Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cael help gyda hanfodion ysgol

Trosolwg

Os ydych chi’n riant neu’n warcheidwad i blentyn mewn addysg rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 11, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol.

Enw swyddogol y grant yw grant Hanfodion Ysgol.

Faint sydd ar gael

Ar gyfer blwyddyn ysgol 2024 i 2025, mae’r grant yn:

  • £125 ar gyfer plant sy’n gymwys
  • £200 ar gyfer plant blwyddyn 7

Sut y gallwch chi ei ddefnyddio

Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu am:

  • gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
  • dillad ac offer chwaraeon
  • offer ar gyfer gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, dysgu awyr agored a chlybiau ar ôl ysgol
  • offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol
  • offer a deunyddiau ar gyfer pynciau a chyrsiau newydd

Meini prawf

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Treth Plant - cyhyd â bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth ac nid ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol - rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau
  • deddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999. Efallai y byddwch yn gymwys os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF).

Mae cyllid ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ar gael ym mhob blwyddyn ysgol. Gwnewch gais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol.

Dim ond un hawliad fesul blwyddyn ysgol a ganiateir.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:

Gwneud cais

Gallwch hefyd lwytho a llenwch y ffurflen isod:

Llawrlwytho

  • Llywodraeth Cymru y Grant Hanfodion Ysgol 2024-2025 (DOCX 50 KB)

Cysylltwch

Am gymorth pellach gyda'r cais neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch:

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
Tîm Cefnogi Plant a Theuluoedd
Y Ganolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763515 (01639) 763515 voice +441639763515