Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Penderfynu ar geisiadau

Mae swyddogion yn penderfynu ar geisiadau i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy dan bwerau dirprwyedig.

Penderfyniadau Dirprwyedig

Materion dirprwyedig arferol

Materion dirprwyedig arferol yw'r ceisiadau neu'r materion hynny nad oes rhaid i'r Panel Dirprwyedig benderfynu arnynt (gweler 3 isod).

Rhoddir y pwerau dirprwyedig canlynol i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, y Rheolwr Rheoli Datblygiad Priffyrdd a dau Arweinydd Tîm y gwasanaeth Rheoli Datblygu Priffyrdd (Uwch-beirianwyr Datblygu Priffyrdd): -

  1. Penderfynu ar yr holl geisiadau mewn perthynas ag Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
  2. Awdurdodi unrhyw gamau gorfodi (ac eithrio Hysbysiadau Gorfodi neu Hysbysiadau Stop) mewn perthynas ag Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
  3. Awdurdodi swyddogion unigol i weithredu fel Arolygwyr/Swyddogion Awdurdodedig/Swyddogion Gorfodi o dan ddeddfwriaeth yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig o dan Atodlen 3 fel a nodir isod:
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018
    • Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
    • Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
  4. Cychwyn achosion cyfreithiol ar ran y cyngor, mewn ymghyngoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol/cyfreithiwr y cyngor, mewn perthynas ag unrhyw drosedd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
  5. Hawliau mynediad - awdurdodi hawliau mynediad ar gyfer swyddogion perthnasol mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ganlynol:- 
    • Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018
    • Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
    • Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
    • Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
    • Deddf Priffyrdd 1980 ̶ Adran 293
    • Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ̶ Adran 71

Panel Dirprwyedig

Bydd y Panel Dirprwyedig yn penderfynu ar geisiadau/adroddiadau sy'n gysylltiedig â'r materion canlynol:

  • ceisiadau/materion lle derbyniwyd tri gwrthwynebiad neu fwy ar sail ddilys mewn perthynas â draenio
  • gwrthod ceisiadau (lle bydd swyddogion yn bwriadu gwrthod cais)
  • datblygiadau sy'n cynnwys mwy na 10 annedd (naill ai ceisiadau llawn neu amlinellol) nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio eisoes
  • datblygiadau (naill ai ceisiadau llawn neu amlinellol) sy'n creu mwy na 1000 o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr newydd mewn perthynas ag adeiladau diwydiannol, amaethyddol, masnachol neu rai nad ydynt yn fasnachol.
  • awdurdod i roi Hysbysiad Gorfodi neu Hysbysiad Stop
  • cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl
  • cymeradwyo ceisiadau am ryddhau amodau

Bydd y panel yn cynnwys tri uwch-swyddog (Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth a/neu'r Rheolwr Rheoli Datblygiad Priffyrdd ̶ Peirianneg a Thrafnidiaeth, ynghyd â dau arweinydd tîm).