Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Estyniadau i Dai

  1. Diben y canllawiau yw rhoi cyngor i berchnogion a datblygwyr sy'n ystyried estyn tai, drwy amlygu'r meini prawf yn glir ac yn syml ar gyfer ystyried ceisiadau am ganiatâd cynllunio, a thrwy hynny, sicrhau ymagwedd gyson at yr holl gynlluniau.
  2. Paratowyd y cyngor hwn yn rhannol fel ymateb i gynllun rhai o'r estyniadau a adeiladwyd yn y gorffennol, gan gynnwys yn arbennig, eu heffaith ar dai ac adeiladau cyfagos. Er bod bodolaeth estyniadau o'r fath yn yr ardal yn un o'r ystyriaethau, ni fydd yn ddigonol i sicrhau cymeradwyo cynllun gwael tebyg yn y dyfodol.
  3. Mae'r canllawiau hyn yn newid sylweddol i bolisi cynllunio estyniadau tai ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
  4. Prif ddiben y canllawiau hyn yw cyfeirio ymgeiswyr at safonau addas a derbyniol ar gyfer pob math o estyniad tŷ, a fydd yn darparu'r lle ychwanegol ac ar yr un pryd yn amddiffyn amwynderau adeiladau cyfagos.
  5. Yr egwyddor sy'n sail i'r canllawiau newydd hyn yw cydnabod y gwrthdaro posib rhwng awydd perchenogion i estyn eu tai eu hunain ac amddiffyn safonau amwynder cymdogion.
    Mae'r canllawiau'n ceisio darparu cydbwysedd rhwng y gofynion hyn. Mae'n bosib y rhoddir pwys gwahanol ar y gofynion hyn gyda gwahanol fathau o adeiladau.
  6. Felly yn achos hen dai teras, hwyrach bod angen mwy o le i ddarparu cyfleusterau sylfaenol fel cegin neu ystafell ymolchi.
  7. Mewn tai teras, hwyrach na fydd dewis cynllun arall yn bosib ar wahân i estyniad cefn. Mewn tai mwy diweddar, sy'n cynnwys yr holl gyfleusterau cyfoes, hwyrach na fydd y ddadl dros ‘angen' mor gryf. Fodd bynnag, yn gyffredinol, o ran tai sengl, hwyrach bod atebion cynllunio eraill ar gael a fyddai'n effeithio llai ar gymdogion.
  8. Dylai perchnogion tai sylweddoli bod terfyn i'r estyniadau y gellir eu cynnwys yn rhesymol yn y rhan fwyaf o dai. Byddai estyniadau pellach y tu hwnt i hynny'n golygu gorddatblygu annerbyniol ar y safle.