Datganiad I'r Wasg
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Buddsoddi mewn Prosiectau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot
21 Awst 2024
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gwneud cynnydd mawr tuag at fynd i'r afael â heriau rhifedd sy'n wynebu trigolion Castell-nedd Port Talbot drwy fuddsoddi mewn wyth prosiect arloesol o dan raglen ‘Lluosi’. Mae'r prosiectau'n cynnig gweithdai a chyrsiau rhifedd am ddim sydd â'r nod o wella sgiliau mathemateg beunyddiol trigolion, waeth beth fo'u cefndir ac, yn y rhan fwyaf o achosion, eu cymwysterau blaenorol, a thrwy hynny wella rhagolygon cyflogaeth a llesiant cyffredinol trigolion.
Mae'r prosiectau wedi'u teilwra yn unol ag anghenion amrywiol poblogaeth oedolion CNPT, gan gwmpasu amrywiaeth eang o ymyriadau rhifedd, gan gynnwys hyfforddiant rhifedd i gyflogeion, cymorth i rieni wrth iddynt helpu eu plant â'u gwaith mathemateg, cyrsiau rheoli arian, a sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithle.
Caiff rhaglen ‘Lluosi’ yng Nghastell-nedd Port Talbot ei chynnal drwy'r canlynol:
Mae Rhifedd yn Bwysig gan Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot: Cyrsiau rhifedd hyblyg er mwyn helpu cyflogwyr lleol i ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu. Mae'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyflwyno, gan gynnwys e-ddysgu, hyfforddiant wyneb yn wyneb, sesiynau yn y gweithle, yn ogystal â dulliau hybrid ac o bell. Mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn cynnig dau gwrs ‘Lluosi’ ychwanegol, sef ‘Rhifedd yn y Cartref’, ar gyfer plant a theuluoedd sydd am wella eu sgiliau rhifyddeg sylfaenol a'u sgiliau mathemateg beunyddiol; a ‘Rhifedd ar gyfer Llwyddiant’, sef gweithdai dwys a hyblyg ar gyfer oedolion sydd am uwchsgilio a dychwelyd i fyd addysg.
Lluosi gan Whitehead-Ross Education and Consulting Ltd: Ymyriadau rhifedd fel Rhifedd i Rieni, Rheoli Arian, a Sgiliau Mathemateg ar gyfer Gwaith Adeiladu.
Cynyddu Eich Hyder gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned CNPT: Cyrsiau am ddim sy'n amrywio o rifedd sylfaenol i gymwysterau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru, gan dargedu carfanau amrywiol fel pobl sy'n gadael gofal, pobl sydd ar brawf, a theuluoedd sy'n wynebu heriau ariannol.
Coginio ar Gyllideb gan Weithdy DOVE: Cyrsiau arloesol sy'n cyfuno sgiliau cyllidebu â sesiynau coginio ymarferol, gan fynd i'r afael â heriau rhifedd mewn lleoliadau go iawn. Mae'r dull unigryw hwn yn meithrin llythrennedd ariannol gan hyrwyddo arferion bwyta iach.
Lluosi – Cyfrifo eich Potensial gan Educ8 Training Ltd: Gweithdai rhifedd ar gyfer trigolion lleol a chyrsiau sydd wedi'u teilwra yn unol ag anghenion cyflogwyr, gan gynnwys hyfforddiant Excel a sesiynau llythrennedd ariannol.
Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle gan INSPIRE Training: Cyfle i bobl sydd mewn gwaith wella eu sgiliau rhifedd drwy gyrsiau llythrennedd digidol ynghyd ag astudio sut i ddadansoddi data, cyflwyno data a llunio fformiwlâu. Bydd y prosiect hwn yn helpu pobl a busnesau i ailhyfforddi, ailsgilio ac uwchsgilio drwy gyfuniad o ddysgu traddodiadol, dysgu ar-lein a dysgu yn y gwaith.
Dywedodd Cynghorydd Castell-nedd Port Talbot Jeremy Hurley, sef yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd:
“Mae'n bleser mawr gweld mentrau pwysig o'r fath yn cael eu cefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Maen nhw'n allweddol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau rhifedd sy'n wynebu rhai o'n trigolion a meithrin diwylliant o ddysgu gydol oes a datblygu sgiliau.
Nid yn unig y mae'r mentrau hyn yn gwella galluoedd unigolion, ond maen nhw hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cymuned gryfach a mwy cydnerth.
Rwy'n annog yr holl drigolion i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiectau Lluosi.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â spfnpt@npt.gov.uk