Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cytundeb mabwysiadu

Fel rhan o Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, o dan Adran 17, ddyletswydd i fabwysiadu system draenio cynaliadwy, ar yr amod bod yr un sy'n cael ei hadeiladu'n bodloni'r safon genedlaethol fel y'i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw feini prawf dylunio lleol sydd gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys nifer o eithriadau i fabwysiadu system draenio cynaliadwy gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy:

  1. System ddraenio a adeiladwyd o dan Adran 114A Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.
  2. Unrhyw ran o system ddraenio sy'n ffordd sy'n cael ei chynnal yn gyhoeddus neu a fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus.  O dan Adran 63 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ystyrir ffyrdd sydd â nodweddion draenio cynaliadwy fel rhan o'u systemau draenio yn 'strydoedd ag anawsterau peirianneg arbennig'. (Adran 27)
  3. Nid yw'n berthnasol i system ddraenio sydd wedi'i dylunio i ddarparu gwasanaeth draenio i un eiddo'n unig.

Gosodir nifer o amodau gyda'r caniatâd a roddir ac, fel rhan o'r rhain, bydd yn rhaid i'r datblygwr a pherchennog y tir lunio cytundeb cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu'r system draenio cynaliadwy yn y dyfodol, ynghyd ag unrhyw hawddfreintiau y mae eu hangen cyn i waith ddechrau ar y safle.

Caiff y cytundebau eu llunio gan ddefnyddio Adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac Adran 111 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Yn ôl y cytundeb, bydd symiau cymudedig(hyperlink to commuted sums page) yn angenrheidiol, yn unol â'r amodau a osodwyd.

‘Mae'n bwysig nodi y bydd angen cytundeb cyfreithiol cyn i ganiatâd gael ei roi ar gyfer cynlluniau systemau draenio cynaliadwy sydd i'w mabwysiadu o dan Atodlen 3’.