Cyfyngiad gwastraff
Nid ydym bellach yn casglu gwastraff ychwanegol wrth ymyl y ffordd. Os ydych yn cyflwyno mwy o wastraff yn ychwanegiad at eich bin olwyn neu fwy na 3 bag du, ni fydd ein criwiau'n casglu'r gwastraff yma.
Ni ddylai deiliaid tai gyflwyno dim mwy nag 1 bin olwyn i'w waredu (neu'r hyn sy'n cyfateb i dai heb finiau olwyn, dim mwy na chyfanswm o 3 bag du) bob pythefnos.
Dylai'r rhan fwyaf o gartrefi allu ffitio eu sbwriel (hynny yw gwastraff na ellir ei ailgylchu) i'w bin olwynion, yn enwedig os ydynt yn ailgylchu cymaint â phosibl.
Rydym yn casglu ailgylchu bob wythnos ac nid oes cyfyngiad ar hyn. Gall trigolion rhoi cymaint o ailgylchu allan ag y dymunant ac mae archebu pecyn ailgylchu ychwanegol yn hawdd i'w wneud ar-lein.
Rydym yn casglu biniau olwynion / bagiau du bob pythefnos. Gallwch wirio'r Darganfyddwr Diwrnod Bin i weld pryd y byddwn yn casglu'ch un chi.
Os ydych chi'n ailgylchu'r cyfan y gallwch chi ac yn dal i rhoi symiau mawr o wastraff na ellir ei ailgylchu, gallwch wneud cais am eithriad o'r cyfyngiad gwastraff ochr.
Nid yw cewynnau a Chynhyrchion Hylendid Amsugnol eraill (AHP) yn rhan o'r eithriad. Rydyn ni'n casglu'r rhain ar wahân.
Ond cofiwch - ddylai fod dim byd yn eich bin olwyn na bagiau du y gellir eu hailgylchu
Sylwch mai 12 mis yw eich dyraniad sticer gwastraff dros ben.
Bydd ein Tîm Gorfodi Gwastraff Ochr yn ymweld â chi i ddilyn unrhyw geisiadau ychwanegol.
Ardal cyflwyno bagiau
Os byddwch yn ymweld ag unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu, gofynnir i chi agor unrhyw fagiau a didoli'r cynnwys i'w ailgylchu os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
Er mwyn arbed amser ar y safle, rydym yn awgrymu eich bod yn didoli eich gwastraff cyn i chi gyrraedd.
Mae'n rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad i chi ymweld â chanolfannau ailgylchu Llansawel neu'r Cymer. Ewch i'n tudalen Canolfannau Ailgylchu am rhagor o wybodaeth.
Os yw rhywun yn eich aelwyd yn cael ei effeithio gan y Coronafeirws, bydd angen trin unrhyw wastraff o'ch tŷ yn ofalus. Mae angen i chi:
- rhoi bob eitem halogedig mewn bag dwbl
- cadwch y bagiau am dri diwrnod
- eu rhoi allan i'w casglu
Dylech hefyd olchi eich dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr cyn ac ar ôl trin unrhyw wastraff ac ailgylchu.