Marchnad Dan Do Castell-nedd yn ymuno ag ymgyrch Love Your Local Market
Marchnad Dan Do Castell-nedd yn ymuno ag ymgyrch Love Your Local Market
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
17 Mai 2024
Mae Marchnad Dan Do Castell-nedd yn ymuno a mwy na 400 o farchnadoedd ledled y DU i ddathlu ‘Love Your Local Market’, sef ymgyrch pythefnos o hyd sy'n tynnu sylw at rôl bwysig marchnadoedd yng nghanol ein trefi.
Caiff yr ymgyrch ei chynnal o ddydd Gwener 17 Mai tan ddydd Sadwrn 1 Mehefin, dan arweiniad Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain, a'i nod yw hyrwyddo a dathlu marchnadoedd lleol ledled y byd.
Ar hyn o bryd, mae Marchnad Dan Do Castell-nedd yn gartref i fwy na 30 o fasnachwyr, gan amrywio o gynnyrch lleol ffres i werthwyr blodau, rhoddion ac opsiynau cludfwyd blasus. Mae'r farchnad ar agor rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Mae hanes cyfoethog y farchnad yn ychwanegu at ei swyn, gan fod y farchnad gyntaf ar y safle yn dyddio'n ôl i tua 1837. Cafodd y farchnad ei hailadeiladu bron yn gyfan gwbl yn 1904, ac mae wedi bod yn atyniad hollbwysig i ymwelwyr â'r dref a thrigolion lleol byth ers hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae'n bleser gennym fod yn rhan o ymgyrch sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o farchnadoedd lleol.
“Mae Marchnad Dan Do Castell-nedd yn rhan fawr o hanes canol y dref ac mae'n dal yn atyniad allweddol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'r amrywiaeth o fasnachwyr a chynhyrchion sydd ar gael yn ein hatgoffa pam mae marchnadoedd yn dal yn lleoedd gwych a fforddiadwy i siopa ynddynt.
“Ynghyd â datblygiadau diweddar fel y ganolfan hamdden a'r llyfrgell gwerth miliynau o bunnau, yn ogystal â llwyddo i ddenu busnesau fel Cadno Lounge a The Range, mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref.”
Dywedodd llefarydd ar ran Masnachwyr Marchnad Castell-nedd: “Ym Marchnad Dan Do Castell-nedd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o ymgyrch Love Your Local Market, sy'n taflu goleuni ar farchnadoedd cymunedol. Rydym yn falch o arddangos ein hystod o fasnachwyr lleol ac rydym yn gwahodd pawb i ddod i weld yr amrywiaeth o stondinau sydd gennym yma.
Yn ogystal â dathlu masnachwyr sydd eisoes yno, mae'r farchnad yn defnyddio'r ymgyrch i dynnu sylw at stondinau sydd ar gael i fusnesau newydd sy'n awyddus i sefydlu eu hunain. I gael rhagor o fanylion am stondinau gwag, cysylltwch â Michael Jones drwy e-bostio m.jones2@npt.gov.uk neu ffonio (01639) 686694.
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Love Your Local Market, ewch i: https://loveyourlocalmarket.nabma.com/