Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Hysbysiad Cau Ffyrdd – Cwmafan

Bydd Depot Road yng Nghwmafan ar gau i'r ddau gyfeiriad am bythefnos yn dechrau ddydd Mawrth 28 Mai. Hefyd, bydd mynediad cyfyngedig i ran ar wahân o Depot Road a Rhes Tŷ'r Owen yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r ffyrdd a rhoi wyneb newydd arnynt.

Hysbysiad Cau Ffyrdd – Cwmafan

Gweler y map am fanylion yr ardaloedd lle y bydd ffyrdd ar gau.

Ardal 1 (Depot Road) – Cau'r ffordd yn llwyr drwy gydol cyfnod y gwaith.

Ardal 2 (mynediad i Res Tŷ’r Owen) – Mynediad i breswylwyr yn unig yn ystod oriau gwaith. Ar agor i holl ddefnyddwyr y ffordd (pan fydd modd) o 6pm.

Ardal 3 (cyffordd Depot Road) – Ar agor i holl ddefnyddwyr y ffordd (pan fydd modd) o 6pm

Bydd arwyddion yn dangos llwybr gwyriad sy'n addas i'r holl draffig a cherbydau nwyddau trwm.

Bydd mynediad i gerddwyr at gartrefi, siopau, busnesau a'r ysgol yn parhau drwy gydol y cyfnod o gau ffyrdd. Bydd mynediad i gerbydau argyfwng hefyd yn parhau.

Gofynnir i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd dan sylw wneud trefniadau amgen ar gyfer parcio eu ceir. Bydd yr holl breswylwyr yr effeithir arnynt yn cael llythyr yn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau i'w casgliadau ailgylchu.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a gwerthfawrogwn eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Newidiadau i Drafnidiaeth Gyhoeddus:

Trefniadau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol:

Ni fydd Gwasanaeth 83 na Gwasanaeth Coleg 902 yn gwasanaethu Depot Road. Caiff y bws ei wyro drwy Heol Jiwbilî a Theras Tabernacle. I breswylwyr Depot Road, bydd y safle bws agosaf ar Heol Jiwbilî, neu gallant alw ar y bws ar hyd Teras Tabernacle neu'r tu allan i Ynys y Wern.

Ni fydd Gwasanaeth 81 o Bort Talbot i Frynbryddan yn gwasanaethu Depot Road na Heol Jiwbilî. Bydd yn rhaid i breswylwyr Heol Jiwbilî ddal Gwasanaeth 83 i Bort Talbot ac oddi yno. Bydd Gwasanaeth 81 yn gwasanaethu Teras Tabernacle, yn mynd ar hyd ei daith arferol drwy Heol Cwmclais, Heol Brynna, Heol Mabon a Heol Camlas ac yn gadael yn ôl ar hyd Teras Tabernacle. Ni fydd yn gwasanaethu Heol Jiwbilî.

Trefniadau ar gyfer cludiant rhwng y cartref a'r ysgol:

Ni fydd bysiau ysgol CWMB6 i Gwmbrombil a weithredir gan DJ Thomas Coaches na gwasanaeth 449 i Ysgol Gyfun Gatholig Joseff Sant a weithredir gan Llynfi Coaches yn teithio ar hyd Depot Road. Bydd y bysiau'n gweithredu drwy Heol Jiwbilî a Theras Tabernacle. I ddisgyblion sydd fel arfer yn dal y bws ar hyd Depot Road, gyferbyn ag Ysgol Cwmafan ac ar Heol Cwmafan ger Caeglas, bydd y safle bws agosaf ar Heol Jiwbilî neu gallant alw ar y bws ar hyd Teras Tabernacle neu yn Ynys y Wern.

Bydd gwasanaeth bws mini 418 Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant a weithredir gan Llynfi Coaches yn parhau i ddilyn yr un llwybr ond yn teithio ar hyd Stryd Fawr yn y bore er mwyn casglu disgyblion o Gaeglas. Ni fydd y newidiadau'n effeithio ar ddisgyblion sy'n teithio ar y bysiau ysgol sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd Cwmafan o'r tu allan i'r pentref ond bydd y cerbydau'n mynd ffordd wahanol i'r ysgol ac oddi yno, ar hyd Heol Jiwbilî, Teras Tabernacle a Stryd Fawr.

hannwch hyn ar: