Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Estyniadau ar wahân i rai yng nghefn yr eiddo Property

Diagram showing acceptable and unacceptable extensions to a house other that the rear of the property

  1. Mae'n bwysig iawn i estyniad gydweddu â chynllun yr adeilad gwreiddiol. Dylai ffurf neu siâp y tŷ gwreiddiol bennu'r math o estyniad a fydd yn briodol, gan roi sylw arbennig i siâp y to, y maint a'r cymesureddau cyffredinol. Byddai adeiledd mawr fel bocs wrth ochr tŷ â tho crib, er enghraifft, fel arfer yn annerbyniol.

  2. Lle bo'r tŷ gwreiddiol yn dŷ pâr, mae'n bwysig nad yw unrhyw estyniad deulawr yn dinistrio cydbwysedd golwg cyffredinol yr adeilad cyfan. Mae tai pâr wedi'u cynllunio a'u hadeiladu fel pâr sy'n cydweddu a bydd ganddynt yr un manylion a math o ddeunyddiau fel arfer.

Cydbwysedd

Mae'n bwysig iawn felly i sicrhau na fydd estyniad newydd yn dinistrio cynllun cymesur a chytbwys y tai gwreiddiol. Y ffordd hawsaf o ddiogelu'r cymesuredd yw gosod yr estyniad o leiaf 1 metr yn ôl o'r gweddlun blaen.

Diagram showing the acceptable and unacceptable use of extensions to the side of a semi detached property

Diagram displaying the good and poor integration of extension into existing form of the house

  1. Lle na fyddai mesuriadau cyffredinol yn cael eu dinistrio, neu os yw'r tŷ yn dŷ sengl, gellir integreiddio'r estyniad yng nghynllun gwreiddiol y tŷ yn y fath fodd fel nad yw'n ymddangos fel ychwanegiad amlwg. Fel arfer byddai hyn yn golygu cydweddu â chynllun y tŷ gwreiddiol ym mhob peth. Mewn rhai achosion, ac yn aml, lle bo'r tŷ yn dŷ sengl, hwyrach y byddai'n bosib defnyddio'r estyniad i newid golwg cyffredinol yr adeilad yn llwyr.

  2. Mae gan rai anheddau gymeriad a swyn a fyddai'n cael ei ddinistrio gan estyniad rhy fawr neu anghydnaws. I gadw cyfraniad adeiladau o'r fath i'r amgylchedd, dylid cadw estyniadau i'r lleiaf posib.

    Yn arbennig mewn cefn gwlad agored, ni ddylid estyn arwynebedd llawr gros annedd yn fwy na dwbl ei faint yn gyffredinol. Hefyd, os yw uchder y nenfydau gwreiddiol yn isel, dylid dylunio estyniad yn ofalus fel na fydd yn gormesu golwg y tŷ gwreiddiol yn ormodol.

    Changing the Form of a House Diagram

  3. Yn arferol, dylid cadw 1 metr o bellter rhwng y ffin cyffredin a wal unrhyw estyniad deulawr ar yr ochr er mwyn hwyluso cynnal a chadw a mynediad o'r cefn. Os bydd yn rhaid adeiladu estyniad yn agos at derfyn cyffredin, yna dylid gofalu rhag creu effaith ‘terasu'. Gall estyniad llydan sy'n lleihau'r pellter rhwng blociau o dai pâr neu dai sengl yn sylweddol arwain at effaith ‘terasu' annymunol. Fel arfer gellir goresgyn hynny drwy osod yr estyniad yn ôl o wal flaen y tŷ. (Fel canllaw cyffredinol, bernir bod gosod 1.5 metr yn ôl yn briodol).

  4. Lle bo to crib i'r tŷ gwreiddiol, dylai unrhyw estyniad i'r llawr uchaf hefyd ddangos to crib i'r stryd ac unrhyw ardaloedd cyhoeddus eraill. Yn ddelfrydol, dylai hyn ategu siâp y tŷ gwreiddiol, er os nad yw'r estyniad yn rhy amlwg, gallai cyfuniad o do crib a tho fflat fod yn dderbyniol.