfrifedig reolaidd o gynnal a chadw'r ased sy'n cael ei fabwysiadu e.e. bob chwe mis. Mae'r llawlyfr systemau draenio cynaliadwy yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr elfen hon.
  • y gost yn y dyfodol o adfer yr ased neu ddarparu un newydd yn ei le (e.e. mae palmentydd hydraidd yn cael eu dylunio i bara am 20 mlynedd, a allai arwain at adnewyddu'r ased deirgwaith yn ystod oes y datblygiad.
  • y cyfnod y mae angen y swm ar ei gyfer. Argymhella'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Cynllunio a Thrafnidiaeth y dylid cyfrif symiau cymudedig ar gyfer adeileddau dros gyfnod o 120 o flynyddoedd ac y dylai'r cyfnod ar gyfer eitemau eraill fod yn 60 o flynyddoedd (yn sylfaenol, oes gyfan y datblygiad).
  • y gyfradd llog blynyddol effeithiol a fydd yn dwyn elw ar swm a fuddsoddwyd cyn iddo gael ei wario, ar ôl ystyried effaith chwyddiant (a adwaenir fel y gyfradd ddisgownt, oddeutu 2.2%).

Argymhellir defnyddio arweiniad Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru i ddarparu dealltwriaeth gyffredin i ddatblygwyr a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy pan fyddant yn llunio naill ai cytundebau priffyrdd o dan Adran 278 ac Adran 38 neu gytundebau pwrpasol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.