Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dulliau talu

Mae nifer o ddulliau y gellir eu defnyddio i dalu am eich cais i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, sef y canlynol:

Siec

Dylid ei gwneud yn daladwy i 'CBSCNPT' neu 'CBS Castell-nedd Port Talbot' neu 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot'

Talu drwy gerdyn debyd neu gredyd

Cysylltwch â ni ar 01639 686906 I wneud taliad gan ddefnyddio’r dull yma, gan ddyfynnu cyfeirnod y Cais a/neu gyfeiriad safle’r cais.
(NID yw'r awdurdod yn derbyn American Express).

BACS

Os ydych yn talu drwy BACS, ffoniwch ni ar 01639 686906 fel y gellir rhoi manylion megis enw'r banc, cȏd didoli a rhif y cyfrif.

Pan fyddwch yn gwneud taliad BACS, bydd yn rhaid i chi anfon hysbysiad talu, gan nodi 'Taliad Corff Awdurdodi Draenio Cynaliadwy', i accounts@npt.gov.uk ar y cyd ag e-bostio SAB-HDC@npt.gov.uk