Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Penodi Frances O'Brien yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

MAE CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT wedi penodi Frances O'Brien yn Brif Swyddog Gweithredol newydd i olynu Karen Jones a gyhoeddodd ei phenderfyniad i ymddeol yn gynharach eleni.

Penodi Frances O'Brien yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt: “Mae'n bleser gennym groesawu Frances fel ein Prif Weithredwr newydd yn dilyn proses recriwtio drwyadl.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Frances i wynebu'r heriau niferus a manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd o'n blaenau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ar hyn o bryd, Frances yw Prif Swyddog Cymunedau a Lle Cyngor Sir Fynwy, ac mae wedi bod yn y rôl honno ers mis Medi 2018.

Mae ei phortffolio amrywiol yn cynnwys caffael, cynllunio, tai a digartrefedd, priffyrdd, ailgylchu a gwastraff, cyfiawnder cymdeithasol, gwasanaethau digidol, datblygu economaidd a chyflogaeth a sgiliau.

Cyn hynny, bu Frances yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am 12 mlynedd, a hynny'n bennaf mewn rolau ym maes ailgylchu a gwastraff, ond hefyd ar secondiad o bryd i'w gilydd ym meysydd rheoli prosiectau, trefniadau partneriaeth a chwmnïau masnachu.

Ar ddiwedd ei chyfnod ym Mlaenau Gwent, Frances oedd Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus y cyngor, gan dreulio tua dwy flynedd yn y rôl. Mae Frances hefyd wedi gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (2004 - 2005) a hi yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Cadwyn yng Nghaerdydd hefyd.

Dywedodd Frances, sy'n hanu o Gastell-nedd Port Talbot: “Rwy'n anhygoel o falch o fod wedi cael cynnig a derbyn swydd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn Sir Fynwy yn fawr, ac rwy'n falch o'r hyn rydyn ni wedi gallu ei gyflawni a'i ddarparu ar y cyd â chydweithwyr, partneriaid ac arweinwyr gwleidyddol y sir. Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac roedd y cyfle i ddychwelyd a helpu i fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer y dyfodol a llywio dyfodol newydd i Gastell-nedd Port Talbot yn rhy dda i'w golli.

Rwy'n ymroddedig ac yn frwdfrydig dros lywodraeth leol a'i rôl hanfodol yn ein cymunedau.

Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at ddechrau arni a gweithio ochr yn ochr â'n staff, trigolion, busnesau a chymunedau i wireddu gweledigaeth y cyngor yn y sir fywiog ac uchelgeisiol hon.

Dywedodd y Prif Weithredwr sy'n ymadael, Karen Jones: “Rwyf wrth fy modd bod y cyngor wedi llwyddo i wneud penodiad mor dda. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Frances yn ei rôl newydd ac yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda hi i sicrhau cyfnod pontio didrafferth. Mae hwn yn lle arbennig ac mae gen i bob ffydd y bydd Frances yn gweithio'n galed i wella bywydau pobl leol ac adeiladu dyfodol mwy disglair ar gyfer ein holl gymunedau.”  

 

hannwch hyn ar: