Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Estyniadau blaen

  1. Yn gyffredinol, nid yw estyniadau ar raddfa fawr i flaen adeiladau'n dderbyniol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Serch hynny, mewn rhai amgylchiadau, gall estyniad i flaen eiddo fod yn dderbyniol. Bydd ceisiadau o'r fath yn cael eu trin yn unigol ond nid yw estyniadau'n dderbyniol yn gyffredinol os byddant:
    1. yn effeithio'n andwyol ar y strydlun.
    2. yn effeithio'n andwyol ar olwg cyffredinol yr adeilad.
    3. yn effeithio'n andwyol ar amwynder eiddo cyfagos.
    4. yn effeithio'n andwyol ar ddiogelwch priffyrdd.

    Wrth farnu'r rhain, bydd y canlynol hefyd yn cael eu hystyried:
    1. Dylid cadw pellter o 21.0 metr rhwng ffenestri ystafelloedd sy'n addas i fyw ynddynt yn yr estyniad newydd sy'n edrych dros y rheiny mewn tai sydd eisoes yn bodoli (gweler isod).
    2. Ni ddylai unrhyw ran o'r estyniad fod o fewn 2 fetr i unrhyw briffordd.
    3. Wrth gynllunio'r estyniad dylid ceisio osgoi tynnu oddi wrth olwg cyffredinol yr adeilad. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos tai pâr neu dai teras, lle mae un tŷ'n rhan o uned bensaernïol.