Protocol gwasanaeth cyn cyflwyno cais y CCS
Beth mae'r nodyn arweiniol hwn yn ei gynnwys?
Mae'r arweiniad hwn yn cynnwys darpariaeth cyngor cyn cyflwyno cais gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer Castell-nedd Port Talbot fel a ganlyn:
- y gwasanaeth cyn cyflwyno cais a gynigir gan Gastell-nedd Port Talbot (Adran 5)
- darpariaeth cyngor ychwanegol yn dilyn ymateb ysgrifenedig cychwynnol a dderbynnir dan y gwasanaeth statudol (Adran 6.1)
Anogir datblygwyr, fodd bynnag, i ymgymryd â thrafodaethau anffurfiol â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn cyflwyno cais.
Ymrwymiad gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais
Mae ymagwedd y cyngor at ddraenio cynaliadwy'n parhau i roi pwys mawr ar ddarparu'r cyngor gorau posib i ddatblygwr/ymgeisydd posib cyn y cyflwynir cais ffurfiol i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.
Ein hymrwymiad gwasanaeth i chi:
Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflwyno Datblygiad o Safon yn Gyflym'.
Manteision cael ein cyngor cyn cyflwyno cais
Rydym wedi canfod bod ymgysylltu â'n cwsmeriaid cyn gynted â phosib yn ystod cynnig datblygu yn hanfodol i nod allweddol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i "Gyflwyno Datblygiad o Safon yn Gyflym" ac mae'n rhoi manteision allweddol i'n cwsmeriaid, gan gynnwys: -
- gwella cyflymder y broses o wneud penderfyniadau a gwella ansawdd cynigion datblygu.
- nodi cyfyngiadau posib ac a fydd angen cymorth arbenigol arnoch, er enghraifft, mewn perthynas â choed, tirwedd, llifogydd, tir llygredig, ecoleg neu archaeoleg.
- cael barn gan swyddog y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ynglŷn ag a yw'ch datblygiad yn debygol o fod yn dderbyniol (gan ddibynnu, wrth gwrs, ar asesiad yn ystod y cam cyflwyno cais), ac, os nad yw'n dderbyniol, y gallu i nodi atebion posib yn gynnar yn y broses. Fel arall, os yw eich cynigion yn hollol annerbyniol, gall y gwasanaeth hwn arbed amser ac arian i chi drwy osgoi parhau i gyflwyno cais.
- eich cynghori ar yr wybodaeth y mae ei hangen i gefnogi'ch cais, gan roi'r cyfle gorau i chi i gyflwyno cais dilys a chynhwysfawr y gellir ei brosesu ar unwaith.
- bydd eich ymgynghorwyr proffesiynol eich hun yn treulio llai o amser yn llunio cynigion.
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Sylwer unwaith y bydd cais am gyngor cyn cyflwyno cais wedi cael ei ddilysu, ni ellir ad-dalu'r ffïoedd.
Beth gallwch ei ddisgwyl gennym ni?
Yn dilyn cyflwyno ffurflen cyn cyflwyno cais, bydd y Swyddog Achos neilltuedig yn gwneud y canlynol:
- cysylltu â chi i drafod eich cais
- yn ôl disgresiwn y Swyddog Achos, trefnir naill ai un ymweliad safle neu gyfarfod
- ymateb i chi'n ysgrifenedig.
Sylwer:
- mae'r ffïoedd yn cynnwys holl gostau'r swyddogion a chostau gweinyddu sy'n gysylltiedig ag ymchwilio ac ymateb i gais ysgrifenedig am gyngor.
- mae'r ffïoedd a restrir yn y protocol hwn yn ychwanegol at y ffïoedd sy'n daladwy ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl derbyn cyngor rydych wedi talu amdano, mae'r ffi cyflwyno cais lawn yn briodol.
- nid yw'r gwasanaeth cyn cyflwyno cais yn gyfrinachol.
Os ydych am gael trafodaethau neu gyfarfodydd ychwanegol/pellach â swyddogion, neu os oes angen ymateb ysgrifenedig ychwanegol arnoch i ddarluniadau diwygiedig ar ôl derbyn ein hymateb cychwynnol, darperir y rhain fel ymateb 'cyn cyflwyno cais' newydd.
Bydd yn rhaid i chi dalu ffïoedd o'r fath ymlaen llaw.
Byddem yn eich annog i ddefnyddio'r gwasanaeth dewisol a amlinellir uchod i ddarparu cyngor cychwynnol cyn cyflwyno cais.
Sut i gyflwyno cais am gyngor cyn cyflwyno cais
Oes rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais?
Mae'n rhaid cyflwyno'r holl geisiadau am gyngor cyn cyflwyno cais gan ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau benodol ynghylch cyngor cyn cyflwyno cais, a darperir copi o hon yn Atodiad A.
Mae'n rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Wasanaeth Peirianneg y cyngor sy'n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy) cyn i waith adeiladu ddechrau. Yn hyn o beth, mae'n hanfodol bod datblygwr unrhyw brosiect o'r fath yn cael cymeradwyaeth gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy am ei ddull draenio dŵr arwyneb, ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol. Gall methu ymgysylltu ar y cyd cyn cyflwyno cais - pan fo'n bosib gwneud hynny - arwain at oediadau ac, yn arbennig, yr angen i gael caniatâd cynllunio pellach os na fydd dyluniad y systemau draenio cynaliadwy'n cydymffurfio â'r caniatâd cynllunio perthnasol.
Am y rheswm hwn, mae manteision clir i unrhyw ddatblygwr gysylltu â'r cyngor ar gyfer trafodaethau cyn cyflwyno cais â'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy mewn un gwasanaeth cyfun cyn cyflwyno cais. Rhagor o wybodaeth.