Presenoldeb yn yr ysgol
Mae mynd i'r ysgol yn rheolaidd yn bwysig ar gyfer dyfodol eich plentyn. Nid yw'n fuddiol yn unig, mae'n hanfodol. Mae presenoldeb yn yr ysgol wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â pherfformiad arholiadau gwell sy'n aml yn arwain at ragor o gyfleoedd dysgu a rhagolygon gwell am swyddi.
Mae gan rieni gyfrifoldeb cyfreithiol hefyd i sicrhau bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn.
Buddion presenoldeb yn yr ysgol
Gall fynd i'r ysgol yn rheolaidd helpu plant i ddatblygu:
- cyfeillgarwch
- sgiliau Cymdeithasol
- gwerthoedd Tîm
- sgiliau Bywyd
- ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
- llwybrau Gyrfa
Ffeithiau allweddol
Dyma rai ffeithiau allweddol i ddangos pwysigrwydd mynd i'r ysgol:
- Mae cyflawni 90 y cant mewn arholiad yn wych, ond os yw'ch plentyn yn bresennol yr ysgol am 90 y cant o'r flwyddyn ysgol yn unig, yna bydd wedi colli 19 diwrnod - bron i bedair wythnos lawn yn yr ysgol! Mae hwn yn fwlch mawr i unrhyw ddisgybl i ddal i fyny ar yr addysg y gallent fod wedi'i cholli.
- Cyrraedd ar amser. Gall bod 5 munud yn hwyr bob dydd arwain at golli 3.4 diwrnod y flwyddyn. Gall bod 30 munud yn hwyr bob dydd arwain at golli 20.7 diwrnod y flwyddyn
Absenoldeb o'r ysgol
Bydd adegau pan na fydd modd osgoi absenoldeb plentyn o'r ysgol. Gallai hyn fod oherwydd nifer o resymau na ellir eu hosgoi, fel apwyntiadau meddygol, salwch neu brofedigaeth deuluol.
Os yw'ch plentyn yn mynd i fod yn absennol, yna mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol ar unwaith. Yna bydd yr ysgol yn cofnodi'r absenoldeb. Os na fyddwch yn hysbysu'r ysgol ynghylch pam nad yw'ch plentyn wedi bod yn bresennol yna gall yr ysgol gofnodi'r cyfnod absenoldeb hwnnw fel un anawdurdodedig.
Os yw'ch plentyn yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd oherwydd salwch, efallai y bydd angen i chi ddarparu'r dystiolaeth feddygol briodol i'r ysgol.
Sut i atal eich plentyn rhag colli'r ysgol
Gallwch helpu i atal eich plentyn rhag colli'r ysgol trwy:
- gael trefn ddyddiol o oedran ifanc a chadw ati
- sicrhau bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd presenoldeb da a bod ar amser
- sicrhau ei fod yn deall goblygiadau posib o beidio â mynd i'r ysgol
- cymryd diddordeb yn ei addysg - gofynnwch am ei waith ysgol a'i annog i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r ysgol
- trafod unrhyw broblemau a allai fod ganddo yn yr ysgol a rhoi gwybod i'w athro am unrhyw beth sy'n peri pryder
Os yn bosib, dylech hefyd drefnu apwyntiadau:
- ar ôl ysgol
- ar benwythnosau
- yn ystod gwyliau ysgol
Problemau sy'n effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol
Gall problemau fel y canlynol effeithio ar bresenoldeb plentyn yn yr ysgol:
- bwlio
- trefniadau tai neu ofal
- cludiant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol
- gwaith ac arian
- problemau eraill yn amgylchedd y cartref
Os yw'ch plentyn yn absennol am unrhyw un o'r rhesymau hyn, yna ysgol eich plentyn yw'r lle cyntaf i drafod unrhyw broblemau.
Cefnogaeth i rieni
Gall ysgol eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg sy'n cefnogi rhieni a all fod yn ei chael hi'n anodd wrth sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd.
Mae hwn yn wasanaeth cefnogi addysg arbenigol sy'n helpu plant o oedran ysgol gorfodol a'u teuluoedd i gael y gorau o'r system addysg.Gallant gynnig cyngor a chefnogaeth i'ch helpu chi a'ch plentyn i gael presenoldeb da yn yr ysgol.
Gwyliau yn ystod y tymor
Dylai rhieni wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw eu plentyn yn colli'r ysgol oherwydd ei fod yn mynd ar wyliau yn ystod y tymor. Nid oes rhaid i ysgolion i gytuno i chi fynd â'ch plentyn ar wyliau yn ystod y tymor. Mae ganddynt hawl i gofnodi gwyliau fel absenoldeb anawdurdodedig.
Eich cyfrifoldeb cyfreithiol a dirwyon
Rydych chi'n gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod eich plentyn yn mynd i'r ysgol ac yn cyrraedd ar amser.Gallai methu â gwneud hynny arwain at dderbyn hysbysiad o dâl cosb neu gael eich erlyn.
Mae hysbysiad o dâl cosb yn cynnwys dirwy o £60 (yn codi i £120 os na thelir o fewn 28 niwrnod ond o fewn 42 niwrnod) yn dilyn o leiaf 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) o absenoldeb anawdurdodedig yn ystod tymor yr ysgol. Gall problemau prydlondeb parhaus h.y. cyrraedd ar ôl i'r gofrestr gau, arwain at hysbysiad o dâl cosb hefyd.