Asesiad cychwynnol
- Mae'r uchod yn ddylanwadau pwysig ar gynllun eich estyniad, ac o sylwi arnynt yn ofalus, bydd estyniad yn gallu ychwanegu at olwg eich eiddo a'r ardal o gwmpas yn hytrach nag effeithio'n andwyol arno.
- Argymhellir y dylid ceisio Cyngor proffesiynol pan fyddwch yn ystyried estyniad. Hefyd, gall cyfarfod cynnar anffurfiol gydag un o staff Cynllunio'r Cyngor ddatrys sawl problem dylunio sylfaenol gan arbed amser yn nes ymlaen.