Cael help gyda hanfodion ysgol
Trosolwg
Os ydych chi’n riant neu’n warcheidwad i blentyn mewn addysg rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 11, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol.
Enw swyddogol y grant yw grant Hanfodion Ysgol.
Faint sydd ar gael
Ar gyfer blwyddyn ysgol 2024 i 2025, mae’r grant yn:
- £125 ar gyfer plant sy’n gymwys
- £200 ar gyfer plant blwyddyn 7
Sut y gallwch chi ei ddefnyddio
Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu am:
- gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
- dillad ac offer chwaraeon
- offer ar gyfer gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, dysgu awyr agored a chlybiau ar ôl ysgol
- offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol
- offer a deunyddiau ar gyfer pynciau a chyrsiau newydd
Meini prawf
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Treth Plant - cyhyd â bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth ac nid ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol - rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau
- deddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999. Efallai y byddwch yn gymwys os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF).
Gwnewch gais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:
- cymorth gyda chostau ysgol eraill gan Lywodraeth Cymru
- help arall gan y cyngor
Gwneud cais
Gallwch hefyd lwytho a llenwch y ffurflen isod:
Cysylltwch
Am gymorth pellach gyda'r cais neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch: