Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyfarwyddyd Gan Ddeiliaid Tai

Ar 30 Medi 2013, diwygiodd Lywodraeth Cymru'r hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliad tai drwy gyflwyno Gorchymyn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013. Datblygiad a ganiateir yw datblygiad y gellir ei ychwanegu at eiddo heb fod angen ceisio caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Cyfyngir ar yr hawliau datblygu a ganiateir gan nifer o fesurau rheoli ac amodau y mae'n rhaid i ddatblygiad eu bodloni i elwa o'r caniatâd tybiedig. Yn y gorffennol, mae'r amodau a'r mesurau rheoli wedi canolbwyntio ar ymagwedd cyfyngu ar faint. Fodd bynnag, ystyriwyd mai dull mwy priodol o reoli fyddai ymagwedd a arweinir gan effaith.

Arweiniad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu Arweiniad Cynllunio i Ddeiliaid Tai yn ogystal â Nodyn Cyngor Technegol ar yr hawliau datblygu penodol a ganiateir i ddeiliaid tai.  Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gall eich hawliau datblygu a ganiateir fod wedi'u cyfyngu neu eu dileu ar yr adeg y rhoddwyd caniatâd cynllunio'n wreiddiol i'ch eiddo. Os bydd angen cyfeirnodau'r cais ar gyfer eich eiddo, gellir darparu'r rhain am ffi o £35.

Mae'r rheoliadau newydd hyn yn fanylach ac felly mae angen asesiad mwy cymhleth ynghylch a fyddai datblygiad arfaethedig yn elwa o hawliau datblygu a ganiateir neu a fyddai angen caniatâd cynllunio. O'r herwydd, bydd bellach yn ofynnol i'r awdurdod gael Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) neu (Bresennol) cyn medru cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio. Pe byddai angen caniatâd cynllunio, rhoddir cyngor cyn cyflwyno cais i'r ymgeisydd ynghylch a fyddai'r datblygiad yn debygol o gael ei argymell mewn modd ffafriol gan swyddog ar y cam cynllunio (er y dylech sylwi y caiff tâl o £25.00 ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru o 16 Mawrth 2016 am gyngor cyn cyflwyno cais i ddeiliad tŷ).

Cyfleusterau i bobl ag anableddau

Os yw'r cais i ddarparu cyfleusterau i'r anabl ac mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru neu wedi'i gofrestru'n anabl o dan y Ddeddf Cymorth Cenedlaethol, nid oes rhaid i chi dalu ffi gynllunio.

Rhaid darparu tystiolaeth ar ffurf llythyr gan y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n nodi'r uchod neu gopi o ddogfen swyddogol ynghyd â'ch rhif anabl.

Sylwer nad oes rhaid i chi dalu'r ffi os yw'r holl gynnig i ddarparu cyfleusterau i'r anabl yn unig.

Ffurflenni cais

Mae'r ffurflenni cais ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) neu (Bresennol) ar gael i'w lawrlwytho yma a gellir eu cyflwyno'n electronig drwy'r Ceisiadau Cynllunio Cymru yn www.llyw.cymru/ceisiadaucynllunio

Y ffi bresennol, ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arfaethedig) yw £115, ac mae cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Presennol) yn costio £230. Gellir talu ffioedd yn electronig os cyflwynir y cais drwy'r Porth Cynllunio, neu gellir eu talu drwy siec mewn achosion eraill. Gwnewch sieciau'n daladwy i CBSCNPT.

Dylid cynnwys cynllun lleoliad safle Cynllun Arolwg Ordnans gyda phob cais, a dylai safle'r cais gael ei amlinellu mewn coch, ar raddfa o 1:1250 a chyda phwynt y gogledd yn cael ei ddangos, ynghyd â chynllun bloc, gweddluniau arfaethedig a chynlluniau llawr arfaethedig, y gellir eu hanodi ar y cam hwn â dimensiynau yn hytrach na'u llunio i raddfa a nodir. Er nad oes rhaid i'r cynlluniau gael eu lluniadu'n broffesiynol, mae angen iddynt fod o safon addas i alluogi'r Awdurdod Cynllunio i gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio. Ar ben hynny, mae'n hanfodol bod y cynlluniau a'r gweddluniau hyn yn ddatganiad cywir o'r datblygiad a gynigir. Gallai amrywio'r manylion hyn mewn unrhyw ffordd olygu y bydd angen caniatâd cynllunio. Mae'n rhaid i'r lluniadau hyn ddangos unrhyw newid yn lefel y llawr o gwmpas yr ardal lle bwriedir adeiladu'r estyniad arfaethedig. Bydd Swyddog Cynllunio'n gallu rhoi mwy o gyngor i chi pan fyddwch yn cyflwyno'r cais.

Nodiadau cyfarwyddyd

Mae'r nodiadau hyn i'ch helpu i lenwi'r ffurflenni cais cynllunio. Os ydych yn cael problemau'n llenwi'ch cais, cysylltwch â'r Is-adran Rheoli Datblygu:

Is-adran Rheoli Datblygu
(01639) 686868 (01639) 686868 voice +441639686868
(01639) 686101 fax +441639686101

Gweler y nodiadau ar gynlluniau, lluniadau a ffioedd.

Dylech ddefnyddio'r ffurflen amgaeedig yn unig i wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am unrhyw un o'r canlynol:

  • caniatâd ar gyfer eiddo preswyl neu fasnachol
  • rhybudd ymlaen llaw am adeiladau amaethyddol
  • caniatâd i ddymchwel adeilad
  • caniatâd i osod hysbyseb (caniatâd hysbysebu)
  • caniatâd i newid adeilad 'rhestredig' (Caniatâd Adeiladau Rhestredig)
  • caniatâd i ddymchwel rhan o adeilad neu'r cyfan ohono mewn ardal gadwraeth (Caniatâd Ardal Gadwraeth)
  • tystysgrif Datblygu Cyfreithlon
  • caniatâd i wneud gwaith ar goed a ddiogelir (Gwaith ar Goed)
  • caniatâd i wneud gwaith ar goed mewn Ardaloedd Cadwraeth
  • caniatâd i storio sylweddau peryglus (Caniatâd Sylweddau Peryglus)

Bydd siŵr o fod angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu hefyd os ydych am wneud unrhyw waith adeiladu newydd.

Os ydych am gael cyngor ar hyn, ffoniwch: 01639 686868

Mae'r Adran Cynllunio'n darparu dogfen "Arweiniad Cynllunio i Ddeiliaid Tai" sy'n amlinellu'r hyn a ystyrir yn dderbyniol ac yn annerbyniol o ran dylunio estyniadau tai. Os oes angen copi o'r ddogfen hon, cysylltwch â'r Adran Cynllunio yn y cyfeiriad isod.

Rydym yn hoffi trafod eich cynlluniau cyn i chi anfon eich cais. Mae'n well i chi wneud apwyntiad i weld cynlluniwr sy'n gwybod yr ardal rydych yn ei hystyried er mwyn sicrhau bod unrhyw sgyrsiau rydych yn eu cael mor fuddiol â phosib. 

Efallai y bydd y cynlluniwr yn gallu rhoi syniad i chi o'r tebygolrwydd y bydd eich cais yn derbyn caniatâd cynllunio ai peidio, ond nid yw hyn yn addewid gadarn a byddai heb ragfarn wrth gyflwyno cais.

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Rheoli Datblygu
Y Ceiau Ffordd Brunel Parc Ynni Baglan Castell-nedd Port Talbot SA11 2GG pref
(01639) 686868 (01639) 686868 voice +441639686868

Cwestiynau 1 a 2 - Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd/asiant

Rhaid i chi lenwi'r adran hon. Nodwch eich:

  • enw
  • eich cyfeiriad
  • rhif ffôn

Os ydych yn dewis asiant i weithredu ar eich rhan, nodwch ei fanylion ef oherwydd y byddwn yn anfon yr holl lythyrau a ffurflenni at eich asiant a byddwn hefyd yn cysylltu ag ef os oes angen mwy o wybodaeth arnom. 

Bydd yn rhaid i'ch asiant roi'r diweddaraf i chi am gynnydd y cais. (Asiant yw rhywun rydym yn ei ddewis i gynnal cytundebau cyfreithiol neu gontract i chi) 

Cwestiwn 3 - Cyfeiriad y safle ymgeisiol

Nodwch gyfeiriad llawn yr eiddo y mae'r cais ar ei gyfer. Rhaid i chi anfon 4 copi o gynllun y safle wedi'i amlinellu'n goch atom ac mae angen i hyn ddangos sut mae'r safle'n cael ei gymharu ag unrhyw eiddo neu ffyrdd gerllaw.

Cwestiwn 4 - Diddordeb yn yr eiddo

Dylech dicio'r blwch perthnasol

Os nad ydych yn berchennog rhydd-ddaliad yr eiddo, bydd angen i chi lenwi tystysgrif wahanol. Dengys diffiniad o berchennog isod.

Cwestiwn 5 - Disgrifiad o'r cynnig

Dylech dicio'r holl flychau perthnasol.
Os nad oes blwch sy'n disgrifio'ch cynnig yn llawn, nodwch y cynnig yn y lle a ddarperir.

Cwestiwn 6 - Deunyddiau

Nodwch fanylion llawn unrhyw ddeunyddiau i'w defnyddio ar waliau allanol a tho'r cynnig.

Cwestiwn 7 - Carthffosiaeth

Ticiwch y blwch perthnasol sy'n ymwneud â dŵr arwyneb a gwaredu carthffosiaeth aflan. Os ydych yn defnyddio unrhyw ddull arall, nodwch hynny yn y lle perthnasol.

Cwestiwn 8 - Coed

Mae llawer o goed yn y fwrdeistref wedi'u diogelu gan Orchmynion Cadw Coed neu maent mewn Ardaloedd Cadwraeth. Dylech wirio cyn cyflwyno'ch cais a fydd eich datblygiad yn effeithio ar unrhyw goed a ddiogelir.

Cwestiwn 9 - Llwybrau cerdded cyhoeddus

Os oes llwybr cerdded cyhoeddus neu hawl tramwy arall yr effeithir arno gan y datblygiad neu ger y safle, ticiwch y blychau perthnasol ac os oes, nodwch p'un os ydych yn gwybod.

Cwestiwn 10 - Hysbysu cymdogion

Rhoddir gwybod i'r holl berchnogion tir cyfagos ar bob cais.

Os ydych yn gwybod yr eiddo perthnasol, llenwch yr adran hon oherwydd y bydd yn hwyluso'r broses ymgynghori.

Cwestiynau 11 a 12 - Llofnod

Rhaid i'r holl ffurflenni gael eu llofnodi a'u dyddio naill ai gan yr ymgeisydd neu gan eich asiant os oes gennych un.
Rhaid i chi hefyd lofnodi mai chi yw perchennog yr eiddo. Os nad chi yw'r perchennog, llenwch Dystysgrif B (Erthygl 7) a rhowch hysbysiad Erthygl 6 i'r perchennog.

Cynlluniau a Darluniau  

  1. Gwybodaeth gyffredinol:

Ni fyddwn yn ystyried cais, neu efallai y bydd y cais yn cael ei ohirio, os na fyddwch yn anfon 4 copi o gynlluniau a lluniau boddhaol atom. Os bydd angen rhagor o luniadau, byddwn yn gofyn amdanynt.

Rhaid i'r holl luniau y byddwch yn anfon gyda'ch cais cael dyddiad, eu rhifo a dangos eu graddfa fetrig.

Os yw'ch cynllun yn dangos gwaith presennol a newydd, dylech nodi'n glir y gwaith newydd, gan ddefnyddio lliw os oes angen.

Os ydych chi'n gwybod pa ddeunyddiau y byddwch yn eu defnyddio ar y tu allan i'r muriau a'r toeau, ysgrifennwch hyn ar y cynllun sy'n dangos y nodweddion hyn.

Dylech ddangos sut y bydd cerbydau a phobl yn mynd i mewn ac oddi ar y safle, ac yn rhoi manylion unrhyw waliau, ffensys ac yn y blaen a fydd yn amgáu'r safle.

Os byddwch yn newid eich cynlluniau, rhaid i unrhyw luniadau diwygiedig ddangos y newidiadau hyn a hefyd dangos rhif cyfeirnod newydd a dyddiad y newidiadau.

Safle / Lleoliad

Rhaid i bob cais a anfonwch nodi'n glir y safle a'i amgylchoedd. Dylid amlinellu safle'r cais mewn coch ac unrhyw dir arall yn eich perchnogaeth a amlinellir yn las.

2.Darluniau mae angen i chi eu hanfon gyda cheisiadau llawn

  1. Cyffredinol:


    Dylai unrhyw gynlluniau llawr, golygon a dyluniadau traws-adrannol fod i'r raddfa 1:50 neu 1:100. Dangoswch gynllun a dyluniad presennol yr eiddo os ydych am eu newid. Dylai'r holl newidiadau rydych am eu gwneud gael eu marcio'n glir ar eich cynlluniau. Dylech ddangos yr holl nodweddion eraill ar y safle, gan gynnwys unrhyw adeiladau allanol, ffiniau a choed.

  2. Beth mae'n rhaid i'ch dyluniadau ddangos os oes angen gwneud unrhyw waith adeiladu:
    Os ydych am newid cynllun adeilad neu'r tu allan i adeilad, rhaid i chi ddangos cynlluniau llawr presennol ac arfaethedig a dweud wrthym beth bydd defnydd yr adeilad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Dylai'r dyluniadau hyn ddangos yr eiddo neu'r safle mewn perthynas ag adeiladau gerllaw. Efallai y bydd cynllun to'n ddefnyddiol i esbonio to cymhleth ac unrhyw ddiwygiadau iddo. Dylai unrhyw gyfleusterau i bobl ag anableddau gael eu disgrifio a'u dangos ar y cynlluniau llawr arfaethedig.

  3. Gwaith adeiladu newydd
    Os yw gwaith adeiladu newydd dan sylw, rhaid i chi ddarparu cynlluniau llawr, golygon a dyluniadau trawsadrannol (fel a ddisgrifir uchod) ar gyfer yr adeilad newydd.

Perchnogion

Nid oes angen i chi berchen ar y tir neu'r adeiladau dan sylw i wneud cais cynllunio. Fodd bynnag, ni allwn ymdrin â'ch cais oni bai eich bod yn llenwi'r tystysgrifau perthnasol.

Os mai chi yw unig berchennog y tir neu'r adeilad, llenwch dystysgrif A. At y diben hwn, golyga 'perchennog' y person sydd â rhydd-ddaliad dros yr eiddo, neu'r person sydd â phrydles a fydd yn parhau am o leiaf 7 mlynedd.

Os oes unrhyw un arall yn berchen ar unrhyw ran arall o'r tir neu'r adeiladau, rhaid i chi gwblhau hysbysiad Adran 6 a'i anfon at y perchennog. Unwaith y byddwch wedi anfon yr hysbysiad, llenwch dystysgrif B dan Erthygl 7 a'i hanfon atom gyda'ch cais.

Os nad ydych yn gwybod enwau perchnogion eraill y tir neu'r adeiladau, bydd angen i chi lenwi tystysgrif wahanol y gallwch ei chael gennym ni. Os mai dyma yw'r achos, dylech gysylltu â'r Adran Rheoli Datblygu i gael cyngor drwy ffonio 01639 686868.

Mae'n bwysig cwblhau'r rhan hon o'r ffurflen yn gywir. Mae'n drosedd nodi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar dystysgrif perchnogaeth.

Beth i'w wneud nesaf

  1. Gwiriwch eich ffurflen gais, a sicrhewch eich bod wedi'i llofnodi.
  2. Gwiriwch eich bod wedi amgáu'r holl ddyluniadau y mae angen eu hanfon atom.
  3. Anfonwch ffi'r cais ynghyd â'r ffurflen.
  4. Anfonwch neu ewch â'ch cais wedi'i lenwi i:

Rheoli Datblygu
Y Ceiau,
Ffordd Brunel,
Parc Ynni Baglan,
Castell-nedd
SA11 2GG
 
5. Ar ôl i chi anfon eich cais atom, fel arfer byddwn yn ysgrifennu at eich cymdogion yn gofyn am eu barn ar eich cynlluniau, felly efallai yr hoffech siarad â'ch cymdogion am eich cynlluniau cyn anfon eich cais. Gall hyn osgoi unrhyw anghytundebau ac atal oedi yn ystod y broses.

Efallai y bydd hi hefyd yn syniad da ystyried y darpariaethau yn Neddf Gwahanfur etc. 1996.

Mae copïau fel arfer ar gael o'r dderbynfa yng Nghanolfannau Dinesig Castell-nedd a Phort Talbot.Mae detholiadau Arolwg Ordnans at ddibenion cyflwyno cynllun lleoliad ar gyfer cais cynllunio ar gael o unrhyw Ganolfan Mapio a Data Arolwg Ordnans. Mae rhestr o'r canolfannau ar gael ar-lein.