Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safonau cymeradwyo

Safonau Statudol Cenedlaethol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae'n rhaid i unrhyw systemau draenio cynaliadwy fodloni'r safonau os ydynt am gael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd methiant i fodloni'r safonau hyn yn arwain at benderfyniad i wrthod y cais. Felly, argymhellir y dylid cyflwyno cais am drafodaethau cynnar â'r Corff Cymeradwyo drwy gyngor cyn cyflwyno cais.

Safonau a rhestrau gwirio eraill

Dylid llunio pob cais yn unol â'r Llawlyfr Systemau Draenio Cynaliadwy diweddaraf gan Ciria (C753) a dylid cynnwys ei restrau gwirio. Nodir y penodau perthnasol yn y ffurflenni cais a dylid cyfeirio atynt yn y cais a gyflwynir.

Safonau leol

Yn ogystal â'r Safonau Cenedlaethol a’r Llawlyfr Systemau Draenio Cynaliadwy, mae arweiniad dylunio Draenio Cynaliadwy Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys safonau dylunio lleol y gellir cyfeirio atynt hefyd.

DS: Nid yw'r awdurdod hwn yn derbyn defnydd systemau ffosydd cerrig turio tyllau dwfn gan nad ydynt yn efelychu draenio tir naturiol.