Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cytuno y bydd yr Arweinydd yn mynegi ‘pryder difrifol’ i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllid cynghorau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynnig yn galw ar ei Arweinydd, y Cyngh. Steve Hunt, i ysgrifennu llythyr i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn mynegi pryder difrifol ynglŷn â chyllid ar gyfer cynghorau lleol.

Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt

Cafodd y cynnig trawsbleidiol ei drafod mewn cyfarfod llawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd Gwener, 26 Gorffennaf 2024.

Mae'n dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru gynllunio ar gyfer DIM cynnydd yn y Grant Cynnal Refeniw (yr arian a roddir gan Lywodraeth Cymru i gynghorau er mwyn darparu gwasanaethau) yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r cynnig yn dweud y dylai'r llythyr gan y Cyngh. Hunt fynegi pryder difrifol ynglŷn â'r posibilrwydd na fydd cynnydd yn y Grant Cynnal Refeniw a galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddarparu digon o gyllid er mwyn i gynghorau allu bod yn gynaliadwy.

Wrth annerch y cyngor, dywedodd y Cyngh. Simon Knoyle, sef Aelod Cabinet y cyngor dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anwadal iawn o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang a domestig.

Yn benodol, mae COVID-19 wedi gadael gwaddol sylweddol gyda chynnydd yn nifer y bobl y mae angen iddynt gael cymorth gan wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd, a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae arnynt angen cymorth ychwanegol i fynd i'r ysgol a chymryd rhan yn eu haddysg.

“Mae prisiau ynni, chwyddiant cyffredinol a chyfraddau llog wedi cynyddu'n sydyn. Er bod chwyddiant bellach wedi dychwelyd i 2%, mae llawer o nwyddau a gwasanaethau yn fwy costus o hyd ac mae prisiau ynni a chyfraddau llog yn dal yn uchel. Mae'r argyfwng costau byw yn parhau ac mae llawer o'n trigolion a'n busnesau lleol yn wynebu caledi ariannol.

“Mae wedi mynd yn fwy heriol cyflawni prosiectau cyfalaf ac, er bod y cyngor yn manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd datblygu economaidd sylweddol a hefyd yn bartner allweddol yn yr ymateb i newidiadau heriol a chymhleth yn Tata Steel UK Ltd, mae sicrhau bod digon o adnoddau ar gael er mwyn delio ag effaith gronnol y datblygiadau hyn yn her tra bydd y sefyllfa'n dal yn ansicr.

“Roedd setliadau refeniw gan Lywodraeth Cymru yn y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf – 2023/24 a 2024/25 – yn llawer is na'r hyn roedd ei angen ar y cyngor i ddarparu ei wasanaethau a chyflawni ei swyddogaethau. Nodwyd pwysau ychwanegol gwerth tua £70m ar gyfer y cyfnod dwy flynedd a darparodd Llywodraeth Cymru tua £26.9m o gyllid ychwanegol.

“Nid yw'r Llywodraeth Lafur newydd wedi dweud p'un a fydd yn addasu ei chynlluniau gwariant presennol ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori, ar gyfer 2025-26, y dylem gynllunio ar sail cynnydd o sero y cant i'r Grant Cynnal Refeniw.

“Bydd y blynyddoedd lawer o gyni, ynghyd â'r gyfres o ddigwyddiadau economaidd annisgwyl dros y blynyddoedd diwethaf a'r posibilrwydd o leihad sylweddol pellach yn sylfaen gyllid y cyngor, yn arwain at ganlyniadau cyffredinol negyddol iawn o ran ein gwasanaethau a'n swyddogaethau, nifer y bobl y byddwn yn gallu eu cyflogi a chyfraddau'r dreth gyngor, ffioedd a thaliadau.”

 

                   

hannwch hyn ar: