Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Uwchradd

Mae gan bob ysgol uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot Gwnselydd mewn Ysgolion. Os cewch eich addysgu gartref, ticiwch y blwch 'addysgir gartref'. Gall materion yr hoffech eu trafod gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • eich iechyd meddwl a'ch lles emosiynol
  • pwysau teuluol
  • perthynas â rhieni a brodyr a chwiorydd
  • teimladau o bryder
  • gweld eisiau bod yn yr ysgol
  • pryderon ynghylch dychwelyd i'r ysgol
  • hwyliau isel
  • hunanwerth
  • teimlo dan straen
  • anhawster i rheoli teimladau o ddicter
  • digwyddiadau anodd yn y gorffennol

Os ydych yn teimlo na allwch gadw eich hun yn ddiogel, cysylltwch:

Tîm Argyfwng
(01639) 862752 (01639) 862752 voice +441639862752

neu eich meddyg teulu.

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu.

Yn olaf, os ydych yn teimlo nad ydych yn ddiogel yn eich cartref, cysylltwch:

Gwasanaethau Cymdeithasol
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

neu

Child Line
(0800) 1111 (0800) 1111 voice +448001111