Datganiad I'r Wasg
Cyngor yn llofnodi siarter i gorffori hawliau rhieni ifanc mewn gofal neu’r rhai sy’n ei adael
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu siarter arloesol sy’n sicrhau arfer dda o ran cefnogi mamau a thadau ifanc mewn gofal neu sydd yn y broses o adael gofal.
Cafodd y siarter, Cefnogi Rhieni Mewn Gofal ac wrth Adael Gofal, ei datblygu gan rieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol o elusennau a chynghorau lleol.
Mae’n addo cynnal safonau cefnogaeth newydd i’r rheiny sy’n dechrau teulu ac yn ymrwymo Cyngor Castell-nedd Port Talbot i daclo gwahaniaethu a stigma a wynebir gan y rhieni hynny.
Cytunodd aelodau o Gabinet Castell-nedd Port Talbot i fabwysiadu’r siarter genedlaethol yn eu cyfarfod ddydd Mercher 10 Gorffennaf, 2024.
Mae’n amlinellu canllawiau ac ymrwymiadau oddi wrth Gyngor Castell-nedd Port Talbot o ran cefnogi pobl dan 25 yn eu rôl fel rhieni. Mae’n amlinellu sut y bydd y cyngor yn eu helpu i baratoi at ddod yn rhieni, eu cefnogi pan ddôn nhw’n rheini a’u cynorthwyo i oresgyn yr anfanteision a ddaw ar draws ei llwybr yn aml.
Ymysg yr ymrwymiadau allweddol mae:
- Sicrhau Anghenion Hanfodol: mae’r cyngor yn addo darparu hanfodion sylfaenol i rieni ifanc, gan gynnwys lle sefydlog i fyw, cefnogaeth ariannol ac eitemau hanfodol i’r babi.
- Addysgu ar Hawliau ac Adnoddau: Bydd rhieni ifanc yn cael gwybod am eu hawliau a’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw, gan gynnwys mynediad i fudd-daliadau, grantiau ac adnoddau lleol, gan sicrhau eu bod wedi’u harfogi’n dda i ddarparu dros eu plant.
- Cefnogaeth Rianta Ymarferol: Mae’r cyngor yn ymrwymo i gefnogi’n barhaus, o ofal sylfaenol fel newid cewyn a rhoi bath, i gofrestru lle mewn ysgol, gwasanaethau meddygol, a mwy.
O dan y siarter, bydd y cyngor yn:
- Darparu Adnoddau i Herio Rhagfarn: Gwneir ymdrechion i addysgu a dileu stereoteipiau negyddol am rieni mewn gofal ac wrth ei adael.
- Arferion Asesu Teg: Bydd y cyngor yn sicrhau fod asesiadau rhianta’n cael eu seilio ar allu presennol yn hytrach na hanes gofal o’r dyfodol, gan roi mynediad i eiriolaeth a chyngor cyfreithiol yn ôl y galw.
- Diogelu Hawliau Rhieni: Cefnogir rhieni ifanc i sicrhau nad yw eu cofnodion gofal yn cael eu defnyddio’n annheg yn eu herbyn, a bydd ganddynt hawl i gael eu hasesu a’u trin yn deg.
Dywedodd Aelod Cabinet y cyngor dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Jo Hale: “Mae’r ymrwymiad hwn yn tanlinellu enw da’r cyngor am ymroddiad i gefnogi pobl ifanc mewn gofal.
“Mae’r cyngor eisoes wedi ymrwymo i adolygu a gwella’n barhaus y gefnogaeth a roddir i rieni mewn gofal ac wrth ei adael. Byddwn ni’n gweithio law yn llaw â rhieni, darparwyr gwasanaethau, ac elusennau i sicrhau fod ymrwymiadau’r siarter yn cael eu cynnal a bod y gefnogaeth yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.”
Addysgir y siarter gan ymchwil eang, yn benodol yr astudiaeth bum mlynedd o hyd a arweiniwyd gan Dr Louise Roberts yn CASCADE, Prifysgol Caerdydd.
Roedd y prosiect hwn, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cynnwys mewnwelediad gan rieni a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru, gan dynnu sylw at yr angen am well cefnogaeth, a hwnnw’n gyson, ar gyfer rhieni sydd wedi profi gofal.
Mae mabwysiadu’r siarter yn ddibynnol ar gyfnod galw-i-mewn o dridiau.