Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gweithdrefnau

  1. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar estyniadau i dai preswyl ym mhob achos. Mae'n dibynnu ar eu maint a'r lleoliad. Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiadau Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn deddfu a yw cynnig yn cael ei ganiatáu heb angen cael caniatâd cynllunio. Ar ben hynny, dilëwyd rhai hawliau datblygu o'r fath o ran rhai anheddau. Mae'r ddeddfwriaeth yn destun adolygiad o bryd i'w gilydd hefyd. Awgrymir felly, y dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â'r Is-adran Cynllunio er mwyn cael cyngor ar y rheolaethau sy'n berthnasol.

    Ffôn: 01639 686868
    e-bost: planning@npt.gov.uk
  2. Dylai darpar ymgeiswyr sylwi y gellir rhoi arweiniad cyffredinol ynghylch yr angen am geisio caniatâd cynllunio, ond ni ellir cael penderfyniad ffurfiol ynghylch cynnig penodol ond trwy wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Dogfen gyfreithiol rwymol yw hon a allai fod yn ddefnyddiol wrth werthu eiddo neu geisio cael morgais neu fenthyciad ar gyfer estyniad.

  3. Yn ogystal â'r uchod, bydd angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar y rhan fwyaf o waith adeiladu ar wahân i waith atgyweirio syml, a bydd angen gwneud cais ar wahân am hynny. Gallai fod rheolaethau ychwanegol yn berthnasol hefyd ar gyfer adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth ac ar gyfer Adeiladau Rhestredig.

  4. Sylwer y bydd gwahanol fathau o geisiadau yn cael eu penderfynu yn ôl meini prawf gwahanol.

    Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi neu wedi ei roi wrth gael cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.