Llywodraethwyr Ysgolion
Rôl Llywodraethwr Ysgol
Mae eich ysgol leol yn gwerthfawrogi'r rôl a chwaraeir gan ei holl randdeiliaid. Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn ffordd bwysig y gallwch helpu'ch ysgol leol.
Mae llywodraethwyr ysgol yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn darparu'r addysg orau bosib i blant a phobl ifanc Castell-nedd Port Talbot. Ynghyd â'r Pennaeth, sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol o ddydd i ddydd, maent yn pennu nodau a pholisïau'r ysgol yn ogystal â chyflawni nifer o ddyletswyddau eraill gan gynnwys penderfynu sut caiff cyllideb yr ysgol ei gwario, penodi a diswyddo staff a llunio polisi ar gwricwlwm yr ysgol.
Pe baech yn dod yn llywodraethwr ysgol, rhoddir cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i chi ar gyflawni'r rôl gan ein Swyddogion Cefnogi a Hyfforddi Llywodraethwyr.
Y cyfnod arferol a dreulir gan lywodraethwr ysgol yn y swydd yw pedair blynedd. Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn gofyn llawer ond mae'n werth chweil ac yn ffordd dda o gyfrannu i'ch cymuned leol. Nid oes rhaid i chi fod yn rhiant plentyn yn yr ysgol, ond os ydych, gallwch wybod hefyd eich bod yn cael dylanwad uniongyrchol ar ansawdd addysg eich plentyn.
Rôl a chyfrifoldebau'r corff llywodraethu
Mae rolau a chyfrifoldebau'r corff llywodraethu'n cynnwys tri maes allweddol
Cyfeiriad strategol
- pennu amcanion ar gyfer yr ysgol.
- cytuno ar bolisïau, cynlluniau a thargedau ar gyfer gwelliant i gyd-fynd â'r amcanion hynny.
- monitro a gwerthuso effaith y polisïau.
Cyfaill beirniadol:
- yn gofyn cwestiynau perthnasol ond holgar mewn modd cefnogol, gonest ac ymddiridedus.
- monitro effaith y polisïau a'r cynlluniau.
Atebolrwydd:
- dal y Pennaeth a'r staff i gyfrif am berfformiad yr ysgol.
- bod yn atebol i'r rhieni ac eraill am waith y corff llywodraethu wrth benderfynu cyfeiriad strategol yr ysgol.
- pennu'r cylch gorchwyl ar gyfer yr unigolion, y pwyllgorau a’r gweithgorau hynny y mae'r corff llywodraethu'n dirprwyo tasgau iddynt.
- atebolrwydd cyfreithiol.
Dechrau arni - gyda phwy y byddaf yn gweithio?
Yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â chyd-lywodraethwyr, byddwch hefyd yn ymwneud â staff yr ysgol, yr Esgobaeth (ar gyfer llywodraethwyr ysgolion Catholig a'r Eglwys yng Nghymru), arolygwyr Estyn, eich Swyddog Datblygu, y Swyddog Cefnogi Cynradd a swyddogion eraill o'r Awdurdod Lleol.
Y person mwyaf arwyddocaol y bydd y corff llywodraethu'n gweithio gydag ef fydd pennaeth eich ysgol, y mae ganddo, fel gweithiwr proffesiynol arweiniol, yr wybodaeth a'r mynediad i wybodaeth y mae eu hangen ar lywodraethwyr er mwyn gweithio'n effeithiol.
Mae gan lywodraethwyr a phenaethiaid feysydd cyfrifoldeb sydd wedi'u diffinio'n fras yn eu hysgol.
Mae'r corff llywodraethu'n gweithio gyda'r pennaeth i ddarparu gweledigaeth a fframwaith strategol.
Mae'r pennaeth yn gyfrifol am reolaeth weithredol a sicrhau bod polisïau cytunedig yn cael eu rhoi ar waith.
Bydd gennych gyfle hefyd i weithio gyda staff eraill yn yr ysgol o bryd i'w gilydd.
Er enghraifft, efallai eich bod am wybod mwy am addysgu Saesneg yn yr ysgol, a allai olygu trafodaethau â'r aelod o staff sydd â chyfrifoldeb arweiniol am y pwnc.
Beth yw fy nghyfrifoldebau presonnol?
Cydgyfrifoldeb
Fel llywodraethwr byddwch bob amser yn gweithredu fel rhan o dîm â chydgyfrifoldeb. Mae'n debyg y bydd yn dda gennych glywed cyhyd ag y bo modd dangos y gwnaed penderfyniadau'n ddidwyll, nid oes gan y corff llywodraethu na llywodraethwyr unigol unrhyw atebolrwydd cyfreithiol.
Fodd bynnag, mae'n bosib y gofynnir i chi ymgymryd â thasg ar ran y corff llywodraethu. Er enghraifft, bod yn aelod o banel penodi, neu helpu i fonitro agwedd benodol ar waith yr ysgol. Cofiwch nad oes gan lywodraethwyr unigol unrhyw awdurdod i weithredu ar ran y corff llywodraethu oni bai y gofynnwyd yn benodol iddynt wneud hynny.
Materion ymarferol
Presenoldeb
PresenoldebMae'n bwysig iawn bod llywodraethwyr yn gwneud pob ymgais i fynd i gynifer o gyfarfodydd â phosib oherwydd rhaid i o leiaf hanner y corff llywodraethu fod yn bresennol i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau cyfrwymol.
Os bydd rhywbeth annisgwyl yn eich atal rhag cyrraedd cyfarfod, rhowch wybod i'ch clerc cyn gynted â phosib.
Gall llywodraethwr gael ei anghymwyso os yw'n peidio â mynychu cyfarfodydd dros chwe mis heb ymddiheuro neu lle mae'r corff llywodraethu'n gwrthod ei ymddiheuriad.
Pwyllgorau
Gwneir llawer o waith y corff llywodraethu drwy bwyllgorau. Siaradwch â'ch cadeirydd i sicrhau eich bod yn chwarae rhan yn y pwyllgor a fyddai'n elwa fwyaf o'ch doniau a'ch sgiliau unigol
Paratoi
Rhaid i chi ganiatáu digon o amser i ddarllen papurau'r cyfarfod cyn y cyfarfod i sicrhau eich bod yn deall y materion.
Byddwch yn barod i ofyn cwestiynau gwybodus
Gall fod yn ddefnyddiol i chi wneud nodyn ohonynt ar bapur. Cofiwch bob amser nad ydych yno i gadarnhau'r penderfyniadau a wnaed gan eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrannu ac yn dweud eich dweud.
Cyfrinachedd
Bydd angen ystyried nifer o'r trafodaethau y byddwch yn rhan ohonynt yn gyfrinachol am un rheswm neu'i gilydd. Mae'n hanfodol bod yr holl lywodraethwyr yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Yn ôl y rheoliadau, mae'n ofynnol bod cofnodion cyfarfodydd sydd wedi'u llofnodi ar gael ar gais. Bydd angen i'r corff llywodraethu benderfynu pa wybodaeth gellir rhyddhau.
Mewn undod y mae nerth
Er lles yr ysgol, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu ddangos eu bod yn unedig ar bob adeg. Mae trafodaeth fywiog yn rhan iach o'r broses benderfynu yn ystod cyfarfodydd, ond cyfrifoldeb yr holl lywodraethwyr yw cefnogi penderfyniad unwaith y ceir un, hyd yn oed os aeth y bleidlais yn eich erbyn. Bydd monitro'r corff llywodraethu'n dangos os nad yw'r cam gweithredu y cytunwyd arno'n cael yr effaith gadarnhaol angenrheidiol ar waith yr ysgol.
Beth gallaf ei gyfrannu?
Fy sgiliau a'm profiad
Nid oes gofyniad ffurfiol i lywodraethwyr feddu ar wybodaeth neu brofiad penodol, ond bydd angen i bob llywodraethwr fod yn ymrwymedig i'r canlynol:
- yr awydd i sicrhau'r addysg orau bosib i bobl ifanc.
- gweithredu'n deg, yn ddoeth, yn bwyllog a chyda gonestrwydd.
- cyfle cyfartal.
- y gallu i weithio fel aelod o dîm.
- cymryd rhan mewn hyfforddiant, datblygiad a hunanwerthuso.
- meddu ar agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau.
Sut i ddod yn Llywodraethwr Ysgol
Os oes diddordeb gennych mewn dysgu mwy am ddod yn llywodraethwr a'r hyn sydd ynghlwm wrth y rôl:
Swyddi Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan yr Awdurdod Lleol
Tymor y hydref 2024
- Baglan Primary School
- Bryncoch CIW Primary School
- Coedffranc Primary School x 2
- Creunant Primary School x 2
- Crynallt Primary School
- Cwmnedd Primary School
- Godre'rgraig Primary School
- Llangatwg Community School x 3
- Melin Primary School
- Rhydyfro Primary School
- St Joseph's RC School & 6th Form Centre
- Tairgwaith Primary School
- YGG Blaendulais
- YGG Gwaun-Cae-Gurwen
- YGG Trebannws
Hyfforddiant
Lawrlwythiadau