Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Estyniadau cefn i dai teras

Estyniadau ar y Llawr Gwaelod a'r Llawr Cyntaf

  1. Mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi mabwysiadu'r canllawiau polisi canlynol:
    1. Ni fydd ESTYNIADAU CEFN LLAWR GWAELOD i dai teras fel arfer yn estyn mwy na 7.3 metr y tu hwnt i brif wal gefn ** y tŷ.
    2. Ni fydd ESTYNIADAU CEFN LLAWR CYNTAF i dai teras fel arfer yn estyn mwy na 3.6 metr y tu hwnt i brif wal gefn** y tŷ.
    3. Lle bo'r tai ar naill ochr y tŷ eisoes yn estyn y tu hwnt i'r hyn a ganiateir gan y canllawiau hyn, gellir caniatáu estyniad o'r un hyd â'r lleiaf o'r estyniadau cyfagos.

    Extensions at Ground and First Floor Diagram

    Diffinio Prif Wal Gefn Tŷ Teras

    **I'r diben hwn, y prif wal gefn yw'r wal gefn sy'n cynnal y prif to crib, ac nid yw'n cynnwys adain gefn wreiddiol nac unrhyw estyniad arall.

  2. Argymhellir yn gryf y dylai pob estyniad llawr cyntaf gael to crib. Fel arfer bydd to o'r fath yn costio tua 10% yn fwy na tho gwastad. Serch hynny, mae costau cynnal a chadw to crib yn llai o'u cymharu â tho gwastad. Bydd yn para'n hwy gan gynnig, efallai, le storio ychwanegol. Bydd hefyd yn gwella golwg y tŷ'n sylweddol. Bydd estyniad wedi'i gynllunio'n dda hefyd yn cynyddu gwerth y tŷ fel arfer. Bydd toeon crib yn ofynnol ar bob tŷ pen teras, a'r rheiny mewn lleoliad gweledol amlwg. Fel arfer, bydd toeon crib hefyd yn ofynnol mewn Ardaloedd Cadwraeth.

    Definition of the Main Back Wall of a Terraced Property Diagram

  3. Fel arfer, dylid cadw gofod rhwng terfyn cyffredin a wal unrhyw estyniad. Gallai estyniadau sy'n union wrth y ffin olygu bod sylfeini neu fondo a chwteri'n tresmasu neu'n crogi dros y tŷ drws nesaf. Os na ellir osgoi hyn drwy newid y cynllun, bydd yn rhaid cyflwyno hysbysiad ffurfiol (Hysbysiad Rhif 1, Tystysgrif B) i berchennog yr adeilad perthnasol.

    Dylai ymgeiswyr hefyd sylwi ar Ddeddf Muriau Cydrannol etc. 1996. Mae llyfryn esboniadol ar gael o'r DETR Ffôn: 0870 122 6236.

  4. Heb gadarnhad bod hyn wedi'i gyflawni, ni all Cyngor y Fwrdeistref Sirol benderfynu ar gais. Nid yw'r weithdrefn hon yn dileu'r angen am gael caniatâd gan gymydog i wneud gwaith ar, o dan neu dros ei dir. Ateb posib i'r broblem hon fyddai gosod yr estyniad yn ôl o'r terfyn. Bydd yr union bellter yn dibynnu ar y cynllun manwl ond gallai'n aml fod cyn lleied â 150mm.

  5. Pan fo gan y tŷ gwreiddiol do crib, dylai unrhyw estyniad i'r llawr uchaf hefyd ddangos golwg to crib ar y strydlun. Yn ddelfrydol, dylai fod yn do cric cyfan. sy'n ategu to'r tŷ presennol, er, os nad yw'r estyniad yn rhy amlwg, gall cyfuniad o do crib a tho gwastad fod yn dderbyniol.

  6. Bernir bod to gwastad yn dderbyniol yn unig os nad yw'n weladwy o'r strydoedd cyfagos, neu fannau cyhoeddus eraill neu os yw'n dechnegol amhosib cynllunio to crib. Bydd hyn fel arfer yn berthnasol i estyniadau cefn yn unig.

  7. Mae'n rhaid bod yn ofalus pan fo to gwastad a tho crib yn cyffwrdd oherwydd gall hyd yn oed uchder isaf ystafelloedd y gellir byw ynddynt olygu to gwastad sy'n uwch na lefelau'r bondo presennol. Serch hynny, byddai estyniad to crib yn datrys hynny ar y cyfan a byddai'n fwy derbyniol.