Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Ailethol Arweinydd i ymladd dros fwy o arian i dalu am wasanaethau cymunedol hanfodol

MAE’R CYNGHORYDD Steve Hunt wedi addo parhau i ymgyrchu am gynnydd mewn arian ar gyfer cynghorau Cymru ar ôl cael ei ailbenodi’r Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot am y drydedd flwyddyn o’r bron.

Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt

Ailbenodwyd y Cynghorydd Hunt a’r Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Alun Llewelyn i’w swyddi yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y cyngor ddydd Mercher 15 Mai, 2024, ble cadarnhawyd nifer o benodiadau a mesurau gweinyddol eraill hefyd.

Wrth gael ei ailbenodi, dywedodd y Cynghorydd Hunt hyn wrth y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot: “Ar ôl dwy gyllideb eithriadol o heriol, bydd fy sylw eleni ar gynnal cyngor sefydlog a pharatoi ar gyfer safle cyllideb hyd yn oed yn fwy heriol o 2025-26.

“Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydyn ni wedi wynebu costau newydd o £70m, ond dim ond £27m a dderbyniwyd mewn cyllid ychwanegol oddi wrth Grant Cefnogi Refeniw Llywodraeth Cymru.

“Roedd y bwlch yn y gyllideb a wynebwyd gennym yn galw am roi sylw o’r newydd ar reoli costau a chanfod ffynonellau creu incwm newydd. Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion yn y cyngor a’r partneriaid yn yr undebau llafur am eu cefnogaeth i gyflawni cyllideb gytbwys, sy’n dal i allu gwarchod swyddi a’r gwasanaethau y mae ein preswylwyr yn dibynnu arnyn nhw.

“Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu mai 0% fydd Setliad y Grant Cefnogi Refeniw ar gyfer 2025-26 neu hyd yn oed leihad yn y grant.

“Mewn cyfnod pan rydyn ni’n dal i deimlo effaith chwyddiant a gwasgfeydd codiadau cyflogau na chawsant mo’u hariannu ar draws y system, pan fo teuluoedd yn parhau i ymgodymu â chostau byw a lefelau uchel iawn o alw ar draws gwasanaethau, mae’r setliad arfaethedig yn peri pryder mawr.

“Rwyf eisoes wedi ysgrifennu ar y cyd â’r undebau llafur at Weinidogion, gan dynnu sylw at oblygiadau’r strategaeth hon, ond bydd mwy o gynrychioli’n cael ei wneud, gan gynnwys drwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) dros y misoedd i ddod, a hoffwn wasgu arnoch chi i godi eich llais drwy gyfrwng eich sianelau chi.

“Hefyd, byddwn ni[‘n parhau i weithio ar yr ystod o gyfleoedd datblygu economaidd sydd mor bwysig wrth ddod â swyddi newydd sy’n talu’n dda i mewn i’n hardal.”

“Mae hyn oll hyd yn oed yn fwy arwyddocaol o ystyried effaith y newidiadau arfaethedig yn  Tata Port Talbot. Wrth i ni wneud y gwaith hwn, byddwn ni’n canolbwyntio’n enwedig ar sut y gellir helpu pobl a busnesau lleol i fanteisio ar y cyfleoedd newydd rydyn ni’n gweithio mor galed i’w sicrhau.”

hannwch hyn ar: